Mae’r British Council wedi cyhoeddi mai Mitch Theaker yw Cyfarwyddwr newydd British Council Cymru.
Yn frodor o Dde Cymru ac yn siaradwr Cymraeg, mae gyrfa Mitch hyd yma wedi ymestyn o lywodraeth leol i wleidyddiaeth genedlaethol a diplomyddiaeth ryngwladol. Yn fwyaf diweddar, bu’n Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, lle bu’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a chydlyniad cymdeithasol.
Cyn hynny, roedd yn Gynghorydd Arbennig i gyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gan weithio ar nifer o feysydd polisi, fel Cysylltiadau Rhyngwladol, y Celfyddydau, Diwylliant a Thwristiaeth, a Chyfiawnder Cymdeithasol - gan gynnwys llywio drwy heriau pandemig COVID-19.
Yn dilyn ei rôl gyda’r Prif Weinidog, gweithiodd Mitch fel cynrychiolydd diplomyddol cyntaf Llywodraeth Cymru yn India, gan gynrychioli Cymru ar y llwyfan byd-eang a sefydlu cysylltiadau artistig, diwylliannol, ac economaidd dwfn sy’n para hyd heddiw.
Mae Mitch yn cydio yn awenau’r rôl allweddol hon wrth i British Council Cymru barhau i feithrin a hybu rhaglenni rhyngwladol ym meysydd addysg a’r celfyddydau, gan greu cyfleoedd i ysgolion, prifysgolion, a sefydliadau diwylliannol Cymru ymgysylltu’n fyd-eang.
Mae’r gwaith yma’n adeiladu ar genhadaeth ehangach y British Council i hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth, ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd.
Wrth sôn am benodiad Mitch, dywedodd David Thompson, Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol y British Council:
“Rydyn ni’n teimlo’n eithriadol o gyffrous wrth groesawu Mitch fel Cyfarwyddwr Gwlad newydd y British Council yng Nghymru. Ar adeg dyngedfenol i broffil rhyngwladol Cymru wrth i Lywodraeth Cymru ddiweddaru ei strategaeth ryngwladol, bydd profiad Mitch yn amhrisiadwy yn y rôl newydd hon.
“Wrth i’r British Council ddod yn Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer rhaglen Erasmus+, a gyda chymaint o gyfleoedd newydd a chyffrous i ryngwladoli Cymru ar y gweill, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Mitch a’n partneriaid yn y sector ac yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y blynyddoedd nesaf yn stori o lwyddiant rhyngwladol i Gymru.”
Wrth drafod ei rôl newydd, dywedodd Mitch:
"Mae ymuno â’r British Council yn fraint o’r mwyaf. Dros y blynyddoedd, rwy wedi gweld â fy llygaid fy hun yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni dros Gymru a’r DU dramor. Ac rwy wedi meddwl ers tro pa mor wych fyddai cael bod yn rhan o’r genhadaeth honno. Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith nodedig mae’r tîm yng Nghymru wedi’i gyflawni’n barod, a sicrhau bod ein hymdrechion i hybu cysylltiadau rhyngwladol yn mynd o nerth i nerth.”
Mae penodiad Mitch yn dilyn proses recriwtio drylwyr a welodd geisiadau o bob rhan o’r diwydiant. Mae’n olynnu’r Cyfarwyddwr Gwlad presennol, Ruth Cocks, sy’n symud i swydd newydd yn y sefydliad.