Cadeirydd, Pwyllgor Cynghori Cymru
Mae gennym hefyd y swydd wag ddi-dâl ganlynol:
Cymru, Y Deyrnas Unedig
Er bod hon yn rôl ddi-dâl, caiff treuliau a chostau teithio rhesymol o fewn y DU eu had-dalu.
Rhaid bod gan ymgeiswyr yr hawl i weithio yn y DU
Dyddiad Cau: Hydref 3 2025.
Details
Location | Cardiff, UK |
---|---|
Closing date | Dydd Gwener 03 Hydref 2025 |
Role overview
Y cyfle
Rydym yn chwilio am unigolyn â phrofiad o rolau lefel uwch yng Nghymru a fydd, fel Cadeirydd, yn arwain gwaith Pwyllgor Cynghori Cymru i gyflawni'r amcanion a nodir yn ei gylch gorchwyl. Byddwch yn rhoi cyngor i Gyfarwyddwr British Council Cymru a chyfrannu'n anweithredol i sicrhau bod y British Council yn cael yr effaith orau bosibl yng Nghymru ac ar ran Cymru. Byddwch hefyd yn eiriol dros waith y British Council.
Amdanom ni
Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd.
Rydym yn defnyddio cyngor arbenigol ein grwpiau cynghori sector a thri o bwyllgorau cyngori yng ngwledydd y Deyrnas Unedig i’n helpu i sicrhau ansawdd ac annibyniaeth ein ffordd o feddwl. Mae Pwyllgor Cynghori Cymru'n rhoi cyngor i Gyfarwyddwr British Council Cymru a dylanwadu ar y modd y caiff gweledigaeth a strategaeth y British Council eu gwireddu.
Yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio'n bennaf ar addysg a'r celfyddydau. Gan weithio'n agos â'n partneriaid yng Nghymru ac ar draws rhwydwaith y British Council, rydym yn anelu i:
- sicrhau bod rhanddeiliaid allweddol yn ogystal â'r rheini a allai elwa o gynigion addysg a chelfyddydau'r British Council yn ymwybodol ohonynt, ac yn cael cefnogaeth i fanteisio'n llawn arnynt
- cefnogi uchelgais ryngwladol Llywodraeth Cymru a sectorau'r celfyddydau ac addysg
- cyfrannu'n gadarnhaol a gweledol i'r drafodaeth genedlaethol ar ryngwladoli addysg a'r celfyddydau yng Nghymru
- sicrhau bod llais unigryw Cymru'n rhan o waith rhyngwladol y British Council, a sicrhau bod gan Gymru gynnrychiolaeth deilwng yng nghynig y British Council ar ran y DU
Mae'r British Council yn manteisio ar gyngor strategol gan ein tri Phwyllgor Cynghori Gwlad - yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
Ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant
Mae’r British Council wedi ymrwymo i bolisiau ac arferion i sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhopeth yr ydym yn ei wneud. Rydym wrthi’n gweithio i wella amrywiaeth ar draws ein holl strwythurau llywodraethu fel eu bod yn adlewyrchu’r cymdeithasau yr ydym yn gweithio ynddynt. Rydym yn rhoi cefnogaeth i holl aelodau ein staff i sicrhau bod eu hymddygiad yn gyson â’r ymrwymiad hwn. Rydym am fynd i’r afael â thangynrychiolaeth, ac rydym yn annog ymgeiswyr o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli - yn arbennig o ran ethnigedd ac anabledd (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny). Gwarentir cyfweliad i bob ymgeisydd ag anabledd sy’n ateb gofynion y meini prawf hanfodol, ac rydym yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn croesawu sgyrsiau am unrhyw ofynion penodol neu newidiadau sydd eu hangen i sicrhau y gallwch ymgysylltu a chymryd rhan yn ein gwaith a’n gweithgareddau.
Telerau ac amodau
Apwyntir y Cadeirydd am gyfnod o dair blynedd. Gellir adnewyddu’r apwyntiad am ail dymor o dair blynedd ychwanegol. Er nad yw'r Cadeirydd yn derbyn tâl, caiff treuliau a chostau teithio rhesymol o fewn y DU eu had-dalu yn ôl cyfraddau safonol y British Council. Rhaid bod gan ymgeiswyr yr hawl i weithio yn y D.U.
Gweler hefyd: Cylch Gorchwyl Pwyllgor Cynghori Cymru
Am fanylion y person a rhagor o wybodaeth am y rôl hon, gweler y dogfennau isod:
How to apply
Os oes diddordeb gennych yn y rôl hon a'ch bod yn teimlo eich bod yn addas ar ei chyfer, byddem yn falch iawn i glywed gennych. Gallwch gyflwyno cais drwy anfon copi o'ch CV a llythyr eglurhaol at teamwales@britishcouncil erbyn 3 Hydref 2025.