Gan Jenny Scott , County Director for Wales , British Council

13 Rhagfyr 2019 - 14:37

Rhannu’r dudalen hon

Yma, mae Jenny Scott, Cyfarwyddwr Cymru’r British Council, yn rhannu sylwadau am sefyllfa bresennol Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yng Nghymru, a’r tueddiadau sydd wedi dod i’r amlwg wedi pum mlynedd o adroddiadau Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru.

Pan gyflwynwyd adroddiad Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru gennym am y tro cyntaf yn 2015  roedd ieithoedd tramor modern wedi bod yn dirywio yng Nghymru – a ledled y Deyrnas Unedig – ers dros ddegawd. Doedd dim dull polisi clir yn ei le i fynd i’r afael â’r dirywiad a’i wrthdroi ac roedd y broes o wthio ITM fwyfwy i’r ymylon yn ysgolion Cymru’n ymddangos yn anochel. Yn gynyddol dros amser, mae agweddau at werth sgiliau iaith wedi troi’n negyddol. Er gwaethaf tystiolaeth gadarn fod ieithoedd yn bwysig ar gyfer masnach, busnes ac ymchwil, mae yna ddirnadaeth bellach fod pynciau eraill yn fwy defnyddiol.

Mae cynllun Dyfodol Byd-eang wedi cael effaith gadarnhaol mewn rhai ysgolion, ond nid yw wedi gwrthdroi’r dirywiad ac mae ffactorau fel amserlennu opsiynau, dim digon o amser cwricwlwm, y gwerth isel a roddir ar sgiliau iaith a diffyg atebolrwydd am gynyddu’r nifer sy’n dewis ITM yn parhau i rwystro cynydd.

Mae arolwg eleni hefyd yn bwrw golau ar y cymlethdodau sy’n ein hwynebu wrth hybu ITM yn effeithiol yng Nghymru. Er bod ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn cofleidio addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol  ynghynt nag ysgolion cyfrwng Saesneg, mae athrawon yn nodi fod ymdrechion i hybu’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd weithiau’n digwydd ar draul ITM. Mae perygl y gallwn golli cyfle i fanteisio ar botensial Cymru i ddatblygu’n wlad wirioneddol amlieithog. 

Ond, rydyn ni’n dechrau gweld llygedyn o oleuni hefyd. Roedd y gŵyn fod arholiadau ITM yn fwy anodd na phynciau eraill yn cael ei chodi’n gyson gan athrawon yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu bod wedi gofyn i CBAC adolygu manylebau TGAU Ieithoedd Tramor Modern. Roedd hyn yn adleisio adolygiad tebyg gan Ofqual, a ffeindiodd dystiolaeth ddigon cryf i gyfiawnhau addasu safonnau graddio arholiadau TGAU Ffrangeg ac Almaeneg yn Lloegr. 

Hefyd, er gwaethaf pryderon am ddiffyg adnoddau a hyfforddiant, mae tystiolaeth fod mwy o ysgolion cynradd yng Nghymru’n cofleidio ieithoedd rhyngwladol mewn amryw o ffyrdd arloesol. Roedd yn arbennig o galonogol nodi fod y Gweinidog dros Addysg wedi ailadrodd y neges am bwysigrwydd cynnwys ITM yng ngwricwlwm ein hysgolion cynradd.

Yn ogystal â hynny, casgliad cyffredinol arolwg eleni yw bod angen tipyn mwy o gymhellion a chefnogaeth arnom na maint a chwmpas presenol cynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru. Bydd hynny’n angenrheidiol i ateb her y dirywiad difrifol yn ysgolion uwchradd Cymru yn ogystal â’r angen i ddatblygu pwnc newydd ar lefel cynradd. Rydym yn falch o nodi’r bwriad i adnewyddu cynllun Dyfodol Byd-eang, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny’n cynnwys proses o ymgynghori gydag ysgolion a sefydliadau sy’n gweithio mor galed i wella sefyllfa ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru.

Mae gan y British Council ymroddiad ers tro byd i hybu addysgu a dysgu ieithoedd fel modd o hyrwyddo cyfnewid rhyng-ddiwylliannol ar draws y byd. Adlewyrchir hynny gan ein gwaith wrth hyrwyddo ac eiriol dros addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gwybod fod sgiliau rhyng-ddiwylliannol pobl ifanc yn cynyddu os oes ganddynt allu i gyfathrebu mewn iaith ychwanegol, ac maent hefyd yn fwy tebygol o astudio neu wirfoddoli dramor – gan agor drws i gyfleoedd arwyddocaol yn eu bywydau a’u gyrfaoedd.

Os yw Cymru am fod yn effeithiol wrth werthu ei hunan i’r byd, mae angen pobl ifanc sydd â sgiliau iaith da sy’n gallu manteisio ar gyfleoedd busnes a dylanwadu’n gadarnhaol ar weddill y byd. Mae hyn yn bwysicach fyth yng nghyd-destun Brexit gan y bydd mwy o angen nag erioed i Gymru estyn allan i weddill y byd. Fe allai dirywiad parhaus ITM yn ein hysgolion niweidio gallu Cymru i wneud hynny yn y tymor hir.

Wrth gloi, hoffwn ddiolch i’r holl athrawon ag ysgolion sydd wedi cyfrannu i’r arolwg dros y pum mlynedd diwethaf a’n helpu i ddeall y materion allweddol sy’n effeithio addysgu a dysgu ar lawr gwlad. Trwy gyfrwng yr ymatebion hyn rydym wedi gallu darparu dadansoddiad cywir a helpu llunwyr polisi i wneud newidiadau ystyrlon.

[1] Arolwg Tueddiadau Ieithoedd 2014/15 gan British Council Cymru ac Ymddiriedolaeth Addysg CfBT
[2] Gweler hefyd: Datblygu amlieithrwydd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru: Asesiad o'r prif effeithiau

Rhannu’r dudalen hon