Day 80: Cofio Glaniadau Normandi 

Ar y 6ed o Fehefin 1944, glaniodd lluoedd y Gynghrair a oedd yn cynnwys milwyr o'r Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Canada a gwledydd eraill ar draethau Normandi yn Ffrainc i ymladd yn erbyn y Natsïaid. Dyma'r diwrnod a ddaeth yn adnabyddus fel 'D-Day'.

Cafodd y pecyn addysg yma, a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Coffáu Normandi a'i ddatblygu mewn partneriaeth â'r British Council, ei lunio i goffáu 80 mlynedd ers D-Day. Mae'n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i helpu disgyblion yn y Deyrnas Unedig a Ffrainc i ddysgu mwy am brif ddigwyddiadau hanesyddol yr ymgyrch a meithrin dealltwriaeth ddyfnach o effaith hynny ar y bobl a'r llefydd a oedd yn rhan o gyrch D-Day a Brwydr Normandi. Dyma'r digwyddiadau a arweiniodd yn y pendraw at ryddhau Gorllewin Ewrop o afael y Natsïaid.

Gall eich disgyblion ddarganfod mwy am y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at D-Day a'r rhan a chwaraewyd gan luoedd y Cynghreiriaid, Y Gwrthsafiad yn Ffrainc a'r Gwasanaethau Cudd-ymchwil yn ogystal ag effaith yr ymgyrch ar bobl Ffrainc, yn enwedig trigolion Tilly-sur-Seulles yn Normandi.

Bydd cyfle iddynt archwilio tystiolaeth o ffynonellau gwreiddiol gan gynnwys ffotograffau, llythyron a dogfennau, gwneud gwaith ymchwil eu hunain a choffáu'r bobl ddewr a gymerodd ran yn yr ymgyrch. Bydd cyfle hefyd iddynt ymarfer eu sgiliau iaith, datrys codau a gwneud ymarfer ysgrifennu creadigol wedi'i ysbrydoli gan y rhan a chwaraewyd gan anifeiliaid yn y rhyfel.

Mae adnoddau'r pecyn yn hyblyg a gellir eu haddasu yn ôl y gofyn. Gellir eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer gwersi neu weithgareddau unigol, neu fel rhan o brosiect traws-gwricwlaidd ehangach gydag ysgol bartner dramor. Os nad oes gennych ysgol bartner yn Ffrainc yn barod, gallwch gofrestru am ddim i fod yn rhan o'n bas data Ffeindio Ysgol Bartner a chwilio fesul gwlad. Mae mwy o wybodaeth am fanteision partneru gydag ysgol mewn gwlad dramor a chanllawiau ar sut i wneud hynny ar gael yma.

Lawrlwytho'r pecyn addysg

Agorwyd y Gofeb Brydeinig yn Normandi ar y 6ed o Fehefin 2021. Mae'n cofnodi enwau'r 22,442 o aelodau'r lluoedd arfog (yn ddynion a menywod) a wasanaethodd mewn unedau Prydeinig ac a fu farw yn ystod cyrch D-Day a Brwydr Normandi yn haf 1944. Mae'r safle hefyd yn cynnwys Cofeb Ffrengig sy'n coffáu dinasyddion Ffrainc a fu farw yn yr un cyfnod.

Ar y 6ed o Fehefin 2024 bydd 'Canolfan Addysg a Dysgu Winston Churchill' yn cael ei hagor i helpu rhannu gwersi'r gorffenol gyda chenedlaethau'r dyfodol. Gellir ymweld â safle'r Gofeb am ddim; mae mwy o wybodaeth am y Gofeb a straeon y rheini a fu farw ar gael yma neu drwy app y Gofeb Brydeinig yn Normandi. Os hoffech drefnu ymweliad ysgol â'r Gofeb, gallwch gysylltu drwy contact@britishnormandymemorial.org.

Lawrlwytho'r pecyn addysg

Rhannu’r dudalen hon