Ers 1997, mae Cynllun yr Iaith Gymraeg wedi bod yn hybu a datblygu'r iaith Gymraeg yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia yn yr Ariannin. Bob blwyddyn mae'r cynllun, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i weinyddu gan y British Council, yn anfon dau o athrawon o Gymru i dreulio blwyddyn academaidd gyfan (o fis Mawrth i fis Rhagfyr) yn dysgu ym Mhatagonia. Mae amser dysgu'r athrawon yn cael ei rannu rhwng tair ysgol gynradd ddwyieithog Cymraeg a Sbaeneg, Coleg Camwy (ysgol uwchradd yn y Gaiman lle dysgir Cymraeg fel ail iaith) a Chanolfan Cymraeg i Oedolion y dalaith. Yn ogystal, mae'r cynllun yn ariannu Cydlynydd Dysgu Cymraeg parhaol ym Mhatagonia a chefnogi oddeutu 20 o staff sy'n dysgu Cymraeg yn yr ysgolion a'r ganolfan addysg i oedolion.
Mae'r cynllun ar waith mewn tri dalgylch yn nhalaith Chubut, sef yr Andes, y Gaiman a Thrlew. Mae'r athrawon yn dysgu amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys cyrsiau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch gan ddefnyddio cyrsiau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd wedi cael eu cyfieithu a'u haddasu i'w defnyddio ym Mhatagonia.
Bydd dau o athrawon yn dechrau eu cyfnodau ar leoliad ym mis Mawrth 2025 - y naill yn Nhrelew, a'r llall yn Nhrefelin. Bydd y broses ymgeisio ar gyfer lleoliadau 2026 yn agor yn Haf 2025.