Cronfa Ddiwylliant Cymru India 2024 - Uwch Swyddog Rhyngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Nicola Morgan, Cynhyrchydd Creadigol Kate Perridge, cynhyrchwyr ac artistiaid creadigol Sarah Argent a Kevin Lewis, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias Meinir Llwyd Roberts, cerddorion Gareth Bonello, Tomos Williams a Mari Mathias a Phennaeth Celfyddydau British Council Cymru Elena Schmitz.
Cronfa Ddiwylliant Cymru India 2024 - Uwch Swyddog Rhyngwladol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Nicola Morgan, Cynhyrchydd Creadigol Kate Perridge, cynhyrchwyr ac artistiaid creadigol Sarah Argent a Kevin Lewis, Cyfarwyddwr Canolfan Gerdd William Mathias Meinir Llwyd Roberts, cerddorion Gareth Bonello, Tomos Williams a Mari Mathias a Phennaeth Celfyddydau British Council Cymru Elena Schmitz.

Mae British Council Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi buddsoddi mewn prosiectau trwy gronfa ddiwylliant bwrpasol fel rhan o Flwyddyn Cymru yn India.

Bydd y prosiectau’n canolbwyntio ar gryfhau’r berthynas ddiwylliannol bresennol rhwng artistiaid o Gymru ac India, gan gynnwys rhai o Nagaland a’r gogledd-ddwyrain, rhwng Tachwedd 2024 ac Ionawr 2026.

Darllenwch fwy am y prosiectau a ariennir isod:

Khasi-Cymru Collective

Bydd y cerddor Cymraeg, Gareth Bonello yn dychwelyd i ogledd-ddwyrain India ac yn recordio cerddoriaeth newydd gyda’i bartneriaid o’r Khasi-Cymru Collective.

Bydd yn treulio 10 diwrnod yn Shillong er mwyn creu cerddoriaeth a barddoniaeth newydd yn yr iaith Khasi a’r Gymraeg.

Mae’n dweud: “Dwi eisiau i hon fod yn ddeialog barhaus er mwyn i bobl benderfynu ble maen nhw eisiau i’r cydweithio hyn eu harwain.”

Bydd y cyfle hwn yn gam arall yn y ddeialog greadigol barhaus rhwng artistiaid Cymreig a Khasi, sydd wedi ffynnu dros y blynyddoedd diwethaf.

Yna, bydd Gareth yn gorffen ar ei daith deng diwrnod ac yn mynd i Ŵyl Hornbill yn Nagaland lle bydd yn perfformio gyda’r cerddor, Indiaidd Benedict Hynniewta. Mae Benedict yn ffliwtydd o fri ac artist gweledol wedi’i leoli yn Shillong. Mae'r pâr wedi bod yn cydweithio ers blynyddoedd lawer ac mae'r ddau artist yn edrych ymlaen at berfformio gyda'i gilydd eto. Gŵyl Hornbill yw’r dathliad mwyaf o dreftadaeth lwythol yn India gydag ymwelwyr yn ymgolli mewn traddodiadau cyfoethog, cerddoriaeth a llên gwerin y rhanbarth.

Sarah Argent a Kevin Lewis

Bydd y crewyr theatr Sarah Argent a Kevin Lewis yn cydweithio â ThinkArts o Kolkata a’r artist anabl o Gymru, Jony Cotsen, i weithio gyda phedwar awdur a dramodydd ifanc i’w helpu i greu eu straeon gwreiddiol eu hunain ar gyfer plant a phobl ifanc ar draws sawl iaith, gan gynnwys BSL ac ISL.

Maent yn awyddus i archwilio’r grefft o adrodd straeon a’r ffaith ei fod yn gymaint mwy na dim ond geiriau.

Dywedon nhw: “Bydd yr hyn y byddwn yn dysgu o’r profiad hwn yn hysbysu ein hartistiaid Cymreig, ac i’r gwrthwyneb. Rydyn ni eisiau adrodd straeon sy’n hygyrch ac yn medru cael eu mwynhau gan bob plentyn.”

Khamira

Bydd Khamira, y cydweithrediad Cymreig Indiaidd sy’n dod â cherddoriaeth werin Cymreig, clasurol Indiaidd, a Jazz ynghyd, yn ymgymryd â thaith chwe diwrnod ar draws India, gyda cherddorion lleol yn ymuno â phob perfformiad.

Bydd y daith yn cychwyn dathliadau 10 mlynedd y grŵp yn 2025. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Khamira eisoes wedi recordio dau albwm ac wedi perfformio o flaen cynulleidfaoedd ledled Cymru, y DU, India ac mor bell â De Corea. Mae’r criw nawr yn edrych ymlaen at daith newydd yn India a chyfle i greu a recordio deunydd newydd.

Dywedodd Tomos Williams, sylfaenydd ac aelod o’r band: “Pŵer cerddoriaeth yw ei gallu i uno. Rydyn ni eisiau uno â diwylliannau gwahanol ond parhau i fod yn falch o bwy ydyn ni.”

Yn ogystal â pherfformio, byddant hefyd yn cynnal gweithdai a dosbarthiadau meistr er mwyn rhannu eu gwybodaeth a’u talent wrth gysylltu â phobl newydd.

Kate Perridge a Meta Arts: Page of Two Lands

Mae Page of Two Lands yn brosiect a fydd yn cynnwys pedwar awdur a darlunwyr benywaidd o Gymru a gogledd-ddwyrain India i gydweithio â’i gilydd a chreu cyfres o naratifau cyfoes wedi’u hysbrydoli gan straeon gwerin. Cyflwynir y prosiect gan y cynhyrchydd theatr annibynnol Kate Perridge yng Nghymru a Meta Arts yn India, ac mae’n arwain o brosiect blaenorol, InterCut Labs, a gynhyrchwyd ganddynt ar y cyd.

Wedi'i gynllunio fel prosiect hybrid, bydd y pedwar artist yn gweithio mewn parau i ymchwilio a datblygu'r prosiect hwn, ac fe ddaw i ben fel taith arddangosfa yn India.

Bydd y daith yn cynnwys rhaglen ddysgu yn cynnwys gweithdai a sgyrsiau ar gyfer myfyrwyr ysgol uwchradd a phrifysgolion.

Canolfan Gerdd William Mathias

Mae Canolfan Gerdd William Mathias wedi bod yn gweithio ar brosiect arbennig gyda phartneriaid yn Shillong ers 2022. Datblygwyd y prosiect yn wreiddiol er cof am y delynores Gymreig Mair Jones a adawodd delynau i gymunedau yn Shillong a Bryniau Khasi.

Ers hynny, mae myfyrwyr o Brifysgol Gristnogol Martin Luther wedi bod yn derbyn gwersi telyn ar-lein trwy Ganolfan Gerdd William Mathias, gyda rhai yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd newydd mewn cerddoriaeth.

Eleni, byddant yn anfon tri thiwtor i Brifysgol Cristnogol Martin Luther yn Shillong i archwilio cerddoriaeth Gymraeg a Khasi ymhellach gyda'i gilydd, yn ogystal â rhoi cyfle i'r tiwtoriaid gwrdd â'r myfyrwyr wyneb yn wyneb.

Byddant hefyd yn dychwelyd i’r ysbyty yn Shillong i ddatblygu prosiectau celfyddydol, iechyd a lles newydd mewn lleoliadau gofal iechyd, a sefydlwyd yn wreiddiol gan feddygon Cymreig, gan ddarparu gweithgareddau i gleifion ac i berfformio i staff. Bydd ymddiriedolwr Canolfan Gerdd William Mathias, Dr Rajan Madhok, sy’n gysylltiedig â Sefydliad Iechyd Cyhoeddus India yn Shillong, hefyd yn ymuno i hybu’r cysylltiadau celfyddydol ac iechyd ymhellach.

Bydd y tri thiwtor – Catrin Morris Jones, Gwennan Gibbard a Nia Davies Wiliams – hefyd yn perfformio fel dathliad o berthynas Cymru a Bryniau Khasi yng Ngŵyl Tri-Hills ac mewn Noson Lawen arbennig a gynhelir yn Shillong.

 Cefyn Burgess

Mae’r artist tecstilau o ogledd Cymru, Cefyn Burgess, wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu perthnasoedd diwylliannol cyfoes rhwng Bryniau Khasi a Chymru a bydd yn ymweld â’r rhanbarth ochr yn ochr â Chanolfan Gerdd William Mathias i ehangu cysylltiadau â phartneriaid sefydliadol.

Bydd yn datblygu prosiect artistig newydd yn ystod ei ymweliad a fydd yn canolbwyntio ar iaith, tir a diwylliant llwythol Khasi.

Bu ei brosiectau artistig diweddar yn archwilio’r cysylltiadau rhwng Bryniau Khasi a’r cenhadon Cymreig sydd wedi arwain at gorff helaeth o waith tecstilau a deunydd archifol i gyd-fynd ag ef.

 

Byddwn yn rhannu cynnydd y prosiectau hyn ar ein sianeli cymdeithasol.

Dilynwch @WalesinIndia ar X a Wales in India ar LinkedIn i weld sut hwyl maen nhw i gyd yn ei chael.

Rhannu’r dudalen hon