Sgiliau a chyflogadwyedd
Rydym yn helpu i feithrin sgiliau pobl ifanc ac oedolion fel y gallant weithio mewn byd sydd wedi globaleiddio, a chystadlu ynddo. Wrth annog cysylltiadau agosach rhwng addysg a diwydiant, rydym yn atgyfnerthu'r sector technegol a galwedigaethol.
I sefydliadau, rydym yn darparu:
- Cynadleddau, seminarau, gweithdai ac ymweliadau astudio rhyngwladol
- Heriau menter ar gyfer pobl ifanc
- Partneriaethau sgiliau rhyngwladol.
International Education Services
Mae British Council International Education Services yn rhaglen fyd-eang sy’n cefnogi gwaith rhyngwladol sefydliadau addysg y DU. Rydym yn gweithio mewn mwy na 50 o wledydd, yn darparu gwasanaethau ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, deallusrwydd y farchnad a hwyluso datblygu perthynas waith gyda sefydliadau mewn gwledydd gwhanol.
Cymunedau Dysgu Proffesiynol Rhyngwladol
Mae gan staff colegau gyfle i ymweld â gwlad dramor i arsylwi arferion gorau ym maes datblygu sgiliau’r gweithlu, ac i weld sut mae’r rhwydwaith integredig o bartneriaid yn cydweithio i sicrhau bod addysg a hyfforddiant yn paratoi’r boblogaeth at fyd gwaith. Bydd yr ymweliadau yn ategu datblygiad polisi ac yn helpu i lywio’r sector addysg bellach yng Nghymru