Stadiwm Principality, Caerdydd 

Mae’r British Council Wales yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan gyflenwyr profiadol sydd â’r cymwysterau addas i gyflawni prosiect ymchwil uchel ei broffil a fydd yn archwilio’r cyfraniad y gall chwaraeon ei gynnig i waith ymgysylltu rhyngwladol Cymru.

Bydd yr ymchwil yma’n rhan o’n cyfres Dychmygu Dyfodol Byd-eang Cymru, sy’n archwilio potensial grym cymell tawel Cymru. Ers ei lansio yn Ebrill 2018, mae’r gyfres yma wedi comisiynu dau brosiect ymchwil newydd, Baromedr Cymell Tawel Cymru 2018 (Y Cyngor Prydeinig / Portland) ac adroddiad ar ddichonolrwydd Strategaeth Arddangos Celfyddydau Cymru yn Rhyngwladol (Y Cyngor Prydeinig / Visiting Arts). Bwriadwn i’r ymchwil ar rym cymell tawel chwaraeon fod yn ffocws i’r gyfres yn Haf 2019 wrth i Gymru edrych ymlaen at Gwpan Rygbi’r Byd yn Siapan.

Cymru a grym cymell tawel chwaraeon

Cyflwynodd ein hadroddiad, ‘Baromedr Cymell Tawel Cymru 2018’, ganfyddiadau’r Mynegai Grym Cymell Tawel Rhanbarthol. Mae’r Mynegai yma, a gynlluniwyd gan bensaer ‘Soft Power 30’ blynyddol Portland, yn cyfuno dros hanner cant o fetrigau goddrychol a data arolygon rhyngwladol.

Wrth ddewis y deg rhanbarth ar gyfer y Mynegai, yn hytrach na defnyddio fformiwla haearnaidd fe ddefnyddiwyd meini prawf bras, gan gynnwys : lefel eu hawdurdod llywodraethol datganoledig, maint CMC, maint y boblogaeth, rhychwant daearyddol, lefel datblygiad a hanes eu huchelgais rhyngwladol ac ymgysylltiad. Cafodd Cymru ei gosod yn chweched safle Mynegai cyffredinol y deg rhanbarth, gyda Quebec ar y brig. 

Gwelwyd perfformiad gorau Cymru gyda’r mesuryddion gwrthrychol a goddrychol a oedd yn gysylltiedig â chwaraeon: Daeth yn ail yn unig i Gatalwnia o ran y canfyddiadau cadarnhaol sy’n deillio o’i diwylliant chwaraeon.

Ni fydd hyn yn syndod i unrhyw un sydd â gronyn o ddiddordeb mewn chwaraeon.

Geraint Thomas yn cario baner Y Ddraig Goch ar hyd y Champs-Élysées yng nghymal gorymdeithiol olaf y Tour de France; Y Fonesig Tanni Grey Thompson yn cael ei chynnig gan y BBC fel un o ‘eiconau’ yr ugeinfed ganrif; llwyddiant tîm pel-droed dynion Cymru yn creu recordiau ac ennill ffrindiau yn ystod haf bythgofiadwy pencampwriaeth Ewro 2016. Dim ond rhai enghreifftiau diweddar yw’r rhain o sut y llwyddodd sêr byd chwaraeon Cymru a diwylliant chwaraeon y wlad i greu proffil byd-eang cadarnhaol iawn i Gymru.

Ond mae’n ymddangos nad yw Cymru’n manteisio’n llawn ar chwaraeon fel ffordd o ddatblygu ymgysylltiad rhyngwladol – o bell ffordd. Mae’r Athro Laura McAllister, cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru ac uwch aelod o nifer o gyrff chwaraeon gan gynnwys Chwaraeon Cymru, UK Sport ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi ysgrifennu am y cyfleoedd a grewyd ond na fanteisiwyd yn llawn arnynt ledled y byd yn sgil llwyddiant pêl-droed Cymru. Yn ôl McAllister, mae angen i Gymru ffrwyno  [proffil pêl-droed Cymru] mewn ffordd llawer mwy strategol a threiddgar nag sy’n digwydd ar hyn o bryd neu mae perygl o golli cyfle arall i ‘werthu’ Cymru i’r byd.

Cyd-destun - Amser y cymell tawel

Yn draddodiadol bu polisi tramor a materion rhyngwladol yn rhan o gyfrifoldebau llywodraethau lefel cenedl-wladwriaeth. Yn y Deyrnas Unedig arferai hynny olygu mai yn Westminster a San Steffan y gwnaed penderfyniadau polisi o bwys rhyngwladol. Ond bellach, mae tra-arglwyddiaeth Stryd Downing, y Swyddfa Dramor a’r Weinyddiaeth Amddiffyn dros holl agweddau polisi tramor ledled y Deyrnas Unedig ar ben.   

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i arwain o ran lleisio blaenoraethau rhyngwladol, diogelwch ac amddiffyn, cymorth i wledydd tramor a phenu cywair cyffredinol polisi tramor Prydain. Ond mae sgil effeithiau globaleiddio a’r grymoedd gwleidyddol a ddatganolwyd i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn golygu bellach fod rhan bwysig gan y llywodraethau yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast i’w chwarae yn natblygiad eu blaenoriaethau rhyngwladol unigryw eu hunain.

Tra bod gan lywodraethau ‘is-wladwriaethol’ neu ‘ranbarthol’ fwy o le, ymreolaeth a’r arfau angenrheidiol wrth law bellach i ddylanwadu ar ddigwyddiadau byd-eang ac ymwneud yn uniongyrchol â nhw, mae angen iddynt gadw eu ffocws ar bethau y maent yn gallu eu newid, ac osgoi meysydd lle nad yw hynny’n bosib. Mae hyn yn golygu osgoi materion sy’n ymwneud ag amddiffyn, rhyfel a diogelwch rhyngwladol a chanolbwyntio’n hytrach ar feysydd fel masnach, buddsoddiad, twristiaeth, diwylliant, addysg, yr amgylchedd, cyfnewid uniongyrchol rhwng pobl a chwaraeon.

O ganlyniad, grym cymell tawel sy’n creu’r cyd-destun ar gyfer cylch gwaith rhyngwladol llywodraeth ranbarthol bron yn gyfan gwbl.

Yn gynyddol, mae patrymau gweithredu Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu hyn; mae twf ei rhwydwaith o swyddfeydd rhyngwladol yn cyd-daro â’r weledigaeth – a amlinellwyd yn ei rhaglen gyfredol o amcanion llywodraethu, ‘Symud Cymru Ymlaen’ – sydd am weld Cymru’n tyfu “..yn wlad uchelgeisiol a rhyngwladol”.

Fel y dywed Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn ei gyflwyniad i ddogfen ‘Golau yn y Gwyll’  wrth gyflwyno gweledigaeth ar gyfer dyfodol diwylliant yng Nghymru: 

"..yng Nghymru ar ôl Brexit, bydd mynd ati i gymell yn dawel yn fwyfwy pwysig...Os gellir defnyddio ein cymell tawel yn effeithiol, mae buddion posibl enfawr o ran datblygu masnach, gan helpu i ddenu mewnfuddsoddiad ac annog mwy o dwristiaeth o dramor. "

Bu penderfyniad Llywodraeth Cymru i greu’r portffolio Cysylltiadau Rhyngwladol, yn ogystal â ffocws clir y Gweinidog newydd ar sicrhau gwell cydlyniad a chyfeirio strategol i ymgysylltiad byd-eang Cymru trwy ddatblygu strategaeth ryngwladol, hefyd yn ddatblygiadau amserol..

Brîf y prosiect

Rydym yn gwahodd Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer prosiect ymchwil a fydd yn:

1)  Cynnal archwiliad o asedau grym cymell tawel chwaraeon Cymru.

2)  Cynnal adolygiad o lenyddiaeth academaidd a pholisi am rym cymell tawel a chwaraeon (a ‘diplomyddiaeth chwaraeon’) gan gynnwys agweddau strategol cenedlaethol ac is-wladwriaethol tuag at chwaraeon ac ymgysylltiad rhyngwladol.

3)  Cynnal arolwg beirniadol o agwedd bresennol Cymru tuag at ymgysylltiad rhyngwladol drwy chwaraeon, gan edrych ar brofiadau rhychwant byd-eang o wledydd cymharol a pherthnasol er mwyn creu cyd-destun.

4)  Argymell dulliau realistig, ymarferol a chynaliadwy y gall Cymru gynnwys chwaraeon fel rhan o’r strategaeth ryngwladol sy’n cael ei meithrin ar hyn o bryd, ac adeiladu ar ddealltwriaeth o ymarfer gorau rhyngwladol.

Methodoleg

Rydym yn rhagweld y bydd y Datganiadau o Ddiddordeb yn cynnig methodoleg gymysg. Gall hynny gynnwys: adolygiadau llenyddiaeth trylwyr; cyfweliadau lled-strwythuredig gyda rhanddeiliaid allweddol ym maes chwaraeon, gwleidyddiaeth a llywodraeth; trafodaethau bord gron neu grwpiau ffocws mewn gwahanol rannau o Gymru; arolygon, lle bo hynny’n addas; astudiaethau achos o arfer gorau rhyngwladol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig i ddysgu am ymdrechion i greu fframweithiau strategol ar gyfer ymgysylltiad rhyngwladol drwy chwaraeon a ddatblygwyd (ac a brofwyd) mewn rhannau eraill o’r byd.

Allbynnau

Prif allbwn y prosiect yma fydd adroddiad ymchwil manwl, 12-15,000 o eiriau, y gellir ei ddefnyddio i lywio cyfraniad y Cyngor Prydeinig (a lle bo hynny’n briodol, y sector chwaraeon ehangach yng Nghymru) i’r drafodaeth sydd ar droed am strategaeth ryngwladol Cymru yn y dyfodol.

Bydd yr adroddiad yn cyflwyno cyfres o argymellion cynaliadwy, ymarferol a realistig a bydd y cyflenwr yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil ac argymhellion mewn cyfres o ddigwyddiadau yng Nghymru.

Cymwysterau a phrofiad

Bydd y cyflenwr yn gallu profi bod iddynt enw da fel arbenigwyr ar chwaraeon a materion rhyngwladol, a thystiolaeth o weithio ar draws sectorau chwaraeon a llywodraeth yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Bydd profiad blaenorol o gynghori cyrff chwaraeon a llywodraethau cenedlaethol neu ranbarthol ar ddulliau strategol o ymgysylltu’n rhyngwladol drwy chwaraeon yn hanfodol.

Bydd gan y cyflenwr sgiliau cynllunio ymchwil a sgiliau casglu a dadansoddi data datblygedig a record dda o gynhyrchu allbynnau ysgrifenedig dylanwadol o ansawdd uchel. 

Amserlen

•  Mae angen cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb i ni erbyn Llun 8 Ebrill 2019.

•  Cynhelir cyfweliadau gyda chyflenwyr sy’n cyrraedd ein rhestr fer yn Ebrill 2019 a dyfernir y cytundeb i’r cyflenwr llwyddiannus yn fuan wedi hynny.

•  Bydd gofyn bod cymalau’r adolygiad llenyddiaeth, y gwaith maes a chasglu data yn digwydd rhwng Ebrill-Awst 2019.

•  Bydd adroddiad drafft ar gael i’r Cyngor Prydeinig erbyn diwedd Awst.

•  Cyhoeddir yr adroddiad terfynnol ym Medi 2019. Bydd gofyn i’r ymchwilydd(wyr) fod ar gael ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau cysylltiedig a gynhelir hefyd ym Medi 2019.         

Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb

Ni ddylai’r Datganiad o Ddiddordeb fod yn hirach na 4 tudalen gyda thestun bylchiad sengl, 12 pwynt. Dylai gyfleu gweledigaeth y prosiect, amlinelliad manwl o’r fethodoleg, amserlen, allbynnau diffiniedig a chyllideb y prosiect. Dylid anfon y Datganiad o Ddiddordeb at Chris Lewis (christopher.lewis@britishcouncil.org) cyn 1pm ddydd Llun 8 Ebrill 2019

Dylai cyflenwyr sydd â diddordeb gysylltu â Chris drwy’r un cyfeiriad os ydynt yn dymuno cael sgwrs anffurfiol cyn anfon Datganiad o Ddiddordeb.

Dylai cyflenwyr sydd â diddordeb gysylltu â Chris Lewis  christopher.lewis@britishcouncil.org os ydynt yn dymuno cael sgwrs anffurfiol cyn anfon Datganiad o Ddiddordeb. 

Gweler hefyd