Professor Paul Boyle ©

Professor Paul Boyle

Dydd Mercher 17 Rhagfyr 2025

 

Mae'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, wedi cael ei apwyntio'n Gadeirydd newydd Pwyllgor Cynghori Cymru'r British Council. Mae'n olynu Rob Humphreys CBE FLSW, a gamodd i lawr o'r rôl yn gynharach eleni.

Fel Cadeirydd, bydd yr Athro Boyle yn llywio'r pwyllgor i sicrhau fod gwaith y British Council ym meysydd addysg, y celfyddydau a diwylliant yn parhau i gysylltu Cymru'n rhyngwladol, a hybu dealltwriaeth a chydweithio.

Mae'r Athro Boyle wedi bod yn Is-ganghellor Prifysgol Abertawe ers 2019. Cyn hynny, bu'n Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerlŷr. Mae wedi gweithio ar draws meysydd ymchwil, addysgu ac ymgysylltu rhyngwladol yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Bu hefyd yn Brif Weithredwr y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), Llywydd Science Europe ac Is-lywydd Cymdeithas Prifysgolion Ewrop.

Mae'r Athro Boyle yn arweinydd cydnabyddedig ym maes addysg uwch ac mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Academi Brydeinig ac Academi'r Gwyddorau Dynol. Mae'n Gadeirydd Jisc, sefydliad nid er elw sy'n darparu gwasanaethau ac atebion digidol i sector addysg uwch a phellach y DU, ac mae hefyd yn Gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Prifysgolion Cymru, Panel Achredu Ymchwil UKSA a Research Data Scotland.

Wrth sôn am ei apwyntiad, dywedodd yr Athro Boyle:                                       Mae'n fraint cael cymryd y rôl hon a chefnogi gwaith pwysig y British Council yng Nghymru ar adeg mor bwysig. Mae cysylltu pobl drwy addysg, diwylliant a'r celfyddydau yn hollbwysig i feithrin dealltwriaeth ryngwladol a chyfleoedd i gydweithio, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar draws sectorau i feithrin a chryfhau'r cysylltiadau hyn a dangos holl amrywiaeth talent Cymru ar lwyfan y byd."

Wrth groesawu'r apwyntiad, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'r Athro Boyle yn dod â phrofiad ac arweiniad eithriadol i'r rôl hon. Bydd ei gefndir ym maes addysg uwch a chydweithio rhyngwladol ar ymchwil yn amhrisiadwy wrth i ni ehangu cysylltiadau byd-eang Cymru. Rwy'n teimlo'n gyffrous am weithio gydag ef i greu cyfleoedd newydd i ysgolion, prifysgolion a sefydliadu diwylliannol Cymru i ymgysylltu'n rhyngwladol a helpu talent, diwylliant a syniadau o Gymru gyrraedd cynulleidfaoedd ledled y byd. Bydd ei apwyntiad yn ein helpu i ddatblygu cyfraniad Cymru ar draws ystod blaenoriaethau'r DU - o dwf a diogelwch i ddatblygu, symudedd, cydweithrediad Ewropeaidd a gweithredu ar yr hinsawdd."

Mae'r Athro Boyle yn camu i'w rôl newydd wrth i British Council Cymru barhau i ddatblygu rhaglenni rhyngwladol ym meysydd addysg a'r celfyddydau, gan greu cyfleoedd i ysgolion, prifysgolion a sefydliadau'r celfyddydau yng Nghymru i ymgysylltu'n fyd-eang.

Mae'r British Council yn gweithio i feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng y DU a'r byd drwy addysg, y celfyddydau ac addysgu'r iaith Saesneg. Mae mwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ar gael yma: https://wales.britishcouncil.org/  neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau'r cyfryngau - cysylltwch â

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council:  +44 (0)7542268752     E: Claire.McAuley@britishcouncil.org   

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2023-24, ymgysylltodd y British Council â 589 miliwn o bobl.

Rhannu’r dudalen hon