Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer un o gyfleoedd dysgu mwyaf unigryw'r byd ar agor nawr - yn cynnig cyfle i deithio dros 7,000 o filltiroedd i ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia yn yr Ariannin.
Mae'r British Council wedi lansio galwad agored am ddau o athrawon neu diwtoriaid Cymraeg i gymryd rhan yng Nghynllun yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia, i helpu'r gwaith o hybu a datblygu'r iaith Gymraeg ar draws y rhanbarth.
Rydyn ni'n chwilio am ddau addysgwr hyderus, hyblyg, a llawn menter sydd â phrofiad o addysgu Cymraeg i dreulio'r cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Rhagfyr 2027 yn byw a gweithio ym Mhatagonia. Byddant yn dysgu Cymraeg fel ail iaith i blant o bob oed, ac i oedolion hefyd.
Cafodd Cynllun yr Iaith Gymraeg ei sefydlu yn 1997. Bob blwyddyn ers hynny rydyn ni wedi anfon athrawon o Gymru draw i'r Wladfa; i fyw a gweithio am ddeg mis mewn cymunedau lle siaredir Cymraeg ym Mhatagonia - yn nhrefi Trelew, Trevelin, a'r Gaiman.
Mae amcangyfrifon yn dangos fod tua 5,000 o siaradwyr Cymraeg ymysg y 50,000 o drigolion o dras Gymreig sy'n byw ym Mhatagonia. Cafodd y gymuned ddiwylliannol unigryw hon ei chreu gan wladychwyr o Gymru a hwyliodd i Batagonia, gan sefydlu gwladfa barhaol yn Nyffryn Chubut yn 1865. Bryd hynny, y Gymraeg oedd mamiaith llawer iawn o'r trigolion hŷn.
Mae'r alwad agored yma'n gyfle perffaith i athrawon sy'n gallu gweithio'n annibynnol, sy'n awyddus i gamu i fyd tra gwahanol, ac sydd am fanteisio ar gyfle hynod i fyw a gweithio yn y gymuned Gymraeg ei hiaith fwyaf a mwyaf bywiog y tu allan i Gymru.
Wrth sôn am ei phrofiadau ym Mhatagonia, dywedodd Clare Vaughan, Cydlynydd Dysgu Cynllun yr Iaith Gymraeg:
"Yn ystod fy nghyfnod gyda Chynllun yr Iaith Gymraeg, rwy wedi cwrdd â disgynyddion yr ymsefydlwyr cyntaf - Archentwyr balch, sy'n angerddol am Gymru - yn ogystal â newydd-ddyfodiaid i'r dalaith, sy'n chwilfrydig am yr iaith Gymraeg hynafol o'u cwmpas. Mae oedran y dysgwyr wedi amrywio o 3 i 83 oed, ac rydyn ni wedi dysgu, coginio, canu a chymryd rhan mewn Eisteddfodau gyda'n gilydd. Weithiau, dim ond sain Sbaenaidd llafariaid y dysgwyr oedd yn fy atgoffa mod i yn Ne America! Roedd y cyfan yn fwy anhygoel nag y gallwn i fod wedi'i ddychmygu, ac fe wnes i syrthio mewn cariad â'r tirluniau mawr eang, y trefi bach, a'r croeso cynnes a wnaeth i fi deimlo'n rhan o'r gymuned.
Fe wnaeth y profiad o ddysgu Cymraeg mewn amgylchedd hollol newydd a ffres fy helpu i ddatblygu sgiliau nad oeddwn i'n gwybod oedd gen i. Mae'n eich sbarduno i ehangu eich gorwelion a gweld y diwylliant a'r iaith Gymraeg o bersbectif cwbl newydd. Anfonwch gais - gallai newid eich bywyd!"
Yn ogystal â chynnal dosbarthiadau ffurfiol, mae'r athrawon hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ehangu defnydd y Gymraeg yn y gymuned drwy drefnu ac arwain gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol a thrwy fod yn llysgenhadon dros y Gymraeg a'i diwylliant.
Mae'r cyfnod ymgeisio ar agor tan 7 Medi 2026 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tâl o £750 y mis, yn ogystal â thocyn hedfan dwyffordd, llety am ddim, ac yswiriant iechyd.
Dywedodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru:
"Ers bron i 30 mlynedd, mae Cynllun yr Iaith Gymraeg wedi cryfhau'r clymau diwylliannol ac ieithyddol unigryw rhwng Cymru a Phatagonia. Drwy gefnogaeth hirsefydlog a chroeso cynnes partneriaid a chymunedau yn yr Ariannin, mae'r rhaglen yn dal i gael effaith barhaus ar y cymunedau Cymraeg eu hiaith yno, yn ogystal ag ar yr athrawon sy'n cymryd rhan.
Mae'r cyfle unigryw yma'n berffaith i athrawon Cymraeg sy'n angerddol am ein hiaith a'n diwylliant ac sy'n awyddus i rannu'r brwdfrydedd hwnnw â chymunedau Cymraeg eu hiaith ar draws rhanbarth Patagonia. Mae'n gyfle am antur gyffrous, cyfnewid diwylliannol, datblygiad proffesiynol, a chyfle hefyd i fod yn rhan o dreftadaeth gyffredin hynod."
Mae Cynllun yr Iaith Gymraeg yn adlewyrchu gwaith ehangach y British Council - yn meithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a gwledydd eraill drwy'r celfyddydau, addysg ac addysgu ieithoedd.
Mae mwy o wybodaeth am Gynllun yr Iaith Gymraeg a'r meini prawf i gymryd rhan ar gael yma:
https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/addysg/prosiect-yr-iaith-gymraeg