Dydd Mawrth 02 Mehefin 2026

 

Bydd gŵyl LHDTC+ flynyddol fwyaf Cymru, Pride Cymru, yn rhan o ddirprwyaeth o’r DU a fydd yn ymuno â Gorymdaith Pride São Paulo fel rhan o weithgareddau rhaglen y Brtish Council, Tymor Diwylliant y DU a Brasil 2025-26.

Bydd yr orymdaith yn cael ei chynnal yn São Paulo ddydd Sul 7 Mehefin. Dyma ddigwyddiad Pride mwyaf y byd gyda thua 4 miliwn o bobl yn ei fynychu, ac eleni mae’r orymdaith yn dathlu ei phenblwydd yn 30 oed.

Mae Pride Cymru’n ddigwyddiad elusenol llawr gwlad sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Mae’n dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn cael ei gynnal bob blwyddyn yng Nghaerdydd. Dyma brif ddigwyddiad Pride yng Nghymru, ac mae’n cynnwys gorymdaith fawr gyhoeddus drwy ganol y ddinas yn ogystal â cherddoriaeth fyw, perfformiadau cabaret a gweithgareddau cymunedol.

Bydd Cadeirydd Pride Cymru, Dan Walsh, sy’n arwain strategaeth a gweithgarwch yr elusen yn cynrychioli’r fenter ym Mrasil; ynghyd â’r artist drag a DJ, Dr Bev, sy’n un o ymddiriedolwyr yr elusen ac yn ymgyrchydd sy’n gweithio i daclo’r stigma o gwmpas HIV a digartrefedd bobl ifanc cwiar.

Mae Tymor Diwylliant y DU a Brasil 2025-26 yn rhaglen o weithgareddau ar y cyd rhwng y British Council, sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol, ac Instituto Guimarães Rosa (IGR), sy’n rhan o Weinyddiaeth Materion Tramor Brasil.

Mae’r tymor yn dathlu 200 mlynedd o gysylltiadau diplomyddol rhwng y ddwy wlad drwy gynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau am ddim gyda’r nod o ddyfnhau cysylltiadau diwyllianol, hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, a meithrin cysylltiadau hirdymor rhwng y ddwy wlad.

Bydd aelodau dirprwyaeth y DU hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Pride Llundain (Lloegr), Pride Oban (Yr Alban) a Gŵyl Pride Belfast (Gogledd Iwerddon). Yn ystod yr ymweliad bydd cynrychiolwyr y DU hefyd yn cymryd rhan mewn sgyrsiau bord gron, prosiectau cymdeithasol, mentrau cyfnewid diwylliannol a gweithgareddau rhwydweithio, gan gynnwys ymgysylltu’n uniongyrchol â thua 90 o wahanol sefydliadau Pride o ledled Brasil.

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd fod Pride Cymru’n cynrychioli Cymru yng Ngorymdaith Pride São Paulo eleni fel rhan o’n rhaglen Tymor Diwylliant y DU a Brasil. Gobeithio y bydd y cysylltiadau a gaiff eu ffurfio ym Mrasil yn ysbrydoli partneriaethau newydd a dyfnhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad.”

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth a chyfleoedd i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â: Hayley Willis, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council hayley.willis@britishcouncil.org

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2023-24, ymgysylltodd y British Council â 600 miliwn o bobl.

Gwybodaeth am Dymor Diwylliant y DU a Brasil 2025-26

Bydd dathliadau Tymor Diwylliant y DU a Brasil yn cael eu cynnal rhwng mis Awst 2025 a mis Mehefin 2026. Mae hon yn fenter ar y cyd rhwng y British Council, sefydliad rhyngwladol y DU ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol, ac Instituto Guimarães Rosa (IGR), rhan o Weinyddiaeth Materion Tramor Brasil sy’n gyfrifol am ddiplomyddiaeth ddiwylliannol Brasil.

Mae’r Tymor yn rhan o raglen o weithgareddau’n dathlu 200 mlynedd o gysylltiadau diplomyddol rhwng y ddwy wlad. Mae’n cynnwys rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau am ddim mewn nifer fawr o ddinasoedd ym Mrasil ac yn y DU. Nod y rhaglen yw cryfhau cysylltiadau drwy gyfres o ddigwyddiadau ar draws amrywiaeth eang o ffurfiau a mynegiant artistig ac ystyried sut y gellir defnyddio deialog ddiwylliannol fel arf pwerus i sbarduno newid a chysylltiadau rhwng pobl.

Mae prif themâu’r rhaglen yn cynnwys argyfwng yr hinsawdd, technoleg, llawenydd, amrywiaeth a chynrychiolaeth; pynciau sy’n adlewyrchu heriau a chyfleoedd byd-eang. Mae’r fenter hon yn gwahodd cynulleidfaoedd i fanteisio ar brofiadau creadigol a chydweithredol, gan feithrin cysylltiadau parhaus rhwng artistiaid, arweinwyr diwylliannol a sefydliadau yn y ddwy wlad.

Rhannu’r dudalen hon