Athrawes a disgyblion mewn llyfrgell
©

Shutterstock

Mae ein gwaith ym maes addysg yn cynnwys ysgolion, colegau a phrifysgolion. Ein nod yw helpu pobl Cymru a’i sefydliadau i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo ar lefel ryngwladol, gan ddatblygu gwlad a all weithio’n llwyddiannus gyda gwledydd a diwylliannau eraill. Canolbwynt ein gwaith yw cefnogi’r gwaith o ryngwladoli prifysgolion, colegau addysg bellach ac ysgolion Cymru, gan rannu arbenigedd Cymru â’r byd, yn ogystal â hwyluso’r ffordd i’r byd ddod i Gymru i gynnig profiadau rhyngwladol positif i sefydliadau, staff, myfyrwyr a disgyblion.

Addysg Uwch

Rydym yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r gwaith o gyfnewid a symud myfyrwyr, ysgolheigion ac academyddion i mewn ac allan o Gymru a'r DU yn ogystal â chydweithrediadau a phartneriaethau addysg uwch rhwng prifysgolion, diwydiannau a llywodraethau. Rydym yn llywio ac yn arwain y gwaith o ryngwladoli addysg uwch drwy arwain a gosod polisïau ystyriol yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang.

Addysg Bellach

Rydym yn hyrwyddo ac yn cefnogi'r gwaith o gyfnewid a symud myfyrwyr a staff Addysg Bellach i mewn i Gymru a'r DU yn ogystal ag allan ohonynt. Rydym hefyd yn cefnogi cydweithrediadau a phartneriaethau addysg bellach a sgiliau rhwng colegau, diwydiannau a llywodraethau ledled Cymru ac yn fyd-eang. 

Ysgolion

Rydym yn rhoi cyfle i athrawon ac ysgolion ledled Cymru weithio gyda chydweithwyr ledled y byd i gyfoethogi dysgu disgyblion yng Nghymru. Drwy bartneriaethau ysgol a chyfleoedd datblygu proffesiynol i athrawon, rydym yn helpu ysgolion yng Nghymru i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i fyw a gweithio mewn cymdeithas fyd-eang.