Dydd Mercher 15 Ebrill 2026

Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mai'r British Council fydd yn cymryd y rôl fel asiantaeth genedlaethol y DU ar gyfer Erasmus+.

Ym mis Rhagfyr, daeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd i gytundeb y byddai'r DU yn ymuno â chynllun Erasmus+ yn 2027. Bellach, mae'r cytundeb hwnnw wedi cael ei ffurfioli'n gyfreithiol dan amodau'r Cytundeb Masnach a Chydweithio rhwng yr UE a'r DU.

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

"Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi cael ein dewis i fod yn Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Erasmus+. Mae'n foment eithriadol o gyffrous sy'n dod â chyfoeth o gyfleoedd i Gymru. Mae'r British Council yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r Adran Addysg, Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y rhaglen ledled ein gwlad.

"Mae gan Erasmus+ hanes nodedig o lwyddiant. Mae wedi gweddnewid bywydau ac agor drysau i brofiadau dysgu newydd. Mae wedi dyfnhau dealltwriaeth ddiwylliannol a meithrin ymdeimlad cryf o ddinasyddiaeth fyd-eang drwy gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr a staff mewn sefydliadau addysg uwch ac ysgolion ac ym meysydd addysg dechnegol a galwedigaethol, addysg anffurfiol a chwaraeon."

"Yng Nghymru, mae rhaglen Erasmus+ yn hwb sy'n ymestyn yn bell - yn grymuso pobl o bob cefndir i feithrin sgiliau, hyder a chysylltiadau rhyngwladol a fydd yn allweddol i ddyfodol Cymru."

Mae gan y British Council ymrwymiad tymor hir i gefnogi cyfnewid rhyngwladol. Roedd yn bartner arweiniol yn Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ y DU rhwng 2014 a 2020 - cyfnod a welodd gyfraniad arwyddocaol gan Erasmus+ i gysylltiadau diwylliannol y DU.

Rhwng 2014 a 2020 daeth cyfanswm o tua €67.5 miliwn o gyllid rhaglen Erasmus+ i Gymru. Fe wnaeth gefnogi gweithgareddau ar draws nifer o sectorau gan gynnwys addysg uwch (€26.0 miliwn), ysgolion (€22.9 miliwn), addysg alwedigaethol a hyfforddiant (€14.0 miliwn), ieuenctid (€3.35 miliwn) ac addysg oedolion (€1.25 miliwn).

Nodiadau i olygyddion

Gall sefydliadau a chyrff yng Nghymru gael mwy o wybodaeth am Erasmus+ a chofrestru i gael y newyddion diweddaraf am gyfleoedd y cynllun yma: www.britishcouncil.org/erasmusplus

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau, ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2023-24, ymgysylltodd y British Council â 600 miliwn o bobl.

Cyswllt Swyddfa'r Wasg

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Hayley Willis, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd: hayley.willis@britishcouncil.org

Rhannu’r dudalen hon