Grantiau Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant 2026

Mae rhaglen Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant yn cefnogi ymarferwyr creadigol, gweithwyr proffesiynol ym maes diwylliant, artistiaid, sefydliadau, gwyliau, gwyliau dwyflynyddol, hybiau a mentrau cydweithredol i gyflawni prosiectau ar draws amrywiaeth eang o themâu a ffurfiau celfyddydol. Mae’r rhaglen yn cefnogi partneriaethau ystyrlon, cyfnewid trawsddiwylliannol a mentrau cydweithio hirdymor rhwng y DU a’r gwledydd ledled y byd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.

Eleni, mae Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant wedi ymestyn i gynnwys rhaglen grantiau ‘Cysylltu Gwyliau Dwyflynyddol (Celfyddydau Gweledol)’ a ‘Rhaglen Grantiau ar gyfer Gwyliau a Gwyliau Dwyflynyddol ym meysydd Pensaernïaeth, Dylunio a Ffasiwn’. Gweler ein pecyn cymorth i ymgeiswyr a’n tudalen Cwestiynau Cyffredin am fwy o wybodaeth.

Gwledydd sy’n cymryd rhan:
Albania, Yr Ariannin, Awstralia, Bangladesh, Bosnia a Hertsegofina, Colombia, Tsieina, Yr Aifft, Indonesia, Kazakstan, Kenya, Kosovo, Libanus, Malaysia, Mecsico, Montenegro, Seland Newydd, Nigeria, Gogledd Macedonia, Pacistan, Palestina, Periw, Ynysoedd y Philipinau, Saudi Arabia, Serbia, De Affrica, Tanzania, Gwlad Thai, Tiwnisia, Twrci, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Wcráin, Uzbekistan, Venezuela, Fietnam.

Mae’r canlynol yn gymwys i ymgeisio:

  • Artistiaid ac ymarferwyr creadigol
  • Sefydliadau celfyddydol a diwylliannol
  • Gwyliau a Gwyliau Dwyflynyddol*
  • Gweithwyr proffesiynol ym maes diwylliant
  • Hybiau creadigol, rhwydweithiau a mentrau cydweithredol
  • Sefydliadau sy’n gweithio ar draws y celfyddydau, diwylliant a’r sectorau creadigol.

* Dylai ceisiadau ar gyfer prosiectau a drefnir gan (neu sy’n rhan o) wyliau Pensaernïaeth, Dylunio, Ffasiwn a Chrefftau gael eu cyflwyno gan sefydliad yr ŵyl neu’r ŵyl ddwyflynyddol, yn hytrach na gan artistiaid, dylunwyr neu ymarferwyr unigol.

Gwneud cais am grant 

Mae’r broses ymgeisio ar agor nawr.  Gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen yr holl wybodaeth i ymgeiswyr a lawrlwytho’r pecyn cymorth i ymgeiswyr cyn cyflwyno eich cais.

Dyddiad cau i geisiadau: 12 Awst 2026 am 23:59 (amser y DU)

  • Y broses ymgeisio’n agor: Dydd Mercher 17 Mehefin 2026
  • Dyddiad cau i geisiadau: Dydd Mercher 12 Awst 2026 am 23:59 (amser y DU)
  • Hysbysu ymgeiswyr o ganlyniadau’r broses asesu: O fis Hydref 2026
  • Sesiynau Gwybodaeth ar-lein: Manylion dyddiadau ac amseroedd isod
  • Rhaid cyflawni’r prosiect rhwng mis Rhagfyr 206 a mis Rhagfyr 2027

Wrth wneud cais i’r rhaglen, rhaid sicrhau bod o leiaf un partner wedi’i leoli yn y DU, ac o leiaf un partner wedi’i leoli mewn gwlad gymwys sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.

Rhaid i bob partner ddangos ei fod wedi’i leoli’n gyfreithlon yn y wlad o le maent yn ymgeisio - ar adeg cyflwyno’r cais, a thrwy gydol cyfnod gweithgarwch y prosiect.

  • Cyd-greu a datblygu artistig ar y cyd*
  • Preswyliadau a rhaglenni cyfnewid 
  • Gweithdai, paneli, sgyrsiau a gweithgareddau rhannu gwybodaeth 
  • Ymchwil a datblygu 
  • Arddangosfeydd, perfformiadau, cyflwyniadau a sioeau arddangos cydweithredol 
  • Gweithgarwch o gwmpas Gwyliau neu Wyliau Dwyflynyddol 
  • Arloesi digidol 
  • Gweithgareddau arddangos (gan gynnwys cymryd rhan mewn gwyliau neu wyliau dwyflynyddol, lle mae’r elfen arddangos yn ffrwyth prosiect cydweithio rhwng partneriaid yn y DU a gwledydd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen)
  • Rhaglenni cyhoeddus a mentrau ymgysylltu â chynulleidfa 
  • Mentrau datblygu i artistiaid, dylunwyr, ymarferwyr a chyfranogwyr 
  • Mentrau meithrin gallu a rhannu dysgu 
  • Gweithgareddau rhyng-ddisgyblaeth neu drawsgelfyddydol 

Gall prosiectau gwmpasu amrywiaeth eang o themâu a ffurfiau celfyddydol, gan gynnwys Celfyddydau Gweledol, Pensaernïaeth, Dylunio, Ffasiwn a Chrefftau, Cerddoriaeth, Llenyddiaeth, Theatr a Dawns, Ffilm, a Thechnoleg Greadigol – gan gynnwys celfyddydau digidol, celfyddydau trochol / Realiti Ymestynnol (XR) a gemau.

Swm y grant sydd ar gael

Ar gyfer prosiectau rhwng y DU a:

Hyd at £15,000

Yr Ariannin, Bangladesh, Colombia, Pacistan, Periw, Saudi Arabia.

Hyd at £10,000

Albania, Bosnia a Hertsegofina, Tsieina, Indonesia, Kazakstan, Kosovo, Libanus, Malaysia, Montenegro, Nigeria, Gogledd Macedonia, Palestina, Ynysoedd y Philipinau, Serbia, Gwlad Thai, Tiwnisia, Twrci, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Wcráin, Uzbekistan, Venezuela, Fietnam.

Hyd at £9,000

Yr Aifft

Hyd at £8,000

Mecsico

Hyd at

£7,500

Kenya

 

Hyd at £6,500

De Affrica

Hyd at £5,000

Awstralia, Seland Newydd, Tanzania

Yn y sesiynau hyn, gallwch gysylltu â’n tîm rhyngwladol o reolwyr celfyddydau a dysgu mwy am sut i gyflwyno cais llwyddiannus. 

Amseroedd yn y DU yw’r amseroedd isod (BST). 

Sesiynau Gwybodaeth i ymgeiswyr o wledydd cymwys ledled y byd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.
Dydd Mawrth 30 Mehefin, 08:00–9:30 (BST) – Dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar gael
Dydd Mawrth 30 Mehefin, 15:00–16:30 (BST)

Sesiwn Wybodaeth i ymgeiswyr o wledydd cymwys am brosiectau’n ymwneud â gwyliau a gwyliau dwyflynyddol ym meysydd y Celfyddydau Gweledol, Pensaernïaeth, Dylunio, Ffasiwn a Chrefftau.                                                         Dydd Mercher 1 Gorffennaf, 10:00–11:30 (BST)

Sesiwn Wybodaeth i ymgeiswyr o wledydd cymwys sydd am gynnal prosiectau Technoleg Greadigol - gan gynnwys celfyddydau trochol, celfyddydau trochol / Realiti Ymestynnol, a gemau. Ac ymgeiswyr o wledydd cymwys am brosiectau’n ymwneud â gwyliau a gwyliau dwyflynyddol ym meysydd y Celfyddydau Gweledol, Pensaernïaeth, Dylunio, Ffasiwn a Chrefftau. Dydd Mercher 1 Gorffennaf, 15:00–16:30 (BST)

 

Dolen i gofrestru ar gyfer y sesiynau uchod:

Cofrestru ar gyfer Sesiwn Wybodaeth

Ymholiadau – cysylltwch â ni drwy’r ffurflen hon:

Cysylltu â ni

Rhannu’r dudalen hon