Living Pictures - Diary of a Madman
Living Pictures - Diary of a Madman ©

Sinéad Rushe

Bydd Arddangosfa Caeredin 2015 y British Council (7 - 31 Awst) yn cynnwys tri chynhyrchiad theatr o Gymru.

Mae'r British Council yn cynnal Arddangosfa Caeredin bob yn ail flwyddyn, a dyma yw'r cyfle mwyaf i gwmnïau theatr o'r DU gyflwyno eu gwaith i hyrwyddwyr rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn cynnwys gwaith newydd sy'n cynrychioli'r gorau o fyd theatr a dawns gyfoes, gan adlewyrchu amrywiaeth ac ehangder celfyddydau perfformio Prydain.

• Caiff drama Sherman Cymru sef ‘Iphigenia in Splott’ gan Gary Owen ei pherfformio yng Nghaeredin yn y King Dome, Pleasance, 24 - 30 Awst. Mae addasiad doniol a theimladwy Owen o chwedl Roegaidd drasig yn ymchwilio i anghyfiawnderau cymdeithasol mewn modd beiddgar.

• Bydd y cyfarwyddwr a'r perfformiwr o Gaerdydd, Jo Fong, yn cyflwyno ‘An Invitation…’, perfformiad rhyfeddol sy'n cymylu ffiniau dawns ac sy'n ‘cymryd bod yn chwareus o ddifrif’ yn Dance Base, 25 - 26 Awst.

• Bydd cynhyrchiad Living Pictures, sef Diary of a Madman, addasiad newydd sy'n seiliedig ar stori fer glasur gan Nikolai Gogol, yn teithio o Gaerdydd i berfformio yn Zoo, Lleoliad 124, rhwng 7 a 30 Awst (ac eithrio 16 a 23 Awst).

Sefydliadau celfyddydol - dewch i gwrdd â Phennaeth Celfyddydau British Council Cymru yng Ngŵyl Caeredin

Am wybod sut y gallwch weithio gyda'r British Council? Bydd ein pennaeth celfyddydau, Rebecca Gould, yng Ngŵyl Caeredin rhwng 23 a 30 Awst. Os hoffech gwrdd â hi am sgwrs, cysylltwch â Rebecca.Gould@britishcouncil.org

Jo Fong - An Invitation...
Jo Fong - An Invitation... ©

Jamie Morgans

Sherman Cymru, Iphigenia in Splott
Sherman Cymru, Iphigenia in Splott ©

Mark Douet

Dolenni allanol