- Dyfarnu grantiau teithio i sefydliadau celfyddydol o Gymru: Mae'r British Council wedi dyfarnu grantiau teithio o hyd at £3,000 i helpu sefydliadau celfyddydol o Gymru ymweld â Tsieina yn 2026 i ymchwilio i gyfleoedd i ffurfio partneriaethau rhyngwladol.
- Cefnogi diwydiannau creadigol y DU: Bydd adnodd ar-lein newydd y British Council, China Now, yn cyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd, dadansoddiadau o'r sector ac astudiaethau achos i helpu sefydliadau celfyddydol yn y DU sy'n awyddus i feithrin partneriaethau rhyngwladol.
- Meithrin cysylltiadau diwylliannol byd-eang: Nod y grantiau yw helpu'r derbynwyr i gwrdd â sefydliadau, gwyliau a chanolfannau diwylliannol yn Tsieina, a chael gwell dealltwriaeth o dirlun diwylliannol y wlad a meithrin cysylltiadau a allai arwain at gydweithio yn y dyfodol.
Bydd saith o sefydliadau celfyddydol o Gymru'n derbyn grantiau teithio gan y British Council, i'w galluogi i ymchwilio i gyfleoedd i ffurfio partneriaethau a chryfhau cysylltiadau diwylliannol yn Tsieina.
Bydd y grantiau, gwerth hyd at £3,000 yr un, yn helpu'r cynrychiolwyr o Gymru i deithio i Tsieina yn 2026. Bydd yr ymweliadau'n fodd i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o dirlun diwylliannol Tsieina, cwrdd â darpar bartneriaid a ffurfio cysylltiadau a allai arwain at brosiectau cydweithio rhyngwladol yn y dyfodol.
Mae'r saith sefydliad sy'n derbyn Grantiau Teithio Cymru-Tsieina 2026 yn adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth sector y celfyddydau yng Nghymru - o theatr a ffilm i'r celfyddydau gweledol ac arfer amlddisgyblaethol. Y saith sefydliad o Gymru yw: Common/Wealth, cwmni theatr safle-benodol gwobrwyedig; Cwmni Theatr Hijinx, cwmni theatr gynhwysol amlycaf Cymru; Gŵyl Ryngwladol Serameg Aberystwyth, un o wyliau serameg mwyaf nodedig Ewrop; Gwobr Iris, sefydliad ffilm LHDTC+ blaengar sydd wedi ennill enw rhyngwladol; Canolfan Gelfyddydau Pontio, canolfan gelfyddydau aml-ffurf dan adain Prifysgol Bangor; Theatr Iolo, sy'n creu theatr feiddgar i gynulleidfaoedd ifanc; a Gŵyl Ffilm WOW, gŵyl ffilm ryngwladol hynaf Cymru.
Bydd y sefydliadau hyn yn defnyddio'r grantiau i archwilio tirlun diwylliannol Tsieina, cwrdd â darpar bartneriaid a datblygu prosiectau cydweithio rhyngwladol. Mae'r rhaglen yn cefnogi cyfnewid creadigol, deialog diwylliannol a rhannu syniadau ar draws ffiniau, gan helpu i amlygu creadigrwydd Cymreig ar lwyfan y byd.
Mae'r fenter hon yn rhan o waith parhaus y British Council i gysylltu sectorau celfyddydau a diwylliant y DU â chynulleidfaoedd ledled y byd. Drwy hybu gallu sefydliadau o Gymru i ymgysylltu'n rhyngwladol, mae'r rhaglen yn helpu i fwrw golau ar greadigrwydd Cymru yn ogystal ag agor y drws i gyfleoedd diwylliannol ac economaidd newydd.
Mae'r rhaglen hefyd yn cydfynd ag uchelgais Cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Sector y Diwydiannau Creadigol a fframwaith Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant Llywodraeth Cymru, sy'n cydnabod gallu allweddol y diwydiannau creadigol i yrru twf economaidd a dylanwad rhyngwladol y DU. Drwy annog cydweithio rhyngwladol a chefnogi sefydliadau celfyddydol i feithrin partneriaethau rhyngwladol, mae mentrau fel Grantiau Teithio'r British Council yn helpu i gryfhau economi greadigol y DU drwy gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i artistiaid a sefydliadau diwylliannol yng ngwledydd y DU.
Wrth sôn am y grantiau, dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
"Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi'r sefydliadau celfyddydol hyn o Gymru wrth iddyn nhw gymryd y cam nesaf i feithrin cysylltiadau rhyngwladol yn Tsieina. Mae gan Gymru sector diwylliant eithriadol o fywiog ac arloesol, a bydd y grantiau teithio hyn yn rhoi cyfle i sefydliadau archwilio partneriaethau newydd, cyfnewid syniadau a datblygu cysylltiadau a allai arwain at gydweithio creadigol yn y dyfodol.
"Mae ymgysylltu rhyngwladol yn allweddol i dwf ein sector diwylliannol. Drwy helpu sefydliadau o Gymru i gysylltu â phartneriaid yn Tsieina, rydyn ni'n helpu i amlygu creadigrwydd Cymru yn fyd-eang wrth agor y drws i gyfleoedd newydd i artistiaid a chynulleidfaoedd."
China Now: Cefnogi sefydliadau creadigol y DU
Pwrpas Grantiau Teithio'r British Council yw cefnogi ymweliadau cwmpasu a helpu sefydliadau o Gymru i gael gwell dealltwriaeth o'r tirlun diwylliannol yn Tsieina a meithrin cysylltiadau â gwyliau, canolfannau a phartneriaid diwylliannol. Gall y sgyrsiau cychwynol hyn helpu i osod seiliau ar gyfer prosiectau a phartneriaethau cydweithio yn y dyfodol.
Mae'r fenter hefyd yn cydfynd â rhaglenni ariannu ehangach y British Council sy'n cefnogi cydweithio diwylliannol rhyngwladol. Drwy helpu sefydliadau i feithrin cysylltiadau ac edrych ar gyfleoedd newydd, mae'r grantiau teithio'n anelu i gryfhau partneriaethau rhwng Cymru a Tsieina yn y dyfodol.
Ynghyd â'r grantiau, mae'r British Council hefyd wedi lansio adnodd ar-lein newydd China Now. Mae'n cael ei ddiweddaru'n chwarterol gan gynnig gwybodaeth ymarferol, astudiaethau achos a chyngor i helpu gweithwyr proffesiynol ym maes y celfyddydau yn y DU i fanteisio ar gyfleoedd newydd yn un o sectorau diwylliannol mwyaf deinamig y byd.
Gall gweithwyr creadigol proffesiynol yn y DU gofrestru yma: https://www.britishcouncil.cn/en/programmes/arts/china-now