Rydym yn cynnig tri grant rhwng £5000 a £8000 i alluogi sefydliadau yng Nghymru ac Affrica Is-Sahara i gydweithio’n ddigidol ar brosiectau rhyngwladol.
Mae'r ceisiadau bellach ar agor a bydd yn cau ddydd Sul 7fed Chwefror 2021 23.59 DU
Cyflwyno cais
- Defnyddiwch blatfform Submittable i gyflwyno eich cais.
- Mae Submittable yn gweithio orau ar Google Chrome, Firefox a Safari. Nid yw’n cefnogi porwr Internet Explorer. Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio porwr sy’n cael ei gefnogi gan Submittable.
- Bydd angen i chi greu cyfrif Submittable am ddim neu gallwch fewngofnodi gyda manylion adnabod Google neu Facebook i gyflwyno eich ffurflen gais. Mae’r platfform yn cynnig opsiwn cydweithio, felly gallwch wahodd eich partner i weithio gyda chi wrth lenwi’r ffurflen gais.
- Fe welwch ddolen ar gyfer hyn yn y gornel dde uchaf - ‘Invite Collaborators’.
- Gallwch gadw drafft o’ch ffurflen gais os byddwch yn dymuno ei chwblhau’n ddiweddarach.
Llinell Amser
- 6 Ionawr 2021: Platfform Submittable ar agor
- 7 Chwefror 2021: dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais
- Ar ôl derbyn y ceisiadau, byddwn yn gweithio gyda phanel o ddyfarnwyr allanol i roi sgôr i bob cais a dewis y cynigion llwyddiannus.
- Talu’r grantiau / Dyddiad cychwyn y prosiectau: 19 Mawrth 2021
- Dyddiad cwblhau’r prosiectau: 31 Rhagfyr 2021
- Bydd angen danfon adroddiadau’r prosiectau atom erbyn: 28 Chwefror 2022
Cwestiynau’r ffurflen gais
Gallwch ddisgwyl y bydd gofyn i chi ddarparu’r canlynol:
- Crynodeb o’r prosiect
- Gwybodaeth am gefndir partneriaid y prosiect
- Manylion am gyfraniad pob partner a’u cyfrifoldebau yn ystod y prosiect
- Cyllideb
- Sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu’n bositif i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd eich gwledydd partner a sut y bydd yn gwella lles y boblogaeth (cydymffurfiaeth â Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA)
- Pa heriau ydych chi’n eu rhagweld ar gyfer eich prosiect a sut yr ydych yn bwriadu eu goresgyn
- Polisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yr ydych wedi eu sefydlu
Beth yw Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA)
Daw'r gronfa o'r gyllideb Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA). Cymorth Datblygu Swyddogol yw cyllideb cymorth tramor llywodraeth y DU i gefnogi Strategaeth Gymorth 2015 y llywodraeth mewn gwledydd sy'n datblygu. Felly mae'n rhaid iddo fodloni rhai gofynion.
I gydymffurfio â gofynion Cymorth Datblygu Swyddogol, dylai cynnig ar gyfer prosiect:
- ddangos fod y prosiect yn gwneud cyfraniad positif i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA) y wlad (neu wledydd) sy’n cymryd rhan yn y prosiect;
- anelu i hybu datblygu cynaliadwy (gwaith datblygu sy’n debygol o fod o fudd hirdymor i boblogaeth y wlad lle cynhelir y prosiect) neu wella lles y boblogaeth.
Sut i sicrhau bod eich prosiect yn cydymffurfio â gofynion Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA):
Wrth gyflwyno eich cais, dylech ystyried y cwestiynau canlynol i sicrhau bod eich prosiect yn cydymffurfio â gofynion Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA);
- Ydy’r prosiect yn rhoi sylw i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd y wlad dan sylw?
- Oes yna angen o ran datblygu y mae fy mhrosiect yn mynd i’r afael ag ef?
- Beth yw’r dystiolaeth sy’n amlygu’r angen am y datblygu yma?
- Sut y bydd y prosiect neu’r gweithgaredd yma’n cael ei roi ar waith yn y wlad dan sylw?
- Beth fydd effaith fy mhrosiect neu weithgaredd, a phwy fydd yn elwa?
- Sut y bydd fy mhrosiect neu weithgaredd yn cyfrannu i ddatblygu cynaliadwy?
- Sut y bydd llwyddiant neu effaith y prosiect yn cael ei fesur?
Gwledydd sy’n gymwys
Cymru mewn partneriaeth ag o leiaf un wlad o'r rhestr ganlynol o wledydd Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA):
Botswana | Ethiopia | Ghana | Kenya | Malawi | Mauritius | Mosambic | Namibia | Nigeria | Rwanda | Senegal | Sierra Leone | De Affrica | De Swdan | Swdan | Tanzania | Wganda | Zambia | Zimbabwe
Beth ydych chi’n ei olygu wrth brosiectau digidol / rhithwir?
Cafodd y gronfa ei sefydlu i feithrin cysylltiadau rhyngwladol ar adeg lle mae cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol. Yn sgil hynny, rydym yn cynnig cefnogaeth i brosiectau sy’n creu partneriaethau i alluogi sefydliadau yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu cysylltiadau rhithwir gyda sefydliadau dramor er mwyn cyflawni prosiectau cydweithredol.
Gan fod cyfyngiadau byd-eang ar gynnal gweithgareddau wyneb yn wyneb, rydym yn disgwyl i’r prosiectau greu allbwn digidol yn bennaf ac y bydd hynny’n cael ei gyfryngu ar-lein. Ein gobaith wrth ddefnyddio’r gronfa i gefnogi prosiectau o’r fath yw cefnogi sefydliadau i feithrin dull o gydweithio’n rhyngwladol yn y dyfodol sy’n ystyriol o’r hinsawdd.
Pa gostau mae’r grant yn talu amdanynt?
Mae’r costau uniongyrchol y gall y grant yma dalu amdanynt yn cynnwys:
- Amser y bydd staff yn ei dreulio wrth wireddu’r prosiect
- Costau hyfforddi
- Ffioedd proffesiynol
- Ffioedd cyfieithu a gwasanaethau cyfieithwyr / dehonglwyr
- Cyfarpar a deunyddiau
- Gweithgareddau’n ymwneud â dysgu, eiriolaeth ac ymgysylltu â chymuned
- Gwerthuso
- Hyrwyddo
Rydym yn credu y dylai artistiaid dderbyn taliadau teg a dylid adlewyrchu hyn yng nghyllideb y prosiect o ran unrhyw gostau ar gyfer artistiaid.
Sut y bydd fy nghais yn cael ei asesu?
Bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail y pedwar maes canlynol (nodir y meysydd hyn yn glir yn y ffurflen gais):
1. Gweithgaredd ac arloesi: 40%
- Tystiolaeth fod trafodaethau’n digwydd yn barod ac amlinelliad o’r gweithgaredd
- Tystiolaeth o arloesi drwy gyfnewid digidol
2. Partneriaeth a chyfrannu’n bositif: 40%
- Tystiolaeth o bartneriaeth gadarn
- Tystiolaeth o rolau cydradd yn y bartneriaeth a rhannu cyfrifoldebau’n gyfartal
- Dangos eich bod yn gwneud cyfraniad positif i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd y wlad sy’n rhan o’r cais sy’n derbyn Cymorth Datblygu Swyddogol (ODA)
- Defnyddioldeb y grant o ran datblygu gweithgaredd y prosiect ymhellach
3. Cyllideb ac Amserlen: 10%
- Cyllideb eglur a realistig
- Amserlen realistig ar gyfer y gweithgaredd
4. Amrywiaeth: 10%
- Tystiolaeth o ymroddiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad
Y broses ddewis
Wedi derbyn y ceisiadau, bydd ein panel dyfarnu yn adolygu pob cais a chlustnodi’r rheini sy’n ateb y gofynion sylfaenol ar gyfer rhan nesaf y broses.
Bydd y prosiectau cymwys yn cael eu pwyso a’u mesur gan banel o weithwyr proffesiynol o’r British Council a’r sector diwylliannol (bydd gofyn i holl aelodau’r panel dyfarnu arwyddo ffurflenni cyfrinachedd a gwrthdaro buddiannau). Bydd y panel yn dyfarnu 3 grant.
Pryd y gallaf ddisgwyl clywed os yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?
Rydym yn gobeithio hysbysu pob ymgeisydd erbyn 1 Mawrth
A allaf wneud cais am grant os ydw i wedi derbyn arian gan y British Council o’r blaen?
Os ydych eisoes wedi derbyn cyllid gan y British Council ar gyfer eich gweithgaredd arfaethedig, nid ydych yn gymwys i wneud cais am gyllid ychwanegol. Ond, os ydych wedi cael eich ariannu gan y British Council ar gyfer ymchwil neu weithgareddau cwmpasu i ddatblygu eich cais, yna gallwch wneud cais am grant cydweithredu i fwrw ymlaen â’r prosiect.
A allaf gael adborth os yw fy nghais yn aflwyddiannus?
Byddwn yn gwneud ein gorau i roi adborth i bob ymgeisydd, ond gall hyn gymryd rhai wythnosau – yn ddibynol ar nifer y ceisiadau a dderbynir.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni: TeamWales@britishcouncil.org