I ddathlu llwyddiant Tîm Pêl-droed Menywod Cymru a nodi'r tro cyntaf erioed iddynt gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth yr Ewro, rydym ar fin lansio adnodd i athrawon a ddatblygwyd i ysbrydoli dysgwyr i freuddwydio breuddwydion mawr.
Cafodd yr adnodd ei ddatblygu gan British Council Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW), gyda nawdd ariannol Llywodraeth Cymru. Mae'n cefnogi meysydd dysgu allweddol y cwricwlwm wrth hyrwyddo ieithoedd, cydraddoldeb rhywedd a chydweithio rhyngwladol.
Deunyddiau ychwanegol i'w lawrlwytho:
Y sleidiau PowerPoint - Gwers 2
Y sleidiau PowerPoint - Gwers 6
-----
Gweminar i ddisgyblion ysgol: Menywod Mewn Pêl-droed
Gwener 3 Hydref 2025 | 10.00 - 11.00 (Amser y DU)
Fe greodd Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf - ac er bod yr Ewros wedi gorffen, dim ond dechrau mae ei effaith. O dorfeydd mawr a dorrodd recordiau i berfformiadau ysgubol ac ysbrydoledig, mae pêl-droed menywod yn siapio dyfodol y gêm.
Ymunwch â'n gweminar sy'n digwydd cyn bo hir gyda Gwennan Harries a gwesteion arbennig. Cyfle i nodi'r foment nodedig hon, dathlu menywod blaengar ac arloesol y gorffennol ac edrych ar sut gallwn ni ddal i greu mwy o gyfleoedd i fenywod a merched mewn pêl-droed - o lawr gwlad i'r llwyfan byd-eang.
-----
Gwybodaeth am ein Pecyn Adnoddau i Athrawon ar gyfer Ewro2025 (i'w ryddhau ganol fis Mehefin)
Cafodd y pecyn adnoddau yma ei ysbrydoli gan lwyddiant Tîm Pêl-droed Menywod Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewro2025. Cafodd ei lunio ar gyfer dysgwyr rhwng 9 a 13 oed. Mae'r cynlluniau gwersi, gweithgareddau a'r adnoddau'n cefnogi meysydd cwricwlaidd cyffredin yn y DU a'r gwledydd Ewropeaidd sydd wedi cyrraedd EWRO2025 - gan gynnwys Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Iechyd a Llesiant a'r Dyniaethau.
Bydd dysgwyr yn:
- darganfod pa ieithoedd Ewropeaidd fydd yn cael eu siarad yn ystod y bencampwriaeth, a dysgu geirfa allweddol byd pêl-droed
- dysgu am weithio fel tîm a meithrin sgiliau cyfathrebu
- dathlu amrywiaeth ddiwylliannol a chynhwysiant
- ystyried llwyddiannau menywod ym myd chwaraeon.
Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys adnoddau i annog trafodaeth ar themâu grymuso a chydraddoldeb, gan ddefnyddio llwyddiant Tîm Pêl-droed menywod Cymru a phêl-droed menywod ledled Ewrop i ysbrydoli uchelgais a balchder a hybu cynrychiolaeth ymysg y dysgwyr i gyd.
Oeddech chi'n gwybod...? Wrth gwblhau un yn unig o weithgareddau dosbarth y pecyn hwn bydd eich ysgol yn gymwys ar gyfer Lefel Sylfaenol ein Gwobr Ysgol Ryngwladol.
Rydyn ni wrth ein bodd i weld lluniau a fideos o'ch disgyblion yn defnyddio'r adnoddau yn eich ysgol. Rhannwch a thagiwch ni ar Facebook, X neu Instagram British Council Cymru.
Defnyddiwch ein bas data Ffeindio Ysgol Bartner i ffeindio ysgolion addas o gwmpas y byd ar gyfer partneriaethau ysgol rhyngwladol. Bydd ein hadnoddau, syniadau a chanllawiau'n eich helpu i gychwyn arni.