Tueddiadau Ieithoedd Cymru 2024
Ers 2015, mae Tueddiadau Ieithoedd Cymru wedi cynnig mewnwelediad hollbwysig i sefyllfa addysgu Ieithoedd Rhyngwladol yn ysgolion a cholegau Cymru. Mae ymchwil 2024 yn amlygu'r dirywiad sylweddol a welwyd ym maes addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf - sydd hefyd yn adlewyrchu'r duedd gyfffredin ar draws gweddill y Deyrnas Unedig.
Mae'r nifer sy'n dewis Ieithoedd Rhyngwladol ar gyfer TGAU yn parhau'n argyfyngus o isel. Nododd bron i 70 y cant o'r ysgolion a ymatebodd i'n harolwg bod dim, neu lai na 10 y cant o'u disgyblion Blwyddyn 10 yn astudio ar gyfer TGAU neu gymhwyster Lefel 2 arall mewn Iaith Ryngwladol. Mae'r adroddiad yn nodi dau bwynt allweddol yng ngyrfa addysg uwchradd disgyblion (pan maent yn 14 oed a 16 oed) lle gwelir gostyngiad sylweddol yn y nifer sy'n astudio ieithoedd.
Daw canfyddiadau eleni ar adeg hollbwysig yng Nghymru gyda chyflwyno'r Cwricwlwm Newydd â'i bwyslais ar ddulliau lluosieithog o ddysgu ieithoedd. Mae'r adroddiad yn amlygu heriau a chyfleoedd: er bod addysgu a dysgu Ieithoedd Rhyngwladol yn wynebu heriau sylweddol mewn ysgolion uwchradd a cholegau, mae manteision naturiol addysg ddwyieithog yng Nghymru a brwdfrydedd disgyblion cynradd am ieithoedd yn sylfeini cadarn ar gyfer newid.