Dydd Gwener 30 May 2025

 

Mae British Council Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a'i asiantaeth ryngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd i ddyfnhau'r cydweithio rhyngddynt a chryfhau cysylltiadau diwylliannol rhyngwladol Cymru.

Cafodd y cytundeb ei arwyddo'n ffurfiol heddiw yng Ngŵyl Lenyddiaeth a Chelfyddydau'r Gelli gan Paul Thompson, Cadeirydd y British Council a Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad gan y ddau sefydliad i ddathlu rhyngwladoliaeth yng Nghymru, hyrwyddo creadigrwydd o Gymru a phrofiadau ieithyddol o gwmpas y byd, a meithrin cysylltiadau parhaus sy'n cefnogi artistiaid a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.

Mae adnewyddu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yma'n sefydlu fframwaith strategol ar gyfer rhaglennu, buddsoddi a hybu cyfleoedd arddangos rhyngwladol ar y cyd a fydd yn helpu artistiaid o Gymru i gysylltu, creu a ffynnu'n rhyngwladol. Mae'n ailddatgan ymrwymiad y ddau sefydliad i fentrau cydweithio rhyngwladol fel un o gonglfeini allweddol hunaniaeth eangfrydig Cymru.

Un o flaenoriaethau allweddol y cytundeb yw cefnogi ymgyrchoedd blaenllaw a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Blwyddyn Cymru a Japan 2025. Bydd cronfa ddiwylliannol y bartneriaeth yn hybu rhaglen gyffrous o weithgareddau diwylliannol rhwng y ddwy wlad. Mae'n dilyn llwyddiant mentrau fel Cymru yn Ffrainc 2023 a Chymru yn India 2024, a greodd sianeli newydd ar gyfer cyfnewid artistig, deialog greadigol ac amlygu talent o Gymru.

Wrth edrych ymlaen, mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn amlinellu cynlluniau i gynyddu presenoldeb Cymru ar lwyfannau, mewn gwyliau ac ar draws rhwydweithiau rhyngwladol, a hefyd i annog rhannu gwybodaeth a phrosiectau ymchwil posibl. Ymysg prosiectau sydd ar y gweill mae rhaglen o breswyliadau yng Nghymru i artistiaid o Wcráin, dychweliad Cymru i Biennale Fenis yn 2026, a pharhau i gydweithio â Focus Cymru.

Yng Ngŵyl y Gelli eleni, mae'r partneriaid hefyd yn cefnogi menter Llenyddiaeth Cymru i ddod â dirprwyaeth o ysgrifenwyr rhyngwladol i'r ŵyl, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Sefydliadau Diwylliannol yr Undeb Ewropeaidd (EUNIC) a hwyluso cyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol gydag ysgrifenwyr o Gymru sy'n cymryd rhan yn rhaglen Ysgrifenwyr wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli.

Dywedodd Paul Thompson, Cadeirydd y British Council:

"Rydyn ni wrth ein bodd i barhau'r bartneriaeth hanfodol yma gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae'n ailddatgan ein cyd-ymrwymiad i sicrhau bod Cymru'n parhau i fynd o nerth i nerth ar y llwyfan diwylliannol rhyngwladol. Mae'r cytundeb newydd yma'n datgloi cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio rhyngwladol, cyfnewid artistig a chynrychiolaeth fyd-eang, gan adlewyrchu partneriaeth sy'n werthfawr iawn i ni ac sy'n ein cyffroi wrth feddwl am ei datblygu ymhellach."

Ychwanegodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae Cymru'n gyforiog o dalent ryfeddol sydd o ddiddordeb rhyngwladol, ac mae ganddi stori anhygoel i'w hadrodd. Mae Cymru'n gartref i wyliau o fri rhyngwladol fel Gŵyl y Gelli, yn ogystal â chanolfannau sy'n rhan o guriad calon eu cymunedau ac yn cynnal digwyddiadau rhyngwladol cyffrous fel Neuadd Ogwen ym Methesda yng Ngogledd Cymru. Rydyn ni, mewn partneriaeth â'r British Council, wedi ymrwymo i gefnogi'r profiadau hyn sy'n berthnasol yn ddiwylliannol ac ieithyddol, a'u rhannu gydag artistiaid a gweithwyr diwylliannol o bob rhan o'r byd. Mae ein strategaeth ddeng mlynedd newydd, a lansiwyd yn ddiweddar gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn dathlu'r bartneriaeth yma gan gysylltu potensial artistig, creadigol a diwylliannol Cymru â'r byd, wrth sicrhau tegwch i bobl a'r blaned."

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yma'n parhau cenhadaeth hirdymor y British Council i feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng y DU a gweddill y byd drwy'r celfyddydau, addysg ac addysgu'r iaith Saesneg.

Mae mwy o wybodaeth am waith British Council Cymru ar gael ar ein gwefan https://wales.britishcouncil.org/en neu drwy ein dilyn ar X, Facebook, ac Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau'r Cyfryngau - Cysylltwch â:  

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council:

 +44 (0)7542268752          E: Claire.McAuley@britishcouncil.org  

Gwybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyfryngau Rhyngwladol Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus ar gyfer ariannu a datblygu’r celfyddydau. Rydym yn galluogi pobl ledled Cymru i fwynhau ac i gymryd rhan yn y celfyddydau. Gwnawn hyn drwy ddefnyddio’r arian cyhoeddus sydd ar gael i ni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu’r arian a gawn gan y Loteri Genedlaethol. Mae’r celfyddydau’n cyfrannu’n gadarnhaol at ansawdd bywyd ac at lesiant diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru. Mae mwy o wybodaeth amdanom ni a'n gwaith ar ein gwefan: https://arts.wales/cy

Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yw asiantaeth ryngwladol fewnol Cyngor Celfyddydau Cymru, sef y corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’n rhoi cyngor a chymorth i artistiaid a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru sy’n gweithio yn rhyngwladol, ac mae’n bwynt cyswllt i artistiaid, sefydliadau ac asiantaethau rhyngwladol sy’n gweithio yng Nghymru neu sy’n creu cysylltiadau â Chymru. https://wai.org.uk/cy/wales-arts-international/hafan-crhc

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn meithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl.

Rhannu’r dudalen hon