Mae'r British Council yn cynnig ystod eang o wasanaethau a chymorth i sefydliadau addysg uwch ar gyfer gwaith rhyngwladol a phartneriaethau.
Rhyngwladoli addysg uwch
Rydym yn gweithio gyda sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a ledled y byd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu gwybodaeth a sgiliau.
Drwy ein rhaglenni Rhyngwladoli Addysg Uwch, rydym yn darparu cyfleoedd i brifysgolion ledled y byd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
- polisi a strategaeth
- symudedd myfyrwyr a symudedd academaidd (ysgoloriaethau a grantiau)
- partneriaethau sefydliadol addysg uwch.
Drwy ein cysylltiadau â gwneuthurwyr polisïau, ymarferwyr a'r diwydiant, yn ogystal â'n dulliau o gyrraedd myfyrwyr, gallwn gefnogi'r sector wrth fynd i'r afael â heriau byd-eang a lleol.
Ewch i’r wefan Addysg Uwch Rhyngwladoli (Saesneg) am fwy o fanylion.
International Education Services
Mae British Council International Education Services yn rhaglen fyd-eang sy’n cefnogi gwaith rhyngwladol sefydliadau addysg y DU. Rydym yn gweithio mewn mwy na 50 o wledydd, yn darparu gwasanaethau ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, deallusrwydd y farchnad a hwyluso datblygu perthynas waith gyda sefydliadau mewn gwledydd gwhanol.