Paratowyd y datganiad yma ar 18 Medi 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 23 Medi 2020.

Mae’r datganiad yma’n berthnasol i gynnwys a gyhoeddir ar wefan wales.britishcouncil.org. Nid yw’n berthnasol i wefannau eraill y British Council.

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y British Council. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau ein tudalennau gwe (ac eithrio dogfennau i’w lawrlwytho)
  • chwyddo hyd at 300% heb fod y testun yn diflannu oddi ar ochrau’r sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae AbilityNet yn cynnig cyngor am sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gyda chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai penawdau’n gyson
  • nid yw trefn y tabiau ar rai tudalennau yn dilyn yn rhesymegol wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig i lywio
  • nid oes testun amgen priodol ar gyfer rhai delweddau
  • mae rhai delweddau’n cynnwys testun fel rhan o’r ddelwedd
  • mae testun rhai dolenni cyswllt yn rhy gyffredinol (neu’n amhenodol)
  • mae rhai dolenni’n agor mewn ffenestr newydd heb hysbysu’r defnyddiwr ymlaen llaw
  • nid yw’r elfennau sy’n cael eu hamlygu fesul cam (dangos/cuddio) yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • gall rhai problemau godi gyda chyferbynnedd lliw gyda chamgymeriadau ar ein ffurflenni
  • mae llawer o’n dogfennau mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
  • nid oes capsiynau a thrawsgrifiadau ar gael ar gyfer pob un o’r cyfryngau (byw neu wedi eu recordio) yr ydym yn eu cyflwyno ar y wefan
  • nid yw rhai elfennau o’n cyfryngau cymdeithasol, fel opsiynau i wneud sylwadau, yn gwbl hygyrch i dechnolegau cynorthwyol
  • nid yw gwiriadau diogelwch CAPTCHA yn hygyrch i dechnolegau cynorthwyol

Beth i’w wneud os ydych eisiau gweld cynnwys mewn fformat sy’n hygyrch

Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol cysylltwch â ni gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • cyfeiriad gwe (URL) y cynnwys
  • eich enw a’ch cyfeiriad e-bost
  • y fformat sydd ei angen arnoch, er enghraifft, CD (recordiad sain/llafar), braille, print bras, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), neu PDF hygyrch.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen yma neu os nad ydych yn credu ein bod yn ateb gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni: accessibility@britishcouncil.org.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1. Rhestrir yr elfennau nad sy’n cydymffurfio isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nodir y cynnwys nad yw’n hygyrch isod ynghyd â’r rhesymau am hynny.

Delweddau

Nid oes dewis o destun amgen ar gyfer rhai delweddau ac felly nid yw’r wybodaeth a gyflwynir ganddynt ar gael i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys heblaw testun).

Rydym yn bwriadu ychwanegu dewisiadau testun amgen ar gyfer delweddau a fydd yn cyfleu eu hystyr a’u cyfraniad yng nghyd-destun y dudalen erbyn mis Rhagfyr 2021. Wrth gyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn ateb gofynion y safonnau hygyrchedd.

Rydym hefyd ar ganol adeiladu system reoli cynnwys newydd sy’n galluogi ychwanegu testun amgen ar gyfer delweddau yn eu cyd-destun i helpu i gyfleu ystyr.

Mewn rhai achosion caiff testun ei gynnwys fel rhan o ddelwedd. Gall testun sy’n cael ei gyflwyno fel hyn fod yn anodd i rai defnyddwyr ei weld neu i’w glywed os ydynt yn defnyddio darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.5 (delweddau o destun).

Nid ydym yn bwriadu dileu pob delwedd sy’n cynnwys testun, ond ar dudalennau sy’n cynnwys delweddau o’r fath byddwn yn sicrhau ein bod yn darparu testun i gyd-fynd â’r delweddau hynny a’u disgrifio lle bo’n briodol.

Penawdau

Nid yw penawdau rhai tudalennau yn dilyn strwythur rhesymegol sy’n golygu fod deall cynnwys cyffredinol y dudalen yn fwy anodd i rai defnyddwyr. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwydiant WCAG 2.1 2.4.6 (penawdau a labeli).

Rydym yn bwriadu cyweirio strwythurau penawdau pob tudalen erbyn mis Rhagfyr 2021. Wrth gyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod strwythur penawdau’r tudalennau hynny’n ateb gofynion y maen prawf uchod.

Llywio

Nid yw trefn y tabiau ar rai tudalennau yn dilyn yn rhesymegol wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig i lywio. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.3 (Trefn Ffocws). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Rhagfyr 2020.

Dolenni

Nid yw testun rhai dolenni cyswllt yn disgrifio pwrpas y ddolen ac felly nid yw’n rhoi gwybod i’r defnyddiwr i ble mae’r ddolen yn arwain (heb gyd-destun y cynnwys mae’r ddolen yn rhan ohono). Gall hyn beri problem i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.4 (pwrpas dolen).

Mae rhai dolenni’n agor mewn ffenest newydd ond nid yw testun y ddolen yn hysbysu’r defnyddiwr y bydd ffenest newydd yn cael ei hagor. Gall hyn ddrysu rhai defnyddwyr. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.4 (pwrpas dolen).

Rydym yn bwriadu cyweirio testun pob dolen sy’n methu ateb y gofynion hyn erbyn Rhagfyr 2021. Wrth gyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau ein bod yn defnyddio testun penodol sy’n rhoi gwybod i’r defnyddiwr am unrhyw newid yn ffenest y porwr.

Elfennau sy’n cael eu hamlygu fesul cam (neu elfennau ‘dangos/cuddio’)

Nid yw'r elfennau sy'n cael eu hamlygu fesul cam ar y wefan hon yn rhoi gwybod i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin am eitemau y gellir eu clicio. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (penawdau a labeli). Rydym yn bwriadu cyweirio'r elfennau sy'n cael eu hamlygu fesul cam ar y wefan hon erbyn mis Rhagfyr 2020.

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw llawer o'n dogfennau PDF a’n dogfennau Word hŷn yn ateb gofynion y safonau hygyrchedd - er enghraifft, mae’n bosib nad ydynt wedi cael eu strwythuro i fod yn hygyrch ar gyfer ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (enw, gwerth rôl).

Mae rhai o’n dogfennau PDF a’n dogfennau Word yn hanfodol i’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Er enghraifft, mae gyda ni ddogfennau PDF gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael at ein gwasanaethau yn ogystal â ffurflenni a gyhoeddir fel dogfennau Word. Rydym yn gweithio i sefydlu canllawiau i’n golygyddion ar gyfer creu dogfennau PDF hygyrch. Ein bwriad yw naill ai cywiro’r dogfennau hyn neu gyhoeddi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle erbyn mis Rhagfyr 2021.

Byddwn yn sicrhau bod unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym mor hygyrch â phosibl.

Fideo

Nid oes capsiynau ar ffrydiau fideo byw. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.2.4 (capsiynau – byw).

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau i’n ffrydiau fideo byw achos ar hyn o bryd nid yw’r dechnoleg sy’n creu’r capsiynau’n awtomatig yn ddigon cywir.

Nid oes capsiynau na sain ddisgrifiad ar gyfer rhai o'n fideos a recordiwyd ymlaen llaw. Nid yw hyn yn ateb gofynion maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.2.2 (capsiynau – wedi'u recordio ymlaen llaw) a 1.2.3 (sain ddisgrifio neu gyfrwng cyfatebol).

Rydym yn gweithio i sefydlu canllawiau ar gyfer ein golygyddion ar sut i greu a darparu capsiynau a sain ddisgrifiadau ar gyfer cynnwys fideo wedi’i recordio ymlaen llaw.

Cynnwys gan drydydd parti

Mae’n bosib y bydd cynnwys sydd ddim yn cael ei ariannu, ei ddatblygu na’i reoli gan y British Council, fel:

  • elfennau o gyfryngau cymdeithasol
  • mapiau rhyngweithiol
  • ffurflenni taliadau
  • sgyrsiau byw
  • offerynnau cynnal arolygon arlein
  • rhaglenni gwirio mai person go iawn yw’r defnyddiwr - fel CAPTCHA

yn anhygyrch i’r sawl sy’n methu defnyddio cyrchwr (llygoden) a rhai technolegau cynorthwyol. Mae’n bosib na fydd cynnwys trydydd parti ar wefan y British Council yn ateb gofynion y meini prawf llwyddiant canlynol a nodir yn WCAG 2.1:

  • 1.1.1 (cynnwys heb destun)
  • 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd)
  • 1.3.2 (dilyniant ystyrlon)
  • 2.1.1 (bysellfwrdd)
  • 3.3.2 (labeli neu gyfarwyddiadau)
  • 4.1.2 (enw, rôl, gwerth)
  • 4.1.3 (negeseuon statws).

Nid ydym yn bwriadu cyweirio unrhyw elfennau mewn cynnwys a gynhyrchwyd y tu allan i’r British Council.

Sut yr ydym yn profi’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei phrofi i sicrhau ei bod yn bodloni safon A a safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1. Rydym yn defnyddio offer profi awtomatig yn ogystal â chynnal archwiliadau â llaw (yn fewnol a thrwy asiantaeth allanol).

Wrth brofi teithiau allweddol defnyddwyr drwy’r wefan fe wnaethom geisio sicrhau ein bod yn rhoi prawf ar gynifer â phosibl o wahanol dudalennau a gwahanol fathau o gynnwys.

Beth yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu nodi a chyweirio materion yn ôl yr amserlen a nodir ar gyfer pob un o’r meysydd uchod.

Rhannu’r dudalen hon