Gan Wales blog team

14 Chwefror 2025 - 10:55

Rhannu’r dudalen hon
Celestial Bodies | Museum of the Moom | Raneen Festival | Oman ©

John Rea

Cafodd treftadaeth gerddorol Cymru ac Oman eu huno mewn gwaith newydd gan y cyfansoddwr o Gaerdydd John Meirion Rea yng Ngŵyl Raneen a gynhaliwyd am y tro cyntaf erioed yn Muscat fis Tachwedd y llynedd.

Roedd y gwaith, a oedd yn plethu celf sain gyfoes o Gymru a cherddoriaeth Arabaidd draddodiadol, yn ffrwyth prosiect cydweithio a gefnogwyd gan y British Council yng Nghymru ac Oman ar y cyd â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Bu John Rea yn cydweithio â'r chwaraewr oud o Oman, Amal Waqar, i greu 'Celestial Bodies' - seinwedd trochol â system sain wyth seinydd oedd yn cyd-fynd â gosodwaith Luke Jerram 'Museum of the Moon' yng nghwrt tŷ hanesyddol Bait Al Khonji, yn Mutrah.

"Mae'r gwaith yn cyfuno fy mhrofiadau o fywyd yn Oman ac elfennau cerddorol a ysbrydolwyd drwy gydweithio gydag Amal" meddai Rea. "Roedd y cydweithio'n rhan bwysig iawn o'r broses. Fe wnes i blethu ei byrfyfyrio hi gyda fy nghyfansoddiad i wrth i ni rannu siwrne gerddorol gyda'n gilydd."

Roedd y gosodwaith yn cyfuno technegau celf sain Rea â moddau melodig Marqam sy'n rhan o'r traddodiad cerddorol Arabaidd, gan greu profiad trochol i'r gynulleidfa wrth iddynt ymateb i'r gosodwaith lloerol crog a threftadaeth bensaernïol Mutrah (hen borthladd Muscat).

Meddai Rea: "Fe dreuliais i amser yn Mutrah cyn yr ŵyl, yn recordio gweadau sain yr ardal hanesyddol hon - gan gynnwys bywiogrwydd y Souq a bwrlwm y strydoedd o'i gwmpas." Teithiodd John y tu hwnt i'r brifddinas hefyd gan recordio adeiladwyr cychod traddodiadol Dhow yn Sur, crochendai hynafol Bahla, mynyddoedd mawreddog Jebel Akhdar a seinweddau anialwch Rub Al Khali.

Mae arwyddocâd y lleuad yn thema sy'n atseinio'n ddwfn yn niwylliant Oman. "Mae gan y lleuad gymaint o wahanol ystyron mewn gwahanol ddiwylliannau ledled y byd" meddai Rea. Mae cylchdroeon y lleuad wedi'u cydblethu â ffydd; maent hefyd yn rhan o hen draddodiadau hwylio hanesyddol Oman, gan gynnwys mordwyo. Ac ynghyd â'r sêr, mae'r Bedouin yn eu defnyddio i groesi'r anialwch."

Bu nofel nodedig Jokha Alharthi 'Celestial Bodies' (a enillodd wobr ryngwladol Booker) yn un o'r elfennau a ysbrydolodd y prosiect. Meddai Rea, "Y cyfieithiad llythrenol o deitl gwreiddiol y llyfr yn Arabeg yw 'Menywod y Lleuad', sydd hefyd yn drosiad barddol o harddwch. Ces fy swyno gan stori'r tair chwaer yn y nofel, a sut maen nhw'n ymgodymu â thraddodiad a moderniaeth."

Wrth weithio gydag archifau Canolfan Oman ar gyfer Cerddoriaeth Draddodiadol, fe blethodd Rea elfennau fel cri rhyfel y "Nadbah" a chaneuon morwrol traddodiadol "Al Nahma" i mewn i'r gwaith. Fel siaradwr Cymraeg, roedd yn chwilfrydig am y cysylltiadau rhwng ynganiadau Arabeg a Chymraeg. "Mae cerddoriaeth iaith wedi fy niddori erioed, ac fe ffeindiais i harddwch yn nhafodieithoedd Oman a thebygrwydd rhyfeddol yn y ffordd mae'r ddwy iaith yn siapio sain a mynegiant."

Mae'r prosiect wedi tanio diddordeb yn niwylliant Cymru yn y wlad hon yn y Gwlff yn barod; aeth yr arbenigwr cerddoriaeth Zakariya Al Alawi ati i ddysgu ymadroddion Cymraeg sylfaenol yn ystod y prosiect. "Mae'n rhyfeddol gweld sut y gall ein hiaith, cerddoriaeth a diwylliant deithio," meddai Rea. "Rydyn ni wedi dechrau sgwrs a allai arwain at fwy o gyfnewid diwylliannol rhwng Cymru ac Oman."

Mae Elena Schmitz, Pennaeth y Celfyddydau yn British Council Cymru, yn pwysleisio arwyddocâd y cydweithio hwn: "Mae'r gwaith yma nid yn unig yn ddatblygiad cerddorol cyffrous ac arloesol, ond hefyd yn engraifft wych o adeiladu pontydd diwylliannol. Mae'r bartneriaeth rhwng John ac Amal yn dangos sut y gall dod â thraddodiadau tra gwahanol at ei gilydd greu ffurfiau newydd a phwerus o fynegiant artistig."

Roedd yr ŵyl ei hun yn garreg filltir arwyddocâol i gyfnewid artistig yn Oman. Meddai Rea, "Roedd yr ŵyl yn Raneen yn llwyddiannus iawn o ran meithrin cyfnewid diwylliannol a bu'n help i agor cymuned artistig Oman i gydweithio'n rhyngwladol. Roedd hynny'n amlwg yn y ffordd roedd artistiaid o Oman ac artistiaid rhyngwladol yn cydweithio â'r Weinyddiaeth Diwylliant, Chwaraeon ac Ieuenctid drwy gydol y digwyddiad. O fy rhan i'n bersonol fel artist, bu'n gyfrwng i greu deialog ystyrlon gyda Luke Jerram ac yn arbennig gyda'r chwaraewr oud o Oman, Amal Waqar - ynghyd â fy mhrofiadau o'r wlad a'r diwylliant ei hun, gan gynnwys cyfoeth archifau Canolfan Oman ar gyfer Cerddoriaeth Draddodiadol."

Bu'r gosodwaith sain yn rhedeg drwy gydol yr ŵyl rhwng 22-30 Tachwedd, gyda pherfformiadau arbennig wrth i'r haul fachlud bob nos. Meddai Rea, "Roedd yn brofiad arbennig iawn i gael gwahoddiad i greu 'Celestial Bodies' gyda Luke Jerram a chael cyfle i rannu syniadau a chwrdd ag artistiaid a cherddorion cyfoes o Oman fel rhan o Ŵyl Raneen. Dw i'n teimlo mai dim ond dechrau mae'r sgwrs greadigol yma, a byddai'n beth arbennig iawn pe gallem rannu'r gwaith yng Nghymru yn y dyfodol."

Mae'r fenter gydweithio ddiweddaraf hon, a oedd yn rhan o Ŵyl Raneen a guradwyd gan gyn gyfarwyddwr Ffotogallery yng Nghaerdydd, David Drake, yn rhan o waith parhaus y British Council i feithrin cysylltiad, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy gelfyddydau ac addysg. 

Amal Waqar and John Rea 
John Rea in the Jebel Akhdar mountains Oman
John Rea with Abdullah bin Hamadan Al Adwi | Bahla pottery