Bydd y British Council, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn cefnogi blwyddyn Cymru yn Ffrainc gyda rhaglen o weithgareddau celfyddydol a diwylliannol. Bydd y rhaglen yn rhoi cefnogaeth i unigolion a sefydliadau yng Nghymru a Ffrainc gysylltu, meithrin perthnasoedd a chreu gwaith yn ystod 2023.
Yn y gorffennol, mae’r British Council wedi cefnogi nifer o brosiectau sydd wedi creu cysylltiadau rhwng Cymru a Ffrainc. Yn fwyaf diweddar, fe wnaethom gefnogi cyfres o gyngherddau ar y cyd rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Orchestre National de Bretagne yn 2022.