Bydd gan Study in Wales a chi’r hyblygrwydd i gyflawni eich amcanion drwy nifer mawr o bynciau, mewn rhai o leoliadau mwyaf trawiadol yn y DU. Gallwch fanteisio ar ddulliau addysgu, cyfleusterau ymchwil ac arbenigwyr blaenllaw o safon uchel mewn amrywiaeth eang o feysydd.
Mae prifysgolion Cymru yn rhan sefydlog o hanes a thraddodiad addysg uwch y DU, a chaiff hwn ei adlewyrchu yn y gwaith sicrhau ansawdd, y diwylliant ymchwil a'r dull o addysgu a dysgu.
Lleolir y campysau mewn amgylcheddau diogel wedi'u rheoli, mewn dinasoedd neu drefi cymharol fach nad oes ganddynt ddiwydiant. Mae'r cyfleusterau o fewn pellter cerdded neu deithio rhwydd.
Pum prif reswm dros astudio yng Nghymru
- Addysgu, ymchwil a chymwysterau o’r safon uchaf
- Costau byw isel o gymharu â gweddill y DU
- Lleoliadau cyfeillgar a diogel
- Arfordir, cestyll a chefn gwlad godidog i’w harchwilio
- Croeso cynnes i fyfyrwyr rhyngwladol