Bydd gan artistiaid Cymreig gyfle i gynnig am grantiau o gronfa prosiect gwerth £450,000 i greu cysylltiadau gydag India.
Prosiect ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council yw India-Cymru. Nod y prosiect fydd hyrwyddo partneriaethau rhwng pobl broffesiynol creadigol a sefydliadau celfyddydol yn y ddwy wlad.
Bydd y brif gronfa ar agor i dderbyn ceisiadau yn hwyr yn y gwanwyn, ond gall artistiaid gynnig am hyd at £2,500 nawr i ymchwilio syniadau am brosiectau.
Dywedodd Nicola Morgan, pennaeth dros dro Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Fel rhan o’n gwaith ar y cyd gyda’r British Council, rydym yn cynnig y gronfa India-Cymru i gefnogi prosiectau yn India ac yng Nghymru yn 2007 ac yn gynnar yn 2008.
“Rydym nawr yn cynnig cyfle i unigolion creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru i ymgymryd ag ymweliad ymchwil a datblygu yn India neu i wahodd partner o India i ymweld â Chymru, gyda golwg i ddatblygu prosiect creadigol ac i ddatblygu cysylltiadau artistig newydd a phresennol.
Y flwyddyn nesaf byddwn yn dathlu 70 mlynedd o annibyniaeth yn India a bydd y British Council yn datblygu tymor o weithgareddau diwylliannol i nodi’r dathlu hwn.
Dywedodd Rebecca Gould, pennaeth celfyddydau British Council Cymru: “Bu ein prosiect Walking Cities diweddar gyda Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn llwyddiant mawr. Cafodd beirdd o Gymru ac India'r cyfle i ymweld â gwledydd ei gilydd er mwyn datblygu gwaith newydd. Bydd y prosiect India-Cymru yn rhoi cyfle i fwy o artistiaid Cymreig ddatblygu perthnasau rhwng y ddwy wlad, gan adeiladu partneriaethau newydd a chreu gwaith newydd.
“Mae gennym ddiddordeb penodol mewn prosiectau sydd yn gweithio gyda chymunedau diaspora yn India ac is gyfandir India yng Nghymru ac sydd yn datblygu arweinwyr y celfyddydau newydd o’r cymunedau hyn. Rydym yn dal i weld toriadau cyson i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru felly mae’n bleser gennym ddod a’r cyllid ychwanegol hwn i’r sector.
Ariennir y gronfa hon gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r British Council.
Gall artistiaid gael rhagor o wybodaeth ar wefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.