©

From left: Jennifer Charlton, Vaughn Gibson and Mark Szymura with partner teacher Andriana

Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026

 

Ym mis Medi, teithiodd Jennifer i Kraków yng Ngwlad Pwyl i gwrdd â'i hathrawes bartner o Wcráin am y tro cyntaf. Er mai dim ond llond dwrn o ebyst roedd y ddwy wedi rhannu cyn cwrdd, fe ffurfion nhw berthynas weithio gadarn a fydd o fudd i ddisgyblion ar y ddwy ochr. 

Dywedodd: "Ro'n i ychydig bach yn betrus cyn teithio - heb wybod sut y byddem ni'n cyfathrebu a gweithio gyda'n gilydd. Ond fe wnes i ac Olena glicio'n syth. Mae gyda ni ddiddordebau cyffredin a dulliau tebyg o addysgu a wnaeth y gwaith o gynllunio'r prosiect gymaint yn haws. Fe wnaethom ni benderfynnu cynnal cyfarfodydd ar-lein rheolaidd a chynllunio gweithgareddau darllen ar y cyd a thasgau creadigol ar gyfer ein disgyblion. Mae gweld ymateb positif y plant ers hynny wedi bod yn ffantastig." 

Mae'r disgyblion wedi bod yn darllen Alice in Wonderland, cyfnewid llythyron, anfon parseli Nadolig a chymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol fel creu blodau haul ac addurniadau traddodiadol. 

Ychwanegodd Jennifer: "Yr hyn mae fy nisgyblion wedi'i fwynhau fwyaf - a dw i'n credu fod hyn yn wir ar y ddwy ochr - yw cyfnewid llythyron. Doedd llawer ohonynt erioed wedi cael pen pal o'r blaen, felly roedd derbyn rhywbeth personol gan blentyn o Wcráin, sydd wedi dewis sgwennu atynt am eu bod yn rhannu'r un diddordebau, wedi bod yn rhywbeth arbennig iawn. Maen nhw'n mwynhau'r un pethau - rhannu cyfarchion, rhannu pethau bach fel y peth 'chwech-saith' 'na, rhannu symudiadau dawns a jôcs - roedd yn hyfryd i'w weld. Dw i ddim yn meddwl y bydden nhw wedi gwneud y gweithgareddau hyn yn yr un ffordd heb y prosiect yma. 

Dywedodd: "Maen nhw wedi dioddef sawl cyrch awyr, ac mae'r ysgol wedi cael ei difrodi. Maen nhw ryw ddwy awr o Ternopil, a gafodd ei bomio'n galed rai misoedd yn ôl. Maen nhw hefyd wedi gorfod ymdopi â thoriadau pŵer, ond mae'r plant yn dal i ddod i'r ysgol a pharhau â'u gwersi." 

"Dw i'n meddwl ei fod wedi gwneud ein disgyblion ni'n fwy ymwybodol o'r hyn mae plant yr un oed â nhw mewn ysgolion eraill yn mynd drwyddo, a pha mor wydn ma' nhw'n gorfod bod. Ond mae hefyd wedi agor eu llygaid i'r byd ehangach. Maen nhw wedi gweld plant mewn ystafell ddosbarth mewn lle gwahanol, yn cael profiadau gwahanol iawn iddyn nhw, ond gan sylweddoli hefyd y gallant ddal i rannu'r un diddordebau a mwynhau dysgu gyda'i gilydd." 

Yn Ysgol Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae disgyblion Blwyddyn 7 yn cydweithio ag ysgol Lyceum Burshtyn yn ne-orllewin Wcráin (ger y ffin â Gwlad Pwyl) ar brosiect creu ac adrodd straeon gan ddefnyddio'r llyfr lluniau The Journey gan Aaron Becker.   

Mae'r disgyblion yng Nghymru wedi creu cymeriad canolog Wcreinaidd i'w stori o'r enw Oksana, ac mae'r disgyblion yn Wcráin wedi creu eu cymeriad Cymreig eu hunain hefyd. Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Vaughn Gibson, athro arweiniol llythrennedd, a ddywedodd ei fod am roi cyfle i'r disgyblion edrych y tu hwnt i'w milltir sgwâr a chysylltu â phobl ifanc mewn rhannau eraill o'r byd. 

Dywedodd: "Mewn llawer o gymunedau, mae profiadau pobl ifanc, wrth reswm, yn gallu bod yn eithaf lleol. Mae'r rhaglen yma'n gyfle i ehangu gorwelion a helpu'r disgyblion i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o ddiwylliannau eraill a materion rhyngwladol. Mae'n fater o feithrin empathi ac ymwybyddiaeth a'u helpu i weld fod gan blant mewn gwledydd eraill, er eu bod efallai'n byw bywydau gwahanol iawn, yn aml yn rhannu'r un diddordebau ac uchelgais â nhw." 

Er bod yr ysgol hon yn Wcráin yn bellach o reng flaen y rhyfel nag ysgolion eraill yn y rhaglen, mae'r rhyfel wedi amharu ar fywyd yr ysgol, gan gynnwys toriadau pŵer ac ymosodiadau ar ganolfan ynni fawr yn yr ardal. 

Dywedodd: "Maen nhw'n ffodus eu bod cryn bellter o reng flaen y gogledd-ddwyrain, ond mae canolfan ynni bwysig yn eu tref sydd wedi cael ei thargedu. Felly, er eu bod, yn ddaearyddol, yn gymharol ddiogel, mae'r ffaith fod isadeiledd allweddol y wlad dan fygythiad yn destun pryder a braw." 

"Mae hon yn siwrnai arbennig i'n disgyblion ni, ac yn brofiad bywyd gwerthfawr. Weithiau, mae'r disgyblion yn Burshtyn yn gorfod troi at ddysgu ar-lein o adref pan fo cyrchoedd bomio trwm ar eu tref wrth i'r rhyfel barhau o'u cwmpas. Mae'n dod â realiti'r hyn maent yn byw drwyddo yn  fyw iawn." 

"Ond yn gyffredinol, mae pethau wedi bod yn iawn. Unwaith neu ddwy, rydyn ni wedi gorfod ail-drefnu sesiynau ac weithiau mae heriau gyda threfniadau, ond mae'r disgyblion bob tro'n awyddus i weld ei gilydd ar-lein, sy'n beth hyfryd iawn." 

Teithiodd Mr Gibson i Kraków yng Ngwlad Pwyl i gwrdd â'i athro partner yn ogystal ag athrawon eraill sy'n cymryd rhan yn y rhaglen. 

Dywedodd: "Pan ddiolchodd un o'r cynrychiolwyr o Wcráin i ni am roi gwely diogel iddyn nhw am ddwy noson, fe wnaeth hynny argraff fawr arna i - roedd yn emosiynol. Roedd bod mewn ystafell gyda 50 o athrawon Wcreinaidd yn brofiad ysbrydoledig iawn."  

"Fe wnaethom ni i gyd ddod ag anrhegion bach o adref. Fe es i â baner y ddraig goch a dreigiau tegan bach yn ogystal â siwtces mawr yn llawn deunyddiau i gyflwyno fy nosbarth i'r athro o Wcráin. I fi'n bersonol, roedd hynny'n deimlad arbennig iawn. Hefyd, fe wnaethon ni lynnu ffotograffau ar fap, a defnyddio rhubannau i gysylltu ein hysgol ni â'r ysgol yn Wcráin." 

Mae gan Ysgol Brynteg ddisgyblion o Wcráin sydd wedi ymuno ers 2022 ac sydd wedi gallu cymryd rhan mewn rhai o'r sesiynau. 

Meddai Vaughn: "Pan gerddodd un o'n disgyblion ni o Wcráin i mewn i'r ystafell ddosbarth a gweld yr addurniadau glas a melyn ymhob man (yn barod ar gyfer y sesiwn ar-lein) fe oleuodd ei wyneb. Mae wedi bod yn hyfryd i'w cynnwys a chynnig blas o adre iddyn nhw. Maen nhw'n gweld yr ymdrech a'r gofal rydyn ni wedi'i gymryd, ac mae'n eu helpu i deimlo cysylltiad, a theimlo'u bod nhw'n rhan o'r cyfan." 

Yng Ngogledd Cymru, mae Ysgol Gynradd Yr Holl Saint yn Wrecsam wedi partneru ag Ysgol Nelipyno yng ngorllewin Wcráin. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2026, gyda disgyblion ym Mlynyddoedd 5 a 6 yn defnyddio platfform Padlet i gynnal sgyrsiau un i un gyda disgyblion yn Wcráin. Er gwaethaf heriau fel gwahaniaeth amser a chysylltiadau rhyngrwyd, mae'r disgyblion wedi cydweithio ar weithgareddau amrywiol - o ddarllen Lost and Found gan Oliver Jeffers a gwneud pengwiniaid origami, i edrych ar draddodiadau ac arferion gyda'i gilydd. 

Dywedodd Mark Szymura, Rheolwr Cyrhaeddiad a Chynhwysiant yr ysgol: "Mae cymuned ein hysgol yn teimlo'n angerddol am agor llygaid ein plant i'r byd ehangach. Mae cysylltiadau rhyngwladol yn cynnig profiadau i'r plant sy'n bell y tu hwnt i'w profiadau bob dydd, sy'n eu helpu i feithrin empathi a dealltwriaeth wirioneddol o ddiwylliannau a phrofiadau bywyd gwahanol. Drwy'r prosiect yma, bydd ein disgyblion yn cael cyfle i feithrin cysylltiadau go iawn gyda phlant yn Wcráin - cysylltiadau a fydd, gobeithio, yn rhai ystyrlon a pharhaus ac a fydd yn cynnig llygedyn o obaith ar adeg heriol iawn."  

Ym mis Ionawr, teithiodd Mark i Kraków yng Ngwlad Pwyl, lle cafodd gyfle i gwrdd â'i athrawes bartner, Andriana, o Ysgol Nelipyno. 

Dywedodd: "Roedd y bore cyntaf yng Ngwlad Pwyl yn brofiad calonogol iawn. Roedd yr ystafell yn llawn teimladau positif. Roedd clywed straeon personol ein cydweithwyr am realiti dydd i ddydd eu bywydau yn Wcráin yn help i ni werthfawrogi eu gwytnwch a'u penderfyniad. Yn fwy na dim, cawsom ein cyffwrdd gan ba mor ddiolchgar oedden nhw am ein cefnogaeth. Roedd cwrdd wyneb yn wyneb fel hyn yn cadarnhau mor bwysig yw sefyll ochr yn ochr â nhw." 

Mae Mark yn credu fod y bartneriaeth wedi helpu disgyblion i gael gwell dealltwriaeth o realiti plant sy'n gorfod byw yng nghysgod rhyfel. 

Dywedodd: "Mae ein disgyblion yn dechrau cael darlun cliriach o natur bywyd dyddiol plant yn Wcráin - tymheredd eithafol, cyfyngiadau ar ynni, a natur ansicr eu bywydau o ddydd i ddydd. Fel rhiant fy hun, dw i'n gwybod am y dyhead i amddiffyn ein plant. Ond weithiau, wrth warchod ein plant, dy'n ni ddim yn sylweddoli cyn lleied maen nhw'n ei ddeall am realiti bywydau pobl eraill, yn enwedig y rheiny sy'n byw dan gysgod rhyfel. 

"Mae'r bartneriaeth yma'n rhoi cyfle iddyn nhw edrych yn ddyfnach, a chysylltu â phlant sydd, er gwaethaf popeth, yn dal i garu pêl-droed, gymnasteg a phleserau syml bywyd bob dydd. Yn yr amser byr rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd, mae'r effaith wedi bod yn rhyfeddol. Mae'n rhoi cyfle i'n disgyblion feithrin empathi go iawn a dealltwriaeth ddyfnach o'r heriau y mae'r bobl ifanc yma a'u teuluoedd yn eu hwynebu." 

"Ein nod yw meithrin cysylltiadau ystyrlon a fydd yn para am amser maith - cysylltiadau a fydd yn parhau i hybu empathi, chwilfrydedd a diddordeb gwirioneddol yn y byd ehangach." 

Ers mis Ionawr 2025, mae rhaglen Partneriaethau Ysgolion y Du a Wcráin wedi cefnogi tua 23,400 o bobl ifanc. Nawr, mae'r rhaglen yn ehangu i gynnwys 300 o ysgolion eraill - gyda disgwyl y bydd 54,000 o ddisgyblion yn manteisio ar y cyfleoedd y mae'r rhaglen yn eu cynnig. 

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'r rhaglen hon yn dangos y pŵer sydd gan ysgolion i feithrin cysylltiadau go iawn ar draws ffiniau, hyd yn oed ar adegau heriol. Mae'r disgyblion yng Nghymru a Wcráin yn gwneud mwy na dim ond cymryd rhan mewn gwersi ar-lein a phrosiectau creadigol, maen nhw hefyd yn dysgu am fywydau'i gilydd, meithrin empathi, gwytnwch a sgiliau cyfathrebu. Mewn gwlad fel Cymru, sy'n falch o'i statws fel cenedl noddfa groesawgar, mae'r cysylltiadau hyn nid yn unig yn cynnig cysondeb a gobaith i ddisgyblion sydd wedi'u heffeithio gan ryfel, ond hefyd yn adlewyrchu trugaredd ac undod - gwerthoedd sy'n diffinio ein cymunedau. Mae addysg yn arf pwerus i hybu dealltwriaeth, heddwch a diogelwch, ac mae'r British Council yn falch o gefnogi ysgolion wrth iddynt greu'r cysylltiadau ystyrlon hyn."  

Mae croeso i ysgolion ac athrawon sydd â diddordeb yn y rhaglen wneud cais i gymryd rhan. Dyddiad cau i geisiadau: 2 Mawrth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: https://www.britishcouncil.org/school-resources/uk-ukraine-partnerships 

Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau'r cyfryngau - cysylltwch â:   Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council:  +44 (0)7542268752             E: claire.mcauley@britishcouncil.org    

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2023-24, ymgysylltodd y British Council â 589 miliwn o bobl. 

Rhannu’r dudalen hon