Dydd Mawrth 25 Hydref 2022

 

Wedi ymweld â Chymru ddeng mlynedd yn ôl, mae’r canwr a’r cyfansoddwr caneuon Gina Williams yn dod â’i hiaith frodorol, Nwngar, i Ganolfan Mileniwm Cymru 

Bydd y canwr a’r cyfansoddwr caneuon gwobrwyedig o Awstralia, Gina Williams, yn perfformio yn ei hiaith frodorol, Nwngar, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 30 Hydref.

Bydd yn perfformio gyda’i phartner cerddorol, Guy Ghouse, fel rhan o ŵyl Llais – yr ŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau rhyngwladol a gynhelir yn flynyddol yng Nghaerdydd. Mae’r perfformiad yn cael ei gyflwyno fel rhan o Dymor Y Deyrnas Unedig/Awstralia, menter ar y cyd rhwng y British Council ac Adran Materion Tramor a Masnach Llywodraeth Awstralia.

Daw’r perfformiad yma ddeng mlynedd wedi ymweliad Gina â Chymru fel rhan o raglen Accelerate y British Council. Yn ystod yr ymweliad hwnnw gwnaeth Gina benderfyniad a ‘newidodd ei bywyd’ i ddechrau perfformio yn ei mamiaith, Nwngar.

Mae Nwngar yn un o ieithoedd prinnaf y blaned sy’n cael ei siarad gan frodorion cornel de-orllewin Gorllewin Awstralia. Erbyn heddiw mae llai na 400 o bobl yn medru’r iaith. Ond, mae Williams a Ghouse ar ymgyrch i’w chadw rhag diflannu trwy gân. Mae eu cerddoriaeth yn rhoi gwedd fodern ar draddodiadau Aboriginaidd hynafol, gan blethu gitâr acwstig gyda llais a rhythmau naturiol yr iaith.

Wrth sôn am y cyfnod a dreuliodd yng Nghymru, dywedodd Gina: “Ces i sgwrs gyda boi hyfryd o Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Buon ni’n siarad am yr iaith Gymraeg a’r cymariaethau rhyngddi â’r iaith Nwngar, a’r ffaith ei bod ar fin diflannu. Fe soniodd e am sut y mae angen i ti ffeindio’r peth sy’n gwneud i dy galon guro’n gyflymach a mynd ar ôl hynny. Mae hynny’n creu argraff ar bobl, a dyna sut yr wyt yn gallu adfywio dy iaith. I fi, doedd dim rhaid meddwl eilwaith. Ro’n i’n gwybod wedi hynny y byddwn i wastad yn canu yn fy iaith fy hun. Fe ddes adre i Awstralia, a ro’n i’n gwybod beth ro’dd rhaid i fi ei wneud.

Ers hynny, dw i wedi bod eisiau dod yn ôl i Gymru i berfformio achos fe roddodd Cymru rywbeth i fi a newidiodd fy mywyd ac a oedd yn wirioneddol bwysig. Oni fyddai’n fendigedig i ddod yn ôl i Gymru, ac fel ffordd o ddiolch i ddweud: ‘Dyma wnaethoch chi ei ddysgu i fi, ond dyma dw i wedi’i wneud gyda hynny.

Mae iaith yn enedigaeth-fraint. Dw i’n gwneud hyn achos mae’n bwysig, nid dim ond i fi, ond ar gyfer fy mhlant.”

Bellach, mae Gina Williams wedi rhyddhau pum albwm ac wedi derbyn saith o Wobrau Diwydiant Cerddoriaeth Gorllewin Awstralia am ei chyfraniad i gerddoriaeth frodorol. Mae wedi cydweithio gyda Guy Ghouse i ledu poblogrwydd yr iaith Nwngar mewn ysgolion, gan gyfieithu rhai o ganeuon enwocaf y byd i’r iaith. Yn 2021 fe wnaethon nhw gyd-gyfansoddi’r opera gyntaf erioed yn yr iaith Nwngar; cafodd yr opera ei pherfformio gan gwmni Opera Gorllewin Awstralia.

Wrth siarad cyn y perfformiad, dywedodd Rebecca Gould, Cyfarwyddwr Dros Dro British Council Cymru: “Mae’n ddeng mlynedd ers y bu Gina yma fel rhan o raglen Accelerate y British Council ac rydyn ni’n falch iawn fod Tymor Y Deyrnas Unedig/Awstralia wedi galluogi Canolfan Mileniwm Cymru i’w gwahodd hi’n ôl. Mae hi wedi dweud ei bod, yn anad dim, eisiau dweud diolch wrth bobl Cymru, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu cefnogi’r perfformiad yma. Gyda’i gilydd mae Guy a Gina yn perfformio cerddoriaeth sy’n plethu straeon hynafol gyda’r cyfredol – mae’n brofiad na ddylech ei golli. Rydym yn dymuno pob lwc iddyn nhw gyda’r sioe yma.”

Bydd Gina Williams a Guy Ghouse yn perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul 30 Hydref ar Lwyfan Glanfa am 4.30pm. Gallwch fynychu’r digwyddiad yma am ddim. Rhagor o wybodaeth yma: Gŵyl Llais - Gina Williams a Guy Ghouse - Hydref 30

Y British Council yw sefydliad mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol; rydym yn creu cyfleoedd ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Am ragor o wybodaeth am ein cyfleoedd presennol yng Nghymru cymerwch gip ar ein gwefan yma: British Council Cymru neu dilynwch ni ar Twitter, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd,:

Ffôn +44 (0) 28 9019 2224 | Symudol +44 (0)7856524504 

Ebost: claire.mcauley@britishcouncil.orgTwitter, Facebook neu Instagram.

Gwybodaeth am Gina Williams a Guy Ghouse

Mae Gina Williams a Guy Ghouse wedi hen ennill enw am roi gwedd ffres a modern ar draddodiadau hynafol; gan gyfuno seiniau sy’n cyffroi’r dychymyg, offerynau acwstig naturiol a straeon dirdynol gyda’r llais anhygoel a bendigedig yna. Mae eu perfformiadau’n cyfleu a chynrychioli rhythmau naturiol yr iaith, ac mae’r cyswllt rhyngddynt a’u carisma yn gwbl amlwg ar y llwyfan – dau ffrind da sydd, er gwaetha pawb a phopeth, yn gwrthod ildio.

Mae Gina yn un o ferched Balladong; un o 14 llwyth cenedl y Nwngar sy’n byw yng nghornel de-orllewin Gorllewin Awstralia. Yn ôl cofnodion swyddogol, mae’r iaith Nwngar mewn perygl difrifol (bellach, mae llai na 400 o siaradwyr rhugl cydnabyddedig yn ei medru). Roedd ei mam a’i mam-gu yn rhan o’r ‘Cenedlaethau a Gipiwyd’ (stolen generations) ac fe gawsant eu gwahardd rhag siarad eu mamiaith. Ni chafodd Gina ei chipio, ond cafodd ei rhoi i’w mabwysiadu pan oedd yn faban. Mae rhannu ei stori a chanu’r caneuon hardd a chrefftus hyn yn ei mamiaith yn brofiad hynod o bersonol.

Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn ddisglair i’r ddeuawd yma. Maen nhw wedi cyflwyno tri o weithiau arwyddocaol; Koort ar gyfer Gŵyl Perth; Koorlanga - a gafodd ei ail-greu ar gyfer yr Ŵyl Cabaret Ryngwladol a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn Perth; a thymor o berfformiadau lle gwerthwyd pob tocyn o Koolbardi wer Wardong ar gyfer Opera Gorllewin Awstralia. Yn ogystal, fe wnaethon nhw gyhoeddi llyfr ac roeddynt hefyd yn rhan o’r adloniant cyn gêm Ffeinal Fawr yr AFL 2021.

Y British Council

 

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgiadol. Rydym yn hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2020-21 fe wnaethom ymgysylltu â 67 miliwn o bobl yn uniongyrchol, a 745 miliwn yn gyfan gwbl wrth gynnwys cysylltiadau ar-lein, darllediadau a chyhoeddiadau.

 

Rhannu’r dudalen hon