• Cymru'n gweld cynnydd o 3.7% yn y nifer sy'n dysgu iaith ryngwladol ar gyfer arholiad Safon Uwch eleni
• Cynnydd o 9.5% yn nifer yr ymgeiswyr Safon Uwch Ffrangeg, o'i gymharu â 2025
• Cynnydd o 26.2% ar gyfer Safon Uwch Almaeneg
• Gostyngiad o 9.9% yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer Sbaeneg, o'i gymharu â'r llynedd
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
"Ar ran British Council Cymru, hoffwn longyfarch yr holl ddysgwyr sy'n derbyn eu canlyniadau arholiad yr wythnos hon, ac yn enwedig y rheini sydd wedi dewis astudio iaith.
"Mae'n galonogol iawn i weld cynnydd cyffredinol yn y nifer sy'n astudio iaith ar lefel Safon Uwch eleni, gyda thwf arbennig o gryf mewn Ffrangeg ac Almaeneg. Er ein bod ni'n siomedig o weld y gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr mewn Sbaeneg, mae'r darlun cyffredinol yn dangos brwdfrydedd gwirioneddol a sail gadarn i adeiladu arni.
"Dangosodd ein hadroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru diweddaraf fod 80% o'r ysgolion cynradd a ymatebodd bellach yn cynnig cyfle i'w dysgwyr ddysgu iaith. Mae'r brwdfrydedd cynnar yna'n beth cadarnhaol iawn. Ond rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni'n ei feithrin drwy gydol gyrfa addysg pobl ifanc, a'u hannog i barhau i astudio ieithoedd ar ôl troi'n 16 oed.
"Mae dysgu iaith yn gymaint mwy na gradd arholiad - mae'n rhoi'r hyder i bobl ifanc gysylltu â phobl a diwylliannau ledled y byd.
"Os ydych chi'n astudio, gweithio, neu deithio'n rhyngwladol, gall sgiliau iaith agor drysau, ehangu gorwelion, a rhoi'r hyder i chi fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd gartref ac o gwmpas y byd.
"Mae dychweliad rhaglen Erasmus+ yn cynnig cyfle cyffrous i ddysgwyr yng Nghymru gael profiad o wledydd a diwylliannau eraill, a phrofi gwerth dysgu ieithoedd yn y byd go iawn.
"Mae Cymru'n wlad falch, sy'n edrych allan i'r byd gan feithrin cysylltiadau rhyngwladol cryf. Drwy roi'r hyder a'r sgiliau i'n pobl ifanc gyfathrebu ar draws ffiniau, rydyn ni nid yn unig yn agor cyfleoedd iddyn nhw, ond hefyd yn eu helpu i feithrin y cysylltiadau rhyngwladol a fydd o fantais i Gymru am flynyddoedd i ddod."