Ddoe, daeth dros 80 o ddisgyblion ysgol o Gymru at ei gilydd i fod yn arweinwyr byd, lobïwyr, ac aelodau o’r cyfryngau am ddiwrnod. Roedd yn ddigwyddiad a chyfle arbennig i gael profiad uniongyrchol o negodi cytundeb byd-eang ar yr hinsawdd.
Cafodd Digwyddiad Efelychu Cynhadledd Hinsawdd COP 31 ei gynnal gan y British Council yn y Senedd, gyda’r disgyblion yn camu i esgidiau gwleidyddion, newyddiadurwyr ac eiriolwyr i drafod dyfodol y blaned.
Roedd y digwyddiad yng Nghaerdydd yn cydfynd â 31ain Cynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP31) sy’n cael ei chynnal yn Antalya yn Nhwrci (rhwng 9-20 Tachwedd). Daeth y disgyblion, sydd rhwng 16-18 oed, at ei gilydd o wyth o ysgolion uwchradd Caerdydd.
Gyda meddalwedd efelychu blaengar a ddatblygwyd gan y Massachusetts Institute of Technology (MIT) roedd y digwyddiad yn ail-greu holl bwysau a’r ddiplomyddiaeth a chyfaddawdu sy’n rhan annatod o drafodaethau hinsawdd go iawn.
I roi blas go iawn i’r disgyblion o drefniant, dull gweithredu, anghydraddoldebau, a diplomyddiaeth galed COP, cawsant eu herio i greu strategaeth fyd-eang i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a chadw tymereddau’r byd rhag codi’n uwch na 1.5 gradd Celsius - gan adleisio nod hinsawdd Cytundeb Paris 2015. Yn ogystal, gofynnwyd iddynt sicrhau bod darpariaeth ariannol yn ei lle ar gyfer y gwledydd hynny sy’n fwyaf agored i effeithiau newid hinsawdd.
Dyma’r chweched flwyddyn i’r British Council gynnal yr efelychiad, ac mae’r digwyddiad yn dal i ysbrydoli pobl ifanc i fynd i’r afael â phob math o agweddau o sefyllfa’r hinsawdd a meithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a negodi.
Pwysleisiodd Mitch Theaker, Cyfarwyddwr British Council Cymru, bwysigrwydd y digwyddiad:
“Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan bod argyfwng hinsawdd. Bydd y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud heddiw yn llunio ein dyfodol, a dyna pam mae’n rhaid i bobl ifanc fod wrth galon y trafodaethau.
“Mae’r digwyddiad yma nid yn unig yn helpu i ddyfnhau dealltwriaeth y dysgwyr o effaith newid yr hinsawdd a’r heriau sy’n rhan o drafodaethau rhyngwladol am hynny, ond mae hefyd yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a meddwl yn feirniadol sy’n gwbl allweddol.
“Drwy eu helpu i archwilio holl gymhlethdodau digwyddiadau fel COP31 fel hyn, gallwn ysbrydoli pobl ifanc i chwarae rhan flaenllaw wrth lunio dyfodol mwy cynaliadwy, er lles cenedlaethau’r dyfodol a’r byd ehangach.”
Wrth annerch y digwyddiad, soniodd Elyn Stephens AS am bwysigrwydd cydweithio wrth fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd:
“Dyw newid hinsawdd ddim yn parchu ffiniau. Mae’n rhaid i wledydd sydd â blaenoriaethau, adnoddau, a safbwyntiau gwahanol ddod at ei gilydd a chytuno ar y ffordd ymlaen, fel [y gwnaeth y myfyrwyr] heddiw. Roedd yn gymaint o anrhydedd i glywed eu cyfraniadau, eu hangerdd, a’u hyder wrth gyflwyno’u hachos.
Weithiau, er eich bod yn ennill dadl rydych chi’n gorfod gadael heb gytundeb. Weithiau, y gamp fwyaf yw ffeindio ffordd ymlaen y gall pobl ei gweithredu. Mae hyn yn gyfarwydd i fi drwy fy ngwaith yn y Senedd... [rydyn ni’n] gwrando ar dystiolaeth, gofyn cwestiynau a herio barn ein gilydd. Dydyn ni ddim yn cytuno bob tro, ac mae hynny’n iawn. Mae gwrando lawn mor bwysig â siarad.”
Soniodd un o’r dysgwyr oedd yn cymryd rhan, Dyddgu Owain, pam y dylai bod sedd i bobl ifanc wrth fwrdd y trafodaethau:
“Mae angen cynnwys y genhedlaeth iau mewn sgyrsiau am newid yr hinsawdd – ac mae angen i ni gael lleisio’n barn am gynlluniau’r dyfodol. Mae newid yr hinsawdd yn mynd i gael fwy o effaith arnom ni nag unrhyw un arall, felly mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni’n rhan o’r drafodaeth.
“Mae’r hyn mae’r profiad yma wedi’i roi i ni yn anhygoel. Wnes i wir fwynhau sut cafodd [yr efelychiad] ei osod allan. Ro’n i’n wedi meddwl y byddai mwy o eistedd, darllen a sgwennu. Mae wedi bod yn brofiad gwirioneddol gymdeithasol, a dw i’n gwerthfawrogi hynny.”
Wrth sôn am y profiad dywedodd myfyriwr arall, Mikaeel Moulani:
“Dw i newydd gael fy mhenblwydd yn 16, felly dw i’n cael pleidleisio am y tro cyntaf. Mae trafodaethau fel hyn yn rhoi gymaint o wybodaeth i fi am y pethau dw i am bleidleisio drostyn nhw, pwy ddylwn i bleidleisio drostyn nhw, a sut mae’r pethau hyn yn effeithio arna i.
“Yn ystod y trafodaethau heddiw, do’n i ddim wedi disgwyl y byddai pobl mor angerddol – fe weles i mor frwdfrydig oedd pawb arall, a gwnaeth hynny fy sbarduno hyd yn oed yn fwy. Fe ges i fy synnu go iawn, achos er mod i wastad wedi hoffi gwleidyddiaeth, do’n i ddim yn meddwl fod pobl eraill yn teimlo’r un peth. Ac fel mae’n digwydd, mae gan lawer o bobl ifanc ddiddordeb. Byddai’n wych petai’r digwyddiad yma’n gallu cael ei gynnal ym mhob ysgol.”
Drwy raglen Cysylltu â’r Hinsawdd mae’r British Council yn cefnogi pobl ledled y byd i ffeindio atebion creadigol ac ymarferol ar gyfer argyfwng yr hinsawdd, gan weithio gydag addysgwyr, myfyrwyr, artistiaid, ymchwilwyr, y gymdeithas sifil, a llunwyr polisi yn y cyfnod yn arwain at gynhadledd COP 31, ac ar ei hôl.
Mae’r digwyddiad yma’n parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth, ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Dua thramor drwy’r celfyddydau, addysg ac addysgu’r iaith Saesneg.