Children in front of world map
©

Shutterstock

Arolwg Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2023

Dyddiad cau: Dydd Mercher 21 Gorffennaf

Mae’r ymchwil yma’n darparu darlun pwysig ac annibynnol o sefyllfa addysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a cholegau ôl-16 yng Nghymru.

Rydym yn awyddus i glywed gan holl ysgolion a cholegau Cymru, gan gynnwys y rheini lle nad yw’r nifer sy’n dewis dysgu ieithoedd rhyngwladol gymaint ag y gallai fod.

Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i gwblhau’r arolwg.

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg yw Dydd Mercher 21 Gorffennaf, ond yn ddelfrydol fe hoffem dderbyn eich ymateb cyn gynted â phosibl.

Rydym wedi llunio arolwg penodol ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau.

I gymryd rhan, dewiswch yr arolwg perthnasol ar gyfer eich sefydliad os gwelwch yn dda:

Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad yn gynnar yn hydref 2023. Gallwch ddarllen adroddiadau Tueddiadau Ieithoedd Cymru blaenorol yma:

Hoffem ddiolch yn fawr i chi ymlaen llaw am eich ymateb.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych, neu os cewch unrhyw drafferth wrth gyrchu’r arolwg, cysylltwch â ni yn: languagetrends@qub.ac.uk

Rhannu’r dudalen hon