Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
• preifatrwydd, diogelu data a rhyddid gwybodaeth
• telerau defnyddio ar bob un o wefannau'r British Council, hygyrchedd a gwybodaeth am sut i wneud cwyn
• manylion ar y polisïau y mae'r British Council yn glynu wrthynt
Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru o dro i dro.
PREIFATRWYDD
Rydym yn ystyried y gwaith o drin gwybodaeth bersonol yn gywir yn rhan bwysig o'n gweithrediadau llwyddiannus, yn ogystal â chadw cyfrinachedd o ran ein cleientiaid. Yn hynny o beth, bydd y datganiad hwn yn berthnasol i bob un o'n swyddfeydd ni waeth lle y maent wedi'u lleoli.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn ar breifatrwydd yn Saesneg.
DIOGELU DATA
Dysgwch fwy am sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth a sut y gallwch ofyn am fynediad i'r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn ar ddiogelu data yn Saesneg.
RHYDDID GWYBODAETH
Mae'r British Council yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn chwilio am ffyrdd newydd ac agored o ymgysylltu â'r gymuned fyd-eang. Er mwyn meithrin uniondeb ac ymddiriedaeth, mae'n bwysig ein bod yn gosod esiampl wrth gyflwyno mwy o'n sefydliad i'r byd.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn ar ryddid gwybodaeth yn Saesneg.
Telerau defnyddio'r wefan hon
Mae'r British Council wedi nodi gwybodaeth arbennig ar sut y gallwch ddefnyddio'r safle hwn. Yma gallwch ganfod gwybodaeth ar sut y cafodd y safle ei ddylunio er mwyn iddo fod yn hygyrch i bawb. Gallwch ganfod hefyd manylion am sut i wneud cwyn.
TELERAU DEFNYDDIO'R WEFAN
Mae gan y British Council delerau ac amodau ar ddefnyddio'r wefan hon a dolenni sy'n arwain i mewn ac allan o'r safle.
Gallwch ddarllen ein telerau ac amodau llawn yn Saesneg.
HYGYRCHEDD
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i wneud http://wales.britishcouncil.org/ yn hawdd i bawb, ni waeth pa borwr rydych yn dewis ei ddefnyddio a ph'un a ydych yn defnyddio offer arbennig i'w ddefnyddio ai peidio.
Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am fesurau hygrchedd gwefan y British Council yn Saesneg.
GWNEUD CWYN
Rydym yn gwerthfawrogi eich barn. Rydym yn gobeithio gwneud eich profiad gyda'r British Council yn un rhagorol ac rydym yn croesawu eich sylwadau, awgrymiadau a manylion ynglŷn â'r gwasanaeth a gawsoch wrth gysylltu â ni neu ddefnyddio un o'n cynhyrchion neu wasanaethau. Byddem hefyd yn awyddus i glywed a oedd unrhyw aelod arbennig o staff wedi rhoi gwasanaeth rhagorol i chi.
Gallwch ddarllen ein polisi gwneud cwyn llawn yn Saesneg.
Polisïau
Fel sefydliad cysylltiadau diwylliannol, mae gan y British Council bolisïau y mae'n glynu wrthynt:
POLISI AMDDIFFYN PLANT
Mae'r British Council yn cydnabod fod gennym ddyletswydd gofal dros bob plentyn rydym yn ymwneud â hwy, gan gynnwys dyletswydd i'w amddiffyn rhag cael eu cam-drin. Rydym yn cyflawni hyn drwy gydymffurfio â chyfreithiau amddiffyn plant y DU a chyfreithiau eraill ym mhob un o'r gwledydd rydym yn gweithredu ynddynt, yn ogystal â chydymffurfio â Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) 1989.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn ar amddiffyn plant yn Saesneg.
POLISI AMGYLCHEDDOL
Mae'r British Council yn ymrwymedig i gyrraedd safonau'r DU a safonau rhyngwladol o ran rheoli ein heffaith amgylcheddol. Rydym yn cydnabod effaith ein gweithrediadau a'n gweithgareddau busnes ar yr amgylchedd. Rydym hefyd yn cydnabod sut y gall newid yn yr hinsawdd fygwth ffyniant, cyfiawnder cymdeithasol ac ansawdd bywyd. Rydym felly yn ymrwymedig i reoli a lleihau ein heffaith amgylcheddol.
Gallwch ddarllen ein polisi amgylcheddol llawn islaw.
CYFLE CYFARTAL AC AMRYWIAETH
Mae'r British Council yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. Mae ein gwaith yn cynnwys datblygu cydberthnasau â phobl o ystod eang o gefndiroedd a diwylliannau. Mae gweithio'n effeithiol gydag amrywiaeth a hyrwyddo cyfle cyfartal felly yn rhan hanfodol o'n gwaith.
Gallwch ddarllen ein polisi llawn yn Saesneg i ganfod sut rydym yn cynnwys cyfle cyfartal ac amrywiaeth yn ein rhaglenni a'n prosiectau a phwy y gallwch gysylltu â hwy am ragor o wybodaeth.