Wrth i Gymru baratoi i chwarae am y tro cyntaf erioed yn rowndiau terfynol pencampwriaeth EWRO Menywod UEFA, mae adnodd newydd i ysgolion yn anelu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr ledled Ewrop - nid dim ond i ddysgu, ond i freuddwydio breuddwydion mawr.
Heddiw (Dydd Mercher 18 Mehefin), mae British Council Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru yn lansio Adnodd Addysg Ewro2025 - adnodd dwyieithog newydd am ddim.
Cafodd yr adnodd ei lunio ar gyfer dysgwyr rhwng 9 a 13 oed i gysylltu'r cae pêl-droed a'r ystafell ddosbarth. Mae'n defnyddio cyffro siwrne Tîm Pêl-droed Menywod Cymru i'r Swistir fel sbardun i archwilio themâu fel hunaniaeth, cydraddoldeb rhywedd, gwaith tîm, dysgu ieithoedd a diwylliant Ewropeaidd.
Bydd yn cael ei ddosbarthu i ysgolion yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Mae chwaraeon yn ganolog i weithgareddau dysgu'r adnodd sy'n annog dysgwyr i weld eu hunain fel rhan o stori Ewropeaidd ehangach - yn llawn gwerthoedd cyffredin, diwylliannau amrywiol a phosibiliadau di-ben-draw.
Cafodd yr adnodd ei ddatblygu ar y cyd ag addysgwyr gyda mewnbwn gan CBDC. Mae'n cynnwys gwersi rhyngweithiol sy'n bwrw golau ar hanes coll pêl-droed menywod yng Nghymru - a waharddwyd rhwng 1922 a 1970 - a dathlu'r camau bras a gymerwyd ers hynny. Bydd cyfle i'r dysgwyr ddysgu geirfa o fyd pêl-droed a darganfod mwy am yr ieithoedd a siaredir yn y bencampwriaeth, yn ogystal ag ystyried cynrychiolaeth rhywedd a gwaddol y bencampwriaeth.
Mae'r Athro Laura McAllister cyn gapten Cymru ac Is-Lywydd presennol UEFA wedi ysgrifennu rhagair i'r adnodd. Yn y digwyddiad lansio, dywedodd:
"Mae presenoldeb Cymru yn y Swistir yr haf yma'n foment unigryw a hanesyddol - nid dim ond i bêl-droed menywod, ond i Gymru fel gwlad. Ni allem ofyn am well modelau rôl na'r menywod gwych yma mewn coch a fydd yn ein cynrychioli ar y llwyfan Ewropeaidd. Mae hyn yn fwy na chwaraeon - mae'n foment i ddathlu hunaniaeth, uchelgais a chydraddoldeb. Rwy'n gobeithio y bydd yr adnodd yma'n ysbrydoli pobl ifanc - merched yn enwedig - i fod yn falch o bwy ydyn nhw, i freuddwydio breuddwydion mawr a gweld sut y gall iaith, chwaraeon a diwylliant agor y byd i ni."
Ychwanegodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'r adnodd yma'n dod ag iaith, diwylliant a chwaraeon at ei gilydd mewn ffordd sy'n taro deuddeg gyda phobl ifanc. Y nod yw annog chwilfrydedd, meithrin hyder ac ysbrydoli balchder - p'un a yw'r dysgwyr yn darganfod iaith newydd, yn cael blas ar bêl-droed am y tro cyntaf neu'n meddwl am eu lle yn y byd a'r hyn y gallant ei gyflawni yn y dyfodol.
"Wrth i Gymru baratoi i herio'r Iseldiroedd, Ffrainc a Lloegr ym mis Gorffennaf, mae ein hadnodd yn gwahodd dysgwyr i fod yn rhan o'r siwrne - boed yn yr ystafell ddosbarth neu yn eu cartrefi. Mae'n adlewyrchu'r gwerthoedd sy'n rhan greiddiol o hunaniaeth Cymru: cynhwysiant, tegwch a chroeso cynnes i bawb. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn tanio cyffro ac ymdeimlad o berthyn wrth i'r wlad ddathlu'r foment hanesyddol hon."
Wrth sôn am yr adnodd, dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: "Mae'r adnodd addysg hwn, a arianwyd gan Gronfa Gymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru yn gyfle i greu newid parhaol ar draws Cymru a dathlu moment hanesyddol i chwaraeon Cymru. Drwy gysylltu camp hanesyddol Tîm Pêl-droed Menywod Cymru yn cyrraedd rowndiau terfynol Ewro UEFA a gwaith dysgwyr yn y dosbarth, rydyn ni'n annog pobl ifanc i archwilio iaith, diwylliant cydraddoldeb rhywedd yn ogystal ag ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr.
“Wrth i Gymru gamu i'r cae yn y Swistir, rydyn ni am sicrhau y bydd effaith y llwyddiant yma'n ymestyn y tu hwnt i'r bencampwriaeth. Rwy'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli dysgwyr ledled Cymru a thu hwnt i freuddwydio breuddwydion mawr fel rhan o'r stori barhaus hon o gynnydd."
I roi cefnogaeth i athrawon a fydd yn defnyddio'r adnodd ac annog ysgolion i rannu cynnwrf y bencampwriaeth, bydd British Council Cymru'n cynnal cyfres o weminarau - gan gynnwys sesiwn yn benodol i athrawon ar ddydd Iau 26 Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae CBDC yn falch iawn o gydweithio â'r British Council i greu'r adnodd pwerus hwn i ysgolion ar gyfer Ewro2025. Mae'r prosiect yma'n enghraifft wych o'r ffordd y gall cyfuno pêl-droed ag addysg ysbrydoli dysgu, cysylltu diwylliannau a grymuso pobl ifanc.
"Ynghyd â'r adnodd yma, mae CBDC yn dosbarthu Pecynnau Cefnogi a Hybu Ymgysylltiad Ysgolion i bob ysgol yng Nghymru. Cawsant eu cynllunio i helpu dysgwyr deimlo'n rhan wirioneddol o siwrne Menywod Cymru i Ewro2025 UEFA - i greu cyffro mewn ystafelloedd dosbarth ac ar gaeau chwarae ac annog y genhedlaeth nesaf o gefnogwyr a chwaraewyr."
“Yn ogystal, bydd 200 o ysgolion yn cael cyfle i wneud cais am Becynnau Cyfarpar i Ysgolion - i gefnogi datblygiad hirdymor pêl-droed merched. Gyda'r British Council, rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd effaith y foment hanesyddol hon yn atseinio ymhell y tu hwnt i'r bencampwriaeth, gan adael gwaddol ystyrlon ac ysbrydoli mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y gêm."
Mae'r adnodd yma ar gael nawr i ysgolion yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Cofrestrwch ar gyfer y weminar i gyflwyno'r adnodd i athrawon, a'r un i ddilyn ar gyfer dysgwyr. Gallwch lawrlwytho'r adnodd yma:
Pecyn Adnoddau Addysg Ewro2025 British Council
Mae'r adnodd addysg yma ar gyfer Ewro2025 yn adeiladu ar genhadaeth hir sefydlog y British Council i feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng y DU a'r byd ehangach drwy'r celfyddydau, addysg a'r iaith Saesneg. Mae hefyd yn gyfle i ysbrydoli dysgwyr ac ysgolion i gydweithio'n rhyngwladol ac ystyried posibiliadau pellach i ffurfio partneriaethau byd eang a chysylltiadau traws-ddiwylliannol.
Mae mwy o wybodaeth am waith British Council Cymru ar gael yma British Council Cymru neu drwy ein dilyn ar X, Facebook ac Instagram