Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yng NGHAERDYDD yr wythnos nesaf i ddathlu straeon LHDTCRhA+ fel rhan o fenter fyd-eang y British Council - Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films For Freedom.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr Artium ym Mhrifysgol De Cymru ar 24 Mawrth (ddydd Mawrth nesaf) mewn partneriaeth â Gwobr Iris, gŵyl ffilm LHDTCRhA+ ryngwladol Caerdydd.
Bydd cyfle i'r gynulleidfa weld tair ffilm o raglen Pum Ffilm Dros Ryddid eleni - I Hate Helen (y DU), Room 206 (Ffrainc) a Theo (Brasil). Yna, bydd y comedïwr a'r sgwennwr comedi o Gymru, Leila Navabi, yn cadeirio trafodaeth banel gyda Michael Blyth o dîm Pum Ffilm Dros Ryddid y British Council, yr actor ac awdur, Leo Drayton, a Rosie Brear, cynhyrchydd I Hate Helen.
Dyma 12fed blwyddyn Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films For Freedom - menter sy'n defnyddio sinema i rannu straeon LHDTCRhA+ gyda chynulleidfaoedd o gwmpas y byd. Ers lansio'r fenter yn 2015, mae'r ffilmiau wedi cael eu gweld bron i 29 filiwn o weithiau mewn dros 200 o wledydd, gan gynnwys rhannau o'r byd lle mae cynrychiolaeth LHDTCRhA+ yn cael ei wrthwynebu neu'i gyfyngu.
Mae I Hate Helen, a gyfarwyddwyd gan Katie Lambert, yn portreadu dyheadau un-rhyw dwys merch yn ei harddegau o'r enw Priya, merch ysgol sy'n ceisio dod i ddeall ei theimladau am un o'i chyd-ddisgyblion. Mae'r ffilm ddogfen o Ffrainc, Room 206, a gyfarwyddwyd gan Laurie Bisceglia, yn dilyn stori Clair wedi llawdriniaeth cadarnhau rhywedd, a'i siwrnai at hunan-ymwybyddiaeth ac adnewyddu. Cafodd y drydedd ffilm, Theo, ei chyfarwyddo gan Monica Palazzo a Joana Galvão. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn ystod Cwpan y Byd ym Mrasil yn 1986. Mae'n dilyn stori plentyn saith mlwydd oed sy'n ffeindio eu ffordd dawel eu hun o herio disgwyliadau rhywedd caeth yn eu hysgol, a chreu eu ffordd eu hun o fodoli.
Bydd y dangosiad yn cael ei gyflwyno gan Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gwobr Iris ac Elena Schmitz, Pennaeth y Celfyddydau British Council Cymru.
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: "Mewn byd yn llawn o heriau, mae prosiect Pum Ffilm Dros Ryddid yn ein hatgoffa o sut y gallwn ffeindio gobaith mewn gwahanol sefyllfaoedd o gwmpas y byd.
"Yng Nghymru, rydyn ni'n cael ein hatgoffa i 'wneud y pethau bychain', ac mae straeon y ffilmiau celfydd hyn yn ein hatgoffa fod gan ddynoliaeth y pŵer i gynnig gobaith yn y llefydd mwyaf annisgwyl.
Rydyn ni yn Nhîm Iris wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth â'r British Council i ddathlu Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films for Freedom."
Ychwanegodd Elena Schmitz, Pennaeth y Celfyddydau yn British Council Cymru: "Mae Pum Ffilm Dros Ryddid yn dangos mor bwerus y gall ffilm fod wrth ddod â straeon o bedwar ban byd i gynulleidfaoedd lleol. Mae digwyddiad fel hwn yn gyfle i bobl yng Nghaerdydd brofi a rhannu straeon rhyngwladol pwerus yn ogystal â chlywed gan y bobl greadigol sy'n creu'r gwaith.
"Ar adeg pan fo lleisiau LHDTCRhA+ yn dal i gael eu gwthio i'r ymylon mewn sawl rhan o'r byd, mae rhannu'r ffilmiau hyn yn helpu i greu man diogel lle gall pobl gael eu gweld, sgwrsio, a dod i ddeall ei gilydd. Rydyn ni'n falch o weithio gyda Gwobr Iris i ddod â'r straeon hyn i gynulleidfaoedd yng Nghymru a chysylltu Caerdydd â dathliad byd eang o greadigrwydd LHDTCRhA+."
Mae ymgyrch Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films For Freedom yn rhedeg ar-lein tan 29 Mawrth. Mae'r pum ffilm ar gael i'w ffrydio'n fyd eang ar blatfformau digidol y British Council ac ar blatfform y BFI Player yn y DU.
Mae'r fenter hon yn parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd mewn gwledydd lle mae perthnasoedd un-rhyw yn dal yn anghyfreithlon, gan bwysleisio'r pŵer sydd gan ffilm i hybu gwelededd a meithrin deialog ddiwylliannol a chynrychiolaeth.
Gallwch archebu tocynnau am ddim ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd yma:
https://irismembership.eventive.org/schedule/69a84e46a04ff3f9185dae06
Mwy o wybodaeth am fenter Pum Ffilm Dros Ryddid / Five Films for Freedom. Gallwch wylio rhagflas yma: https://film.britishcouncil.org/about/work/fivefilmsforfreedom