Cyfeiriad y swyddfa
British Council Cymru, 1 Kingsway, Ail llawr, Caerdydd CF10 3AQ, y DU.
Rhif Ffôn
Aelodau’r tîm concierge:
David Evans +44 (0)29 2092 4361
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cyfeiriwch at ein Gwasanaethau Cwsmer.
Gallwch ddefnyddio’r ddolen yma i’n ffeindio ni ar fap.
Rydym yn croesawu ymwelwyr ag anableddau ac ymwelwyr sy’n gwthio pram neu goets.
Os oes genych ofynion hygyrchedd penodol neu unrhyw gwestiynnau, rhowch wybod i’n tîm concierge.
Os ydych yn defnyddio cadair olwyn neu’n methu defnyddio grisiau rhowch wybod i’r sawl yr ydych yn ymweld â nhw ymlaen llaw, fel y gallwn baratoi cynllun gadael yr adeilad mewn argyfwng priodol ar eich cyfer.
Cyrraedd yma
Mae ein swyddfa ar ail lawr bloc o swyddfeydd modern yng nghanol dinas Caerdydd, gerllaw’r Castell a Neuadd y Ddinas.
- Rydym 1.1km o orsaf drenau Caerdydd Canolog
- Rydym 0.6km o orsaf drenau Heol y Frenhines
- Mae safleoedd bysiau gerllaw’r swyddfa. Mae’r safle agosaf ar Heol y Brodyr Llwydion, 50m i ffwrdd. Mae’r lleill 200m i ffwrdd ar Ffordd y Brenin. Bydd lleoliad y safle bws y cyrhaeddwch wrth deithio yma’n dibynnu ar ble y gwnaethoch gychwyn eich taith. Os byddwch yn cerdded o Ffordd y Brenin bydd angen i chi ddefnyddio tanffordd sydd ar oledd i groesi ffordd brysur.
PARCIO
Mae gan ein swyddfa faes parcio am ddim.
Mae’r maes parcio islaw adeilad ein swyddfa ac mae’r mynediad iddo ar Heol y Brodyr Llwydion. Nifer cyfyngedig o fannau parcio sydd gennym (6 i gyd). Bydd angen i chi archebu man parcio ymlaen llaw drwy gysylltu â’r tîm concierge.
Mae gennym un man parcio sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn ein maes parcio. Mae angen ei archebu ymlaen llaw drwy gysylltu â’n tîm concierge. Mae cyfyngiadau ar hygyrchedd lifftiau’r adeilad o’r maes parcio. Gan fod derbyniad ffonau symudol hefyd yn gyfyngedig yn islawr yr adeilad, cysylltwch â’n tîm concierge ymlaen llaw i drafod eich anghenion hygyrchedd fel y gallan nhw eich cynghori.
Mae mannau parcio Bathodyn Glas rhad ac am ddim ym Mhlas Y Brodyr Llwydion, 100 metr i ffwrdd.
Y maes parcio cyhoeddus agosaf yw NCP Cardiff Greyfriars, 200 metr i ffwrdd. Codir tal am barcio yno a gellir archebu lle ymlaen llaw. Mae 4 parth anabl yno, ond nid yw NCP yn caniatáu archebu mannau parcio anabl ymlaen llaw.
Beth i’w ddisgwyl wedi i chi gyrraedd
Y BRIF FYNEDFA
Gallwch weld llun o’r brif fynedfa uchod.
Mae prif fynedfa’r adeilad lle lleolir ein swyddfa ar Ffordd y Brenin (Rhif 1, Ffordd y Brenin). Ceir mynediad i’r adeilad drwy risiau neu ramp. Wrth y fynedfa mae drws troi a drws dwbl sy’n llithro ar agor yn awtomatig.
Mae’r drws dwbl awtomatig yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a rhai sy’n gwthio pram neu goets, mae’n fwy na 100cm o led.
Mae ramp garreg ar ochr dde’r brif fynedfa. Mae canllawiau ar ddwy ochr y ramp.
Hefyd, mae pedwar o risiau’n arwain i fyny i’r brif fynedfa. Mae canllawiau ar ddwy ochr y grisiau.
Croesewir cŵn cymorth
Tu Fewn i'r adeilad
Y DDERBYNFA
Mae desg groeso’r dderbynfa wrth y brif fynedfa, 5m o’r drws. Bydd staff yr adeilad yn falch i’ch helpu os bydd angen cymorth arnoch.
Mae desg groeso isel yn y dderbynfa sy’n addas ar gyfer ymwelwyr sy’n defnyddio cadair olwyn.
TROSOLWG O’R ADEILAD
Mae ein swyddfa yng Nghaerdydd ar ail lawr yr adeilad. Mae’r swyddfa gyfan ar un lefel gyda choridorau llydan, ac yn hygyrch i ymwelwyr sy’n defnyddio cadair olwyn.
YSTAFELLOEDD CYFARFOD
Mae pob un o’n hystafelloedd cyfarfod mwy (ystafelloedd 1,2,6 a 7) yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Lifft A GRISIAU
Gallwch ddefnyddio lifft neu risiau i gyrraedd ein swyddfa ar yr ail lawr.
Mae yna lifft ar gyfer cario pobl yn yr adeilad. Lled drws y lifft yw 80cm. Uchder botymau rheoli’r lifft o’r llawr yw 100cm.
Mae botymau Braille yn y lifft. Mae gan y lifft system hysbysu glywadwy.
Mae canllawiau wrth ddwy ochr y grisiau.
Wrth i chi ddod allan o’r lifft, mae mynedfa ein swyddfa yn syth o’ch blaen, 4m i ffwrdd.
Wrth i chi adael y grisiau, mae mynedfa ein swyddfa ar y dde, 8m i ffwrdd.
Mae gennym gloch fynediad wrth ddrws y swyddfa. Uchder botwm y gloch o’r llawr yw 150cm.
Os nad ydych yn meddwl y bydd y lifft yn addas ar eich cyfer, rhowch wybod i’r tîm concierge cyn eich ymweliad fel y gallwn wneud trefniadau priodol.
TOILEDAU HYGYRCH
Mae toiled hygyrch gerllaw desg y dderbynfa ar lawr isaf yr adeilad. Mae’r toiled yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn.
Lled drws y toiled yw 90cm. Mae’r drws yn agor tuag allan.
Hefyd, mae gennym doiled hygyrch yn ein swyddfa ar yr ail lawr. Lled drws y toiled yw 90cm. Mae’r drws yn agor tuag allan.