Ukrainian poet and literary translator Tania Rodionova in Clegir, near Llanberis
Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025

 

Dros y mis diwethaf mae Tania Rodionova, bardd, cyfieithydd llenyddol a rheolwr diwylliannol o Wcráin wedi cael cyfle i ymgolli yn heddwch a barddoniaeth gogledd Cymru yn ystod preswyliad yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd.

Cafodd y preswyliad ei gynnal gan Lenyddiaeth Cymru | Literature Wales fel rhan o raglen ledled Prydain gan y British Council ar gyfer artistiaid sydd wedi cael eu heffeithio gan ryfel neu wrthdaro. Mae'r preswyliad wedi bod yn gyfle prin i Tania gael seibiant a chreu a myfyrio.

Mae'n un o naw o artistiaid - o Libanus, Yemen, Palestina a Wcráin - sy'n cymryd rhan mewn cyfres o breswyliadau mewn sefydliadau diwylliannol blaenllaw yn y DU. Yng Nghymru, mae'r rhaglen yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru gan ddarparu gofod ar gyfer archwilio a chydweithio artistig.

Mae Tania, sy'n byw a gweithio yn Kyiv, wedi bod yn cyfieithu cerddi rhyfel Wcreineg i'r Saesneg ers dechrau'r ymosodiad llawn ar Wcráin yn 2022. Dywedodd: "Ar ddechrau'r rhyfel, fe welais i feirdd ro'n i'n eu hadnabod yn rhannu eu cerddi ar-lein. Ro'n i'n teimlo bod rhaid i fi eu cyfieithu - fel y gallai pobl eraill ein deall ni'n well, deall beth sy'n digwydd i ni. Mae barddoniaeth yn mynegi emosiwn mewn ffordd unigryw, sy'n wahanol i newyddion. Mae'n gallu bod yn fwy pwerus."

Yn Nhŷ Newydd, cymerodd Tania ran mewn cyrsiau barddoniaeth a gweithdy cyfieithu cerddi heddwch. Bu'n cydweithio â beirdd o Gymru - Sian Northey, Meleri Davies ac Elinor Gwynn - i gyfieithu cerddi ei gilydd i'r Wcreineg a'r Gymraeg, gan ddefnyddio'r Saesneg fel pont. "Mae pob cerdd sy'n cael ei chyfieithu'n cario llais y cyfieithydd" meddai. "Mae cyfieithu'n broses o golli a dehongli, ond mae hefyd yn weithred greadigol - mae'n gelfyddyd lenyddol."

"O ran fy ngwaith nôl adre yn Wcráin, dw i'n rheolwr diwylliannol a chyfieithydd, ond dw i hefyd yn ysgrifennu barddoniaeth. Roedd hwn yn gyfle bendigedig i adfer y rhan yna ohonof i - i ddychwelyd at ysgrifennu. Mae mor anodd pan fod cymaint o bethau eraill i'w gwneud, ac mae'n arbennig o galed i ffeindio amser ar gyfer ysgrifennu creadigol yng nghysgod y rhyfel. Mae fy amser yma wedi bod yn sbardun i fi ysgrifennu eto."

Yn ogystal â mynychu gweithdai, mae Tania wedi cael cyfle i fwynhau'r wlad o'i chwmpas, gan gerdded i Gricieth ac ar hyd yr arfordir. Dywedodd: "Mae byw yng Nghymru wedi bod yn brofiad bendigedig - dyma fy ymweliad cyntaf â'r DU. Fe wnes i ffeindio rhythm pentrefol tawel yma ar unwaith. Mae dysgu am yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru wedi bod yn arbennig o ddiddorol, ac mae'r ffordd mae pobl yma'n cynnal eu traddodiadau wedi gwneud argraff fawr arna i. Dw i wedi sylweddoli bod llawer yn gyffredin rhyngom ni a'r Cymry - y traddodiad barddol cryf, y cysylltiad dwfn â'r iaith. Dw i hyd yn oed wedi dysgu ychydig o eiriau Cymraeg."

Fe wnaeth un gair yn arbennig aros gyda hi - araf. "Fe welais i'r gair wedi'i baentio ar y ffordd wrth gerdded i Gricieth", meddai. "Dyna'r union gyflymder roedd ei angen arnaf pan gyrhaeddais i yma."

Mae tawelwch Cymru wedi bod yn hollol wahanol i fywyd dan warchae yn Wcráin. "Mae cael yr amser llonydd yma wedi bod yn hyfryd - i gael cysgu a chanolbwyntio ar yr hyn dw i'n ei wneud" meddai Tania. "Yn Wcráin mae problemau cyson gyda thrydan a gwresogi. Yma, dw i'n teimlo'n freintiedig 'mod i'n cael eistedd ac ysgrifennu."

"Ond mae'n anodd teimlo'n gwbl dawel fy meddwl gan wybod beth sy'n digwydd nôl adre. Dw i'n dal i ddarllen y newyddion, a chael negeseuon gan fy chwaer yn Kyiv a fy nghariad sydd yn y fyddin. Dw i'n teimlo 'mod i mewn dau le ar unwaith. Hyd yn oed pan dw i'n sgwennu am natur, mae'r rhyfel yn ffeindio'i ffordd i mewn i fy ngeiriau."

Ac mae amser Tania yng Nghymru wedi ysgogi uchelgais creadigol newydd hefyd. Dywedodd: "Pan fydda i'n dychwelyd adre i Kyiv, dw i'n ystyried creu prosiect cyfieithu barddoniaeth. Dw i am gynnig syniad i gyhoeddwr - i gyfieithu barddoniaeth Gymreig i'r Wcreineg. Fe wnes i hoffi gwaith Paul Henry'n fawr iawn - fy ffefryn hyd yma; a gwaith y bardd Clare Shaw, a oedd yn arwain y gweithdy - mae hi'n wych. Felly dw i'n dychwelyd adre gyda syniadau am gyhoeddiadau."

Wrth baratoi i ddychwelyd adre, mae Tania'n dweud y bydd tirlun a phobl Cymru'n aros gyda hi. "Bydda i'n gweld eisiau'r lle yma - y llonyddwch a'r cysylltiad â byd natur. Dw i am geisio cario'r llonyddwch yna gyda fi, ynof fy hun. Mae bod yng Nghymru fel bod mewn cerdd am y môr a'r mynyddoedd."

Wrth sôn am effaith yr amser a dreuliodd Tania yng Nghymru, dywedodd Leusa Llewelyn Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru : "Mae wedi bod yn fraint i groesawu Tania i Gymru a chefnogi ei siwrnai greadigol. Rydyn ni'n gobeithio fod y preswyliad yma wedi rhoi amser a gofod iddi ysgrifennu a myfyrio, ond hefyd i gysylltu a meithrin cysylltiadau drwy greadigrwydd. Mae Llenyddiaeth Cymru'n credu'n gryf yng ngallu geiriau a straeon i groesi ffiniau a meithrin empathi mewn ffyrdd pwerus. Bydd preswyliad Tania, a'r cyfle i gyfnewid syniadau a phrofiadau, yn gadael argraff barhaol ar yr ysgrifenwyr Cymreig sydd wedi gweithio ac ymgysylltu â hi, ac arnom ninnau fel sefydliad."

Rhannodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru farn debyg wrth nodi: "Mae'r rhaglen yma'n ymgorffori'r ysbryd o gydweithio sydd wrth galon gwaith Cyngor Celfyddydau Cymru, ac o ran cysylltiadau rhyngwladol, gwaith ein cangen ryngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Rydyn ni wrth ein bodd i gymryd rhan yn y fenter hon mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, i ddarparu gofod o ofal a chyfnewid creadigol, gan gysylltu Cymru gydag artistiaid sy'n rhannu straeon sy'n adleisio ein dynoliaeth gyffredin ar draws ffiniau. Bydd y preswyliad yn rhoi cyfle i Tania ddatblygu ei chrefft a rhannu ei phrofiadau. Bydd hefyd yn cyfoethogi cymuned lenyddol Cymru wrth gynnig safbwyntiau newydd ar wytnwch, iaith a'r rhan y gall celf ei chwarae mewn cyfnodau ansicr."

Ychwanegodd Ruth Cocks, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae preswyliad Tania'n rhan o gefnogaeth barhaus y British Council i artistiaid o Wcráin a chyfnewid diwylliannol. Yma yng Nghymru, gwlad sydd wedi agor ei drysau i ffoaduriaid wrth ymroi i fod yn Genedl Noddfa, rydyn ni'n gweithio i greu cyfleoedd i artistiaid, myfyrwyr a chymunedau i greu, cydweithio a chysylltu. Mae rhaglenni fel hyn yn cynnig lle a chefnogaeth i artistiaid rannu eu lleisiau, meithrin cysylltiadau ar draws ffiniau a chryfhau cysylltiadau diwylliannol ar adeg pan fo sefyll gyda'n gilydd yn bwysicach nag erioed."

Mae'r rhaglen breswyliadau yma'n dilyn cynllun peilot llwyddiannus a gynhaliwyd yn yr Alban yn 2023 yn ystod Tymor Diwylliant y DU a Wcráin - a gyflwynwyd gan y British Council mewn partneriaeth â Creative Scotland a'r Sefydliad Wcrainaidd.

Mae rhaglen breswyliadau'r British Council yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y DU a thramor drwy'r celfyddydau, addysg ac addysgu ieithoedd. Mae mwy o wybodaeth am waith y British Council yng Nghymru ar gael yma: https://wales.britishcouncil.org/  neu dilynwch ni ar X, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Ymholiadau'r cyfryngau - cysylltwch â

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council: +44 (0)7542268752     E: Claire.McAuley@britishcouncil.org 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd.

Rhannu’r dudalen hon