Athrawes a map
©

Shutterstock

Yn British Council Cymru rydym yn hyrwyddo'r gorau o ddiwylliant ac addysg Cymru yn rhyngwladol, trwy ein rhaglenni ym maes addysg a'r celfyddydau. Rydym yn helpu myfyrwyr, athrawon, artistiaid a phobl eraill o Gymru i gysylltu â'u cymheiriaid o bob cwr o'r byd.

Mewn byd wedi'i globaleiddio, credwn fod yn rhaid i Gymru fod yn genedl sy'n edrych tuag allan, gan mai'r gwledydd mwyaf llwyddiannus - yn ddiwylliannol ac yn economaidd - yw'r rhai sydd ag ethos o rannu profiad ac arbenigedd yn agored.

Nod y British Council yw hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth gyfeillgar rhwng pobl y DU a gwledydd eraill drwy wneud cyfraniad cadarnhaol i'r gwledydd mae'n gweithio gyda hwy, a thrwy hynny, wneud gwahaniaeth parhaol i ddiogelwch, ffyniant a dylanwad y DU.

Yn yr adran hon