Dydd Iau 20 Awst 2026

 

• Nifer y dysgwyr sy’n astudio ar gyfer TGAU mewn Ffrangeg wedi gostwng o 2.2%

• Nifer y ceisiadau ar gyfer Sbaeneg wedi gostwng o 5.3%

• Gostyngiad pellach o 11.8% mewn ieithoedd modern eraill 

• Nifer y ceisiadau ar gyfer Almaeneg wedi cynyddu o 14.6%

• Nifer cyffredinol y ceisiadau i astudio ieithoedd ar gyfer TGAU yng Nghymru wedi gostwng o 1.7% o’i gymharu â 2025 

Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:

“Ar ran British Council Cymru, hoffwn anfon llongyfarchiadau mawr i’r holl ddysgwyr sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon, yn enwedig y rheini sydd wedi astudio iaith.

“Mae’n wych i weld y cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n dewis astudio Almaeneg, ac rydyn ni’n dathlu camp yr holl ddysgwyr sydd wedi manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu sgiliau iaith.

“Er bod nifer cyffredinol y ceisiadau ar gyfer TGAU mewn ieithoedd wedi disgyn ychydig eleni, mae’n rhaid i ni ddal i ganolbwyntio ar feithrin llif cryf o ddysgwyr ieithoedd drwy ein system addysg uwchradd a thu hwnt. Mae’n rhaid sicrhau ein bod yn cynnal brwdfrydedd y blynyddoedd cynnar am ieithoedd drwy gydol gyrfa dysgwyr i Safon Uwch ac i’r brifysgol.

“Mae Ieithoedd Rhyngwladol bellach yn rhan statudol o’r Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion cynradd, ac mae ein hadroddiad Tueddiadau Ieithoedd Cymru diweddaraf yn dangos fod 80% o’r ysgolion a gymerodd ran yn cynnig cyfleoedd i’w disgyblion ddysgu ieithoedd yn barod. Mae hynny’n gosod sail gadarn i adeiladu arni. Ein gobaith yw gweld y brwdfrydedd cynnar yna’n parhau drwy gydol gyrfa addysg ein dysgwyr.

“Mae ysgolion hefyd yn dangos sut y gall cyfuniad o ddulliau gwahanol wneud gwahaniaeth gwirioneddol. O fentora a phartneriaethau creadigol i weithgareddau allgwricwlaidd a chyfleoedd i ddefnyddio ieithoedd y tu allan i’r ystafell ddosbarth, mae llu o enghreifftiau ysbrydoledig ledled Cymru o ysgolion sy’n ffeindio ffyrdd newydd o danio brwdfrydedd dros ddysgu ieithoedd a’u gwneud yn berthnasol ac yn gyfrwng i ehangu gorwelion yn fyd-eang.

“Bydd dychweliad Rhaglen Erasmus+ yn ychwanegu dimensiwn cyffrous arall, gan roi mwy o gyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru gael profiad uniongyrchol o wledydd a diwylliannau gwahanol a gweld gwerth yr ieithoedd y maen nhw’n eu dysgu yn y byd go iawn.

“Mae dysgu iaith yn gymaint mwy na geirfa neu raddau arholiad. Mae’n meithrin hyder, datblygu dealltwriaeth ddiwyllianol, a rhoi cyfle i bobl ifanc gysylltu â phobl ar draws y byd. Drwy weithio gyda’n gilydd i hybu’r daith yna - o’r ysgol gynradd drwy addysg bellach ac addysg uwch - gallwn roi’r sgiliau a hyder i fwy o bobl ifanc lwyddo mewn byd sy’n fwyfwy cysylltiedig wrth gryfhau cysylltiadau rhyngwladol Cymru ar gyfer y dyfodol.”

Nodiadau i olygyddion

Am fwy o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Hayley Willis, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council: hayley.willis@britishcouncil.org

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffynniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hynny drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg, a'r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 150 o wledydd ac yn cyrraedd dros 700 miliwn o bobl.

www.britishcouncil.org

Tueddiadau Ieithoedd Cymru 

Wrth lunio ein hadroddiadau Tueddiadau Ieithoedd, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddarparu trosolwg gwrthrychol o addysgu a dysgu ieithoedd modern ar draws y wlad. Gan adeiladau ar seiliau ymchwil helaeth y British Council yn y maes hwn mewn rhannau eraill o'r DU hefyd, mae'r adroddiadau'n sbardun i drafodaeth ymysg addysgwyr, llunwyr polisi, dysgwyr a'r cyhoedd am ddyfodol addysg ieithoedd yng Nghymru.

Rhannu’r dudalen hon