©

Hawlfraint British Council

Mae gweithio i British Council Cymru yn gyfle unigryw i ennill profiad a datblygu sgiliau ym maes cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol.

Byddwch yn rhan o sefydliad modern sy'n newid yn gyflym ac sydd â dylanwad ac effaith byd-eang. Mae ein swyddi yn cwmpasu amlochredd, arloesedd a chreadigrwydd mewn amgylchedd diddorol a chefnogol.

Swydd Wag – mae’r swydd ddi-dâl ganlynol ar gael gennym hefyd:

Aelod, Pwyllgor Cynghori Cymru

Gwnewch gais am y swydd

Cyfle cyfartal a pholisi amrywiaeth

Mae'r British Council yn creu cyfleoedd rhyngwladol i bobl y DU a gwledydd eraill gan feithrin ymddiriedaeth rhyngddynt yn fyd-eang. Mae ein gwaith yn cynnwys datblygu cydberthnasau â phobl o ystod eang o gefndiroedd a diwylliannau. Mae gweithio'n effeithiol gydag amrywiaeth a hyrwyddo cyfle cyfartal felly yn rhan hanfodol o'n gwaith. 

Rhannu’r dudalen hon