Gan Jenny Scott, Director, British Council, Wales

08 Hydref 2020 - 11:22

Rhannu’r dudalen hon
Bachgen a byd
©

Shutterstock

Mae nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghymru yn parhau i ddirywio. Yma mae Jenny Scott yn cyflwyno’r achos o blaid addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol ac yn ystyried sut y gallwn gynyddu’r nifer sy’n dewis dysgu iaith ryngwladol.

Cyfleu’r neges bod addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol yn bwysig

Er gwaethaf llond gwlad o dystiolaeth dros y blynyddoedd, yn amlygu holl fanteision dysgu a siarad iaith arall, i unigolion, busnesau a’r economi, mae yna ddiffyg cysylltiad yn rhywle - ac mae’n dal i deimlo fel nad yw’r neges yn cael ei chlywed.

Rydym yn gwybod bod sgiliau rhyng-ddiwylliannol pobl ifanc yn cynyddu os oes ganddynt allu i gyfathrebu mewn iaith ryngwladol, ac maent hefyd yn fwy tebygol o fanteisio ar gyfleoedd dramor ac o ganlyniad, gwella eu rhagolygon gyrfaol. Dengys astudiaethau fod cydberthynas uniongyrchol rhwng dysgu ieithoedd eraill a chyflawniad uwch mewn pynciau eraill, gan gynnwys mathemateg.

Byddai’n deg meddwl, wedi i’r Gyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain gyhoeddi bod bron i ddwy ran o dair o fusnesau yn rhoi gwerth ar weithwyr sydd â sgiliau mewn ieithoedd tramor, a bod 62% yn anfodlon gyda sgiliau iaith ac ymwybyddiaeth o ddiwylliant rhyngwladol y rheini sy’n gadael ysgolion a cholegau, y byddai hynny’n gwneud rhyw fath o wahaniaeth. Ond, mae busnesau’n gosod sgiliau mewn iaith dramor ar waelod eu rhestr o ystyriaethau wrth recriwtio graddedigion. 

Mae tystiolaeth bellach a gyhoeddwyd yn 2019 mewn adroddiad gan y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Ieithoedd Modern yn dangos “bod Busnesau Bach a Chanolig (SME) sy’n defnyddio ieithoedd yn nodi cymarebau allforio/trosiant sydd 43% yn uwch” a bod “y Deyrnas Unedig yn colli 3.5% o Gynnyrch Domestig Gros wrth fethu cyfleoedd busnes oherwydd ein sgiliau iaith gwael.” O ystyried bod Cynnyrch Domestig Gros y Deyrnas Unedig yn £2.2 triliwn yn 2019, mae’r 3.5% yna’n cyfateb i £77 biliwn.

Gwell cyflawniadau addysg, gwell rhagolygon gyrfaol, gwell iechyd ac economi  – a hynny cyn i ni hyd yn oed ystyried y budd cymdeithasol ehangach a ddaw wrth ddysgu iaith, fel dealltwriaeth o wlad arall yn ogystal â’ch gwlad eich hun.

Dirywiad addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern

Mae’r ffigurau’n adrodd y stori. Rydym wedi gweld cwymp serth iawn yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf gyda gostyngiad o 53% yn y nifer sy’n cofrestru ar gyfer TGAU a gostyngiad o 48% ar gyfer Lefel A – ac mae cyfradd y dirywiad yn cynyddu. Ac yn 2020, er bod nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ffrangeg ac Almaeneg wedi sefydlogi rhywfaint, gwelwyd dirywiad cyffredinol o bron i 10% yn y ffigurau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Tramor Modern o’i gymharu â 2019, a dirywiad o 16% yn y ffigurau ar gyfer Lefel A. 

Caiff llawer o resymau eu cyflwyno wrth geisio esbonio’r dirywiad a’r amharodrwydd yma i ddysgu ieithoedd. Tra-arglwyddiaeth fyd-eang yr iaith Saesneg (pam poeni dysgu iaith arall?) neu, o bosib, y dylanwad negyddol a gafodd penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn aml cyfeirir at gwricwlwm gorlawn a thueddiad i roi blaenoriaeth i bynciau eraill, fel STEM er enghraifft, yn ogystal â dirnadaeth bod ieithoedd yn fwy anodd na phynciau eraill ac oherwydd hynny bod disgyblion, rhieni ag ysgolion yn ofni graddau isel.

Un o’r rhesymau mwy digalon am y dirywiad yw nad yw dysgwyr yn gallu astudio’r iaith y maent eisiau oherwydd torriadau yn rhaglenni iaith eu hysgolion neu golegau. Rydym yn gwybod, yn sgil ein hymchwil blaenorol ar Dueddiadau Ieithoedd, bod y mwyafrif llethol o gyrsiau ITM ôl-16 yn cael eu cynnal gyda niferoedd bach iawn o ddysgwyr, ac nad yw darparu cyrsiau ar gyfer cyn lleied o ddysgwyr yn ymarferol yn ariannol.

Mae llunwyr polisi addysg yn dechrau cymryd sylw

Mae’r dystiolaeth am fanteision amlwg dysgu ieithoedd yn blaen – ac o dipyn i beth mae llunwyr polisi yn dechrau cymryd sylw.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi mabwysiadu polisi uchelgeisiol ar gyfer ieithoedd, ar sail y model Ewropeaidd o ‘famiaith a dwy’. Mae’r Adran Addysg yn Lloegr wedi gwneud astudio iaith yn rhan orfodol o Gyfnod Allweddol 2 a 3, ac mae astudio iaith yn cael ei gynnwys fel rhan o Fagloriaeth Lloegr, gyda’r nod o sicrhau bod 90% o holl ddisgyblion Lloegr yn astudio iaith erbyn 2025. Ac nid dim ond yn y Deyrnas Unedig y mae camau at gynyddu’r nifer sy’n astudio ieithoedd yn cael eu cymryd – lansiodd Gweriniaeth Iwerddon ei strategaeth Cysylltu Ieithoedd yn 2017.

Yn 2022, bydd Cymru’n rhoi ei chwricwlwm newydd ar waith. Er bod gan hyn botensial i wella’r ffordd y mae ieithoedd yn cael eu dysgu, nid oedd yr athrawon a ymatebodd i arolwg Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru 2019 yn obeithiol am y rhagolygon ar gyfer ITM, gan gyfeirio at y ffocws a roddir ar Saesneg a Chymraeg. Roeddent hefyd yn nodi bod angen llawer mwy o hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer ysgolion cynradd.

Mae ffyrdd y gallwn atal y dirywiad mewn Ieithoedd Tramor Modern

Yn ddelfrydol, fe fyddai un dull gweithredu syml ac uniongyrchol y gallai llywodraethau, llunwyr polisi, ysgolion, rhieni, dysgwyr a chyflogwyr ei gefnogi ar y cyd.

Byddai ieithoedd rhyngwladol yn rhan o’r cwricwlwm o flwyddyn gyntaf yr ysgol gynradd a byddai pob disgybl yn ymgeisio ar gyfer rhyw ffurf o gymhwyster iaith yn 16 oed. Byddai arweinwyr ysgol a llunwyr polisi yn deall a gwerthfawrogi budd dysgu iaith ar draws nifer o bynciau’r cwricwlwm a’i rôl o ran codi cyrhaeddiad yn gyffredinol.

Byddai cyflogwyr yn glir am y sgiliau a’r staff sydd eu hangen arnynt. Mae hynny’n cynnwys nid yn unig y gallu i siarad iaith arall, ond staff sy’n gallu adeiladu perthnasoedd a dangos y sgiliau o ran ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’r profiad a ddaw’n aml wrth ddysgu iaith.

Mae angen gweithio ar y cyd a mabwysiadu dull cydgysylltiedig o weithredu. Mae clymblaid o sefydliadau, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig, wedi ymuno â galwad yr Academi Brydeinig am strategaeth ieithoedd genedlaethol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan – yn galw am newid agwedd yn ogystal â sicrhau cyfle i bobl ddysgu iaith neu ddatblygu eu sgiliau iaith ar unrhyw adeg yn eu bywyd.

Gwelir elfen o’r dull gweithredu ar y cyd yma hefyd yng ngwaith Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR); mae’r cynllun yma, sydd mor syml a llwyddiannus, wedi cael ei fabwysiadu a’i addasu gan wledydd o gwmpas y byd, fel Canada.

Mae’r dull gweithredu yma’n cydnabod bod myrdd o ffactorau cymleth yn cyfrannu i ddirywiad addysgu a dysgu ITM mewn ysgolion ac yn cyflwyno sail gyffredin ar gyfer maes dysgu ieithoedd – drwy ganolbwyntio ar sut y gall dysgwyr wneud defnydd gwirioneddol o iaith, yn hytrach na chymwysterau. Yn ogystal, ar adeg pan fo Cymru’n ystyried sut i ddatblygu ei arholiadau ei hun, mae CFER yn galluogi cydnabod cymwysterau iaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

Er y dylwn efallai gloi’r blog yma gyda datganiad am sut y gall ieithoedd chwarae rhan allweddol o ran uchelgais rhyngwladol Cymru yn y dyfodol – ni wnaf hynny.      Yr wyf am ddweud mai ymgyrch #WhattheBritishCouncilhasdone, a lansiwyd gan Gyngor y Prifysgolion ar gyfer Ieithoedd Modern, oedd un o fy uchafbwyntiau fy mlwyddyn eleni.

Heb os, un o fy uchafbwyntiau eleni oedd ymgyrch #WhattheBritishCouncilhasdone a lansiwyd gan Gyngor y Prifysgolion ar gyfer ieithoedd Modern. Roedd darllen y straeon bendigedig am sut yr oedd dysgu iaith wedi trawsnewid bywydau pobl yn brofiad gwirioneddol ysbrydoledig – ac yr union beth yr oedd ei angen arnaf i fy atgoffa o pam yr ydym yn gwneud yr hyn yr ydym yn ei wneud. Felly diolch o galon i bawb a gyfranodd – roedd yn goron ar fy niwrnod!

 

Photo of Jenny Scott

Jenny Scott

Director, British Council, Wales

Rhannu’r dudalen hon