Gan Laura Drane, Producer, Caitlin

26 Ebrill 2019 - 10:33

Rhannu’r dudalen hon
Menyw yn gorchuddio ceg dyn gyda'i llaw
©

Warren Orchard

Gan Laura Drane, Cynhyrchydd, Caitlin

Cafodd y cynhyrchiad dawns gwobrwyedig, ‘Caitlin’, ei ddewis i fod yn rhan o dymor ‘Cymru yn Kolkata’. Yma, mae’r cynhyrchydd, Laura Drane, yn disgrifio ei phrofiadau yn Kolkata, a elwir yn aml yn brifddinas ddiwylliannol India.

Mae ‘CAITLIN’ gan Light Ladd & Emberton wedi bod yn teithio’n ysbeidiol ers cael ei gomisiynu yn 2014 fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas. Yn 2017, cafodd ei ddewis i fod yn rhan o Sioe Arddangos y Cyngor Prydeinig yng Nghaeredin – sy’n gyfle i gwmnïau theatr o’r DU i gyflwyno eu gwaith i hyrwyddwyr rhyngwladol. Fe ddeilliodd y daith yma i Kolkata yn uniongyrchol o hynny.

Yn Ionawr 2019, fe deithiodd pedwar o artistiaid a chwmnïau blaenllaw o Gymru: Light Ladd & Emberton, Theatr Iolo, Gary Raymond a Gwobr Dylan Thomas, i Kolkata yn India i gyflwyno gweithiau o fyd theatr, dawns a llenyddiaeth Cymru.

Fel rhan o hynny, fe berfformiodd Light Ladd & Emberton yng Nghwrdd Llenyddol Kolkata TATA Steel, un o wyliau llenyddol mwyaf India, ac mewn canolfannau eraill yn Kolkata a Bolpur/Santiniketan.

Cafodd ‘Cymru yn Kolkata’, tymor o weithgareddau celfyddydol Cymreig a chydweithio artistig, ei gefnogi gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Fe ddeilliodd yr ŵyl hon o’r perthnasau a’r rhwydweithiau a sefydlwyd yn ystod tymor India Cymru, rhaglen sylweddol o gydweithio artistig rhwng Cymru ac India, a gynhaliwyd yn 2017-18.

Cafodd ‘CAITLIN’, cynhyrchiad dawns trwythol, ei berfformio gan Light Ladd & Emberton mewn partneriaeth gyda’r Pickle Factory Dance Foundation o Kolkata. Mae’r sioe nodedig yma, a lwyfanwyd yn y Goethe Institut/Max Mueller Bhavan, yn olrhain perthynas dymhestlog y bardd Cymreig lliwgar, Dylan Thomas, a’i wraig Caitlin.

Yn ystod yr ŵyl, bu Light Ladd & Emberton hefyd yn cynnal gweithdai i rannu ein sgiliau a’n gwybodaeth greadigol. Yn gyntaf, fe wnaethom ni deithio i Santiniketan yng Ngogledd Kolkata i gynnal gweithdy gyda myfyrwyr Kala Bhavana, canolfan ar gyfer ymarfer y celfyddydau gweledol ac ymchwil. Yna, buom ni’n gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc mewn partneriaeth gyda ThinkArts – menter sy’n hyrwyddo a chynnal digwyddiadau celf ar gyfer plant a phobl ifanc. Wedi hynny, cyflwynwyd darlith ym Mhrifysgol Javadpur i selogion byd theatr Kolkata, ac yna fe gynhaliwyd gweithdy yn Padatik, gofod theatr yn Kolkata.

Bu Eddie Ladd, un o artistiaid dawns a pherfformio amlycaf Cymru ac un o berfformwyr ‘CAITLIN’, yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel, ‘Athrylithoedd Cythryblus: Dylan Thomas a Manto’, yng Nghwrdd Llenyddol Kolkata - gyda Ayesha Jalal (hanesydd Pacistanaidd-Americanaidd a gor-nith i’r ysgrifennwr Urdu nodedig Saadat Hasan Manto) a Samantak Das o Brifysgol Jadavpur.

Er y bu’r rhain i gyd yn brofiadau gwerthfawr, fe gawsom y profiad mwyaf arwyddocaol ar ddechrau’r trip yn Kala Bhavana, canolfan ar gyfer ymarfer celf weledol ac ymchwil. Mae’r campws yn gasgliad bendigedig o fannau cyfarfod agored rhwng adeiladau artistig anhygoel. Mae’r myfyrwyr yno’n canolbwyntio ar holl rychwant y celfyddydau gweledol a dylunio, o greu murluniau i wneud printiau i gerflunwaith. Mae gan y brifysgol adrannau eraill hefyd - yn amrywio o economeg i beirianeg. 

Nid y celfyddydau perfformio oedd maes astudio’r myfyrwyr y buom ni’n gweithio gyda nhw; ond roedd nifer ohonynt yn gyfarwydd ag agweddau o’r disgyblaethau hynny yn rhinwedd eu gweithgareddau creadigol ac all-gwricwlaidd eu hunain (ee dawnsio Indiaidd clasurol, theatr amatur, canu/creu cerddoriaeth). Hefyd fe aethom ni ar daith dywys ddiddorol iawn o gwmpas adnoddau’r campws, gan gynnwys amgueddfa a chartref Tagore, y bardd gwobrwyedig gan Nobel.

Gwnaeth Pennaeth yr adran argraff arbennig arnom ni wrth iddo drafod ei brofiadau’n creu a theithio’r celfyddydau yn India a thramor, yn ogystal â’r heriau a’r cyfleoedd y maent yn eu hwynebu. Fe darodd hyn dant gyda nifer o heriau tebyg sy’n ein hwynebu ni yng Nghymru o ran ariannu ac adnoddau, a chefnogaeth wleidyddol a’r cyd-destun cymdeithasol-ddiwylliannol - ond hefyd, yr holl fuddion yr oedd ef yn eu gweld yn deillio o gydweithio rhyngwladol gydag artistiaid a phobl greadigol fel ni. 

Yn aml gallwn edrych ar dripiau fel hyn fel cyfle i fwydo ein prosesau a’n syniadau creadigol, - ond mae yna fwy o arlliwiau na hynny hefyd. Fe ddysgon ni lawer amdanom ein hunain, fe ddysgon ni lawer am India a’r bobl y gwnaethom ni gwrdd ag y buon ni’n cydweithio â nhw. Ac wrth gwrs, ein gobaith yw eu bod hwythau’n teimlo’r un peth ar ôl gweld y sioe ac ymgysylltu â ni mewn darlithoedd, gweithdai a’r holl weithgareddau eraill.

Fe fyddem ni wrth ein bodd yn cael gweld mwy o’r gwaith sy’n cael ei gynhyrchu yn India, gan obeithio hefyd bod cwrdd â ni wedi ysbrydoli pobl i eisiau gwybod mwy am ein gwlad ni, i eisiau gweld mwy o waith o Gymru os yn bosib, a hyd yn oed i deithio yma i Gymru.

Wrth gwrs, fyddai dim o hyn yn bosib heb gefnogaeth yr ariannwyr, y rhanddeiliaid a’n partneriaid. Cafodd CAITLIN ei gomisiynu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer DT100 (2014). Derbyniodd y cynyrchiad yma gefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r Cyngor Prydeinig, ynghyd â TATA Steel, Cwrdd Llenyddol Kolkata a’r Pickle Factory Dance Foundation; a Chapter ac Ysgol Oakleigh House; yn ogystal â phartneriaid lleol yn cynnwys Goethe Institut/Max Mueller Bhavan, Padatik, ThinkArts a Kala Bhavana, Santiniketan.

Rhannu’r dudalen hon