Bydd nifer o berfformiadau cyffrous o Gymru yn ymddangos yng Ngŵyl Caeredin eleni.
Mae’r British Council yn falch o gael cefnogi tri chwmni Cymreig sydd â sioeau newydd sbon yng Nghaeredin fydd yn cael eu cynhyrchu gan Theatr Genedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru:
Wonderman gan Daf James a Gagglebabble
Yn dilyn llwyddiant eu sioe The Bloody Ballad yng Nghaeredin 2013, mae’r cwmni theatr Gagglebabble yn ôl. Fersiwn theatr unigryw o storiâu byrion Roald Dahl i oedolion yw Wonderman, Fe fydd y sioe yn dod i Gaerdydd fel rhan o’r dathliadau canmlwyddiant ym mis Medi.
A Good Clean Heart gan Alun Saunders
The Other Room a Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae’r dramodydd Alun Saunders wedi creu stori am ddau frawd, sydd wedi’u magu ar wahân mewn teuluoedd gwahanol ac ieithoedd gwahanol. Yn ddiweddar, enillodd y ddrama, sydd wedi’i chynhyrchu yn The Other Room: gofod bach sydd yn annog artistiaid i fentro’n fawr, y wobr Stage Fringe Theatre of the Year. Mae ToR wedi cydweithredu â Theatr Genedlaethol i ddod a’r sioe i Fringe Caeredin. Fe fydd isdeitlau wedi’u hanimeiddio yn y ddwy iaith.
Yuri wedi’i chyfarwyddo gan Matilde Lopez
Drama am anffrwythlondeb, sgrabl, archfarchnadoedd, rhyw, cenedlaetholdeb, y dieithryn yn eich ystafell fyw a’r gwiriondeb o fod eisiau magu plant mewn byd gwallgof. Mae’r ddrama hefyd am gariad. Wedi’i chynhyrchu gan August 012, mewn cydweithrediad â Chanolfan Celfyddydau Chapter a Theatr Genedlaethol Cymri, dyma berfformiad cyntaf comedi absẃrd Fabrice Melquiot ym Mhrydain.