Rydyn ni'n awyddus iawn i glywed gan holl ysgolion uwchradd a cholegau Cymru, gan gynnwys y rheini lle nad yw'r nifer sy'n dewis astudio ieithoedd rhyngwladol mor uchel ag y gallai fod.
Ni ddylai gymryd mwy na 15 munud i gwblhau'r arolwg.
Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r arolwg yw Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024, ond yn ddelfrydol hoffem glywed gennych cyn gynted â phosibl.
Mae'r arolygon wedi cael eu categoreiddio ar gyfer colegau ac ysgolion uwchrad:
Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad yn yr hydref eleni. Gallwch weld adroddiadau Tueddiadau Ieithoedd Cymru blaenorol yma.
Hoffem ddiolch yn fawr i chi ymlaen llaw am eich ymateb.
Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, neu os cewch unrhyw anhawster wrth agor neu lywio drwy'r arolwg, cysylltwch â'n tîm ymchwil yma: languagetrends@qub.ac.uk
Rydyn ni hefyd yn awyddus i glywed gan ysgolion cynradd, ac eleni mae gwahoddiad i ddisgyblion Blwyddyn 6 greu poster am ieithoedd a chymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Poster Tueddiadau Ieithoedd Cymru!