Y penwythnos yma, bydd yr elusen celfyddydau mewn iechyd o Gymru, Re-Live, yn lansio comic newydd ‘Yma Nawr’ yng ngŵyl ryngwladol nodedig Lakes International Comic Art Festival yn Kendal. Cafodd y comic ei gyd-greu gyda phobl sy’n byw â dementia a’u teuluoedd yng Nghymru a Japan.
Mae’n cael ei gyhoeddi mewn tri rhifyn ar wahân – yn Gymraeg (Yma Nawr), Saeseng (Here and Now) a Japaneg (今、ここに立つ). Dyma fenter gydweithio ryngwladol gyntaf Re-Live – mewn partneriaeth â Tenjin-kai, sefydliad gofal dementia yn Ofunato yng ngogledd Japan.
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru | Cyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n rhan o raglen ddiwylliannol ddiweddar Blwyddyn Cymru a Japan.
Gyda fformat llyfr fflip y comic, gallwch ei ddarllen o’r chwith i’r dde (i ddarllenwyr yn y Gorllewin) neu fel arall, o’r dde i’r chwith (yn null Manga) gan roi’r un statws i’r ddau ddiwylliant.
Mae’n cynnwys pedair stori – dwy o Gymru a dwy o Japan. Maen nhw’n straeon am fywydau go iawn, yn lleisiau’r bobl sy’n byw’r bywydau hynny. Mae’r straeon o Gymru’n cael eu hadrodd gan Patrick Cachia, cyn chwaraewr rygbi sy’n byw gyda dementia fasgwlar ac sy’n sôn am ei ddiagnosis a’r hyn sy’n ei gadw i fynd; a Carri Munn, sy'n gofalu am ei mam ac yn gwybod o brofiad am yr unigrwydd a’r unigedd y mae gofalwyr yn aml yn ei ddioddef yn dawel. Mae pob stori’n gyfle i ddarllenwyr yng Nghymru a Japan ddysgu o brofiadau’i gilydd a dysgu hefyd am agwedd y ddwy wlad at ofal a gofalu.
Cafodd dau glawr y comic eu llunio gan ddau artist o Gymru: Sok, o Abertawe, sydd wedi darlunio clawr ochr Gymraeg y llyfr fflip; a Jonathan Edwards, o Wrecsam, sydd wedi seilio’i glawr ar gyfer yr ochr Japaneg ar waith olaf yr artist Manga chwedlonol, Ebisu Yoshikazu, sy’n byw gyda dementia. Mae cynnwys gwaith Ebisu yn ddatganiad tawel o gadarn nad yw mynegiant creadigol yn dod i ben gyda diagnosis o ddementia.
Dywedodd Karin Diamond, Cyfarwyddwr Artistig Re-Live:
"Mae’r tudalenau hyn yn cynnwys straeon a rannwyd gan bobl sy’n byw gyda dementia, a chan aelodau o’u teuluoedd, yng Nghymru a Japan. Rydym yn gwerthfawrogi’r dewrder a’r gonestrwydd a gymerodd i bob storïwr rannu eu profiadau gyda ni. Drwy hyn, rydyn ni wedi gweld sut y gall creadigrwydd helpu pobl i ailgysylltu â rhannau ohonyn nhw eu hunain a gydag unigolion eraill.”
Mae un o arbenigwyr dementia blaenllaw Japan, Dr Yukimi Uchide, Cadeirydd Sefydliad Lles Cymdeithasol Tenjin-kai, hefyd yn rhannu ei stori.
Daeth profiad ei mam o ddementia â dealltwriaeth bersonol a aeth y tu hwnt i’w harbenigedd proffesiynol, gan wneud y comig yma’n gyfrwng delfrydol i rannu hynny’n fwy eang:
Fe wnaethom ni sylweddoli y gallai’r hiwmor, y profiad dynol, a’r eiliadau annisgwyl rydyn ni’n dod ar eu traws bob dydd wrth gyd-fyw â phobl sydd â dementia, gael eu cyfleu a’u rhannu drwy gyfrwng comics.
"Rwy’n gobeithio y bydd mwy o bobl, wrth ddarllen y comig yma, yn cael dealltwriaeth ddyfnach o brofiad pobl sy’n byw gyda dementia, ac yn tyfu i fod yn fwy caredig - nid yn unig tuag atyn nhw eu hunain, ond at bawb.”
Arweiniodd menter gydweithio flaenorol rhwng Karin Diamond/Re-Live a Dr Uchide at brosiect theatr a hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia i dros 5,000 o weithwyr gofal yng Nghymru a thu hwnt.
Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Elena Schmitz, Cyfarwyddwr Dros Dro, British Council Cymru:
“Roedd ‘Yma Nawr’ yn un o uchafbwyntiau rhaglen ddiwylliannol Blwyddyn Cymru a Japan – prosiect a fydd yn cryfhau dyfodol mentrau celfyddydau mewn iechyd yn y ddwy wlad. Mae British Council Cymru’n falch iawn o gefnogi’r cyhoeddiad hynod ystyrlon yma sy’n dyfnhau ein dealltwriaeth o ddementia a dathlu cyfnewid diwylliannol yn ogystal â grym cymunedau i adrodd eu straeon eu hunain. Mae’n wych i weld lansio’r comig godidog hwn, sy’n cael ei gyhoeddi yn Gymraeg, Japaneg, a Saesneg. Gobeithio y bydd yn cael ei ddarllen yn eang ac ysbrydoli a goleuo pobl ledled y byd!”
Mae ein cefnogaeth i Yma Nawr yn rhan o waith ehangach y Brtish Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ar draws y byd.
Mae copiau o Yma Nawr ar gael yn uniongyrchol o wefan Re-Live yma: www.re-live.org.uk; a hefyd o siop Forbidden Planet yng Nghaerdydd a The Cardiff Comic Shop.