Dydd Mercher 12 Mawrth 2025

 

Ar drothwy 10fed penblwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, yn sôn am sut y mae'r model blaengar hwn yng Nghymru yn denu sylw byd-eang.

Wrth siarad ar bennod ddiweddaraf podlediad y British Council Our World Connected roedd Derek hefyd yn pwysleisio rôl allweddol pobl ifanc yn y broses o siapio dyfodol Cymru.

Byddwn yn dathlu penblwydd y ddeddf, y cyntaf o'i math, yn 10 oed ddydd Llun nesaf (17 Mawrth). Mae'r ddeddf yn mynnu bod cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn meddwl am y tymor hir drwy integreiddio cynaliadwyedd a llesiant i'w gweithgareddau ac ystyried effaith eu penderfyniadau ar genedlaethau'r Gymru rydyn ni'n byw ynddi nawr a chenedlaethau'r dyfodol. Mae wedi newid y ffordd mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu wrth wneud penderfyniadau tymor hir ac o ran eu hatebolrwydd.

Wrth sôn am bwysigrwydd y ddeddf yn rhyngwladol, dywedodd: "Un o'r pethau rhyfeddol am y swydd hon, a do'n i ddim wedi sylweddoli hyn cyn dechrau, yw cymaint o ddiddordeb rhyngwladol sydd yn y model Cymreig. Gan mai ni yw'r cyntaf, ry'n ni ar flaen y gad fel petai....ac felly, dyna pam mae pobl yn edrych ar Gymru. Ond o gwmpas y byd, mae yna wahanol ddulliau gweithredu.

"Mae gan y Ffindir bwyllgor ar gyfer y dyfodol yn ei senedd sy'n eirioli dros feddwl am y tymor hir a rhagweledigaeth a gweithredu. Ac er enghraifft, y llynedd fe wnaethom ni groesawu dirprwyaeth o dalaith Maharashtra yn India. Roedden nhw wrthi'n cyflwyno mesur ar gyfer darn o ddeddfwriaeth am genhedlaethau'r dyfodol yn nhalaith Maharashtra.

"Rydyn ni'n awyddus iawn i rannu ein model, ond dylid ei addasu a'i roi ar waith mewn ffordd sy'n gweddu i'r cyd-destun. Ond mae'n rhaid hefyd iddo fod yn fwy na siop siarad am ddatganiadau polisi a chyhoeddiadau a chytundeb. Mae'n rhaid iddo fod yn real. Mae'n rhaid iddo arwain at weithredu a chael effaith."

Mae'r podlediad hefyd yn trafod ymchwil diweddar y British Council - Next Generation. Cynhaliodd yr ymchwil arolwg o bobl ifanc ledled y Deyrnas Unedig a'u holi am yr heriau sy'n eu hwynebu, eu dyheadau, eu hymgysylltiad gwleidyddol a safle'r Deyrnas Unedig yn y byd ac ymgysylltu'n rhyngwladol.

Yng Nghymru, canfu'r arolwg fod pobl ifanc yn fwy tebygol o feddwl bod eu safbwyntiau'n cael eu cyflwyno yn y broses o wneud penderfyniadau ar y lefel genedlaethol na phobl ifanc mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond canfu hefyd nad ydyn nhw'n meddwl bod eu llais yn ysgogi gweithredu ar y lefel genedlaethol, a bod y niferoedd sy'n bwriadu pleidleisio yn eu mysg yn is nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.

Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd Derek: "O ran y bleidlais ieuenctid a'r bwriad i bleidleisio mae'n siom i weld bod gyda ni yng Nghymru rai o'r ystadegau isaf yn y DU. Un o'r ffyrdd y gallwn weithio o ran deddfwriaeth....yw drwy gynnwys pobl yn y broses a pheidio gwneud penderfyniadau am bobl hebddynt - heb eu cynnwys yn iawn yn y penderfyniadau. Nid ymgynghori'n oddefol, ond cynnwys pobl mewn ffordd briodol ar yr adeg iawn. Nid yw hynny'n bosibl gyda phopeth, ond rhaid osgoi dim ond gwneud er mwyn gwneud hefyd. Rhaid gwneud ar yr adeg iawn, pan gall penderfyniadau gael eu rhannu a lle gall pobl leisio'u barn."

Wrth drafod ymwneud pobl ifanc ymhellach, dywedodd: "Yr hyn rwy'n ei glywed yn aml yw, er bod pobl ifanc yn cael cynnig i eistedd wrth y bwrdd, does neb yn gwrando arnynt. Maen nhw'n cael gwahoddiad am fod angen person ifanc wrth y bwrdd, ac nid am eu bod eisiau gwrando o ddifrif ar yr hyn sydd gan y bobl ifanc i'w ddweud a gweithredu ar hynny.

"Mae'n siomedig ein bod ni'n dal mewn sefyllfa lle nad yw lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed, a dyna pam y gwnaethom ni greu Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r fenter hon yn grymuso pobl ifanc i ddeall ein deddfwriaeth a'u paratoi i fod yn arweinwyr y dyfodol.

"Rydyn ni angen ac eisiau sicrhau bod gan ein pobl ifanc lais uwch a mwy pwerus yn y dyfodol ac yn y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud heddiw."

Wrth i Gymru ddathlu deng mlynedd o gynnydd, mae Derek yn parhau i deimlo'n obeithiol y bydd gwaddol Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ysbrydoli newid byd-eang a grymuso pobl ifanc a chymunedau i greu dyfodol cynaliadwy a ffyniannus i bawb.

Dywedodd: "Rwy'n teimlo'n wirioneddol gyffrous am yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn ein hysgolion drwy ein newidiadau i'r cwricwlwm. Rydyn ni'n rhoi mwy o'r sgiliau anghenrheidiol i bobl ifanc yn ogystal â gwell dealltwriaeth o sut mae democratiaeth yn gweithio, a gwell gwybodaeth am newid yr hinsawdd ac argyfwng byd natur.

"Dylai pethau fel hyn sydd wedi'u hysbrydoli gan lesiant cenedlaethau'r dyfodol roi'r sgiliau, gwybodaeth, profiad a, gobeithio, yr hyder i bobl ifanc wneud y peth iawn ar gyfer y tymor hir.

"Mae'n rhaid i ni fod yn ddewr, ac mae angen i ni weithredu ar frys achos mae amser yn mynd yn brin ar gyfer rhai o'r materion y mae angen i ni eu taclo."

Nod podlediad Our World Connected a gynhyrchir gan y British Council yw cyflwyno sgyrsiau byd-eang pwysig am ddiwylliant, cysylltu a grymuso. Cyflwynir y podlediad gan Christine Wilson, Cyfarwyddwr Ymchwil a Mewnwelediad y British Council. Ym mhob pennod mae hi a'i gwesteion yn ystyried sut y gall pobl weithio gyda'i gilydd i greu byd mwy heddychlon a ffyniannus. Mae'r podlediad yn cael ei hyrwyddo mewn dros 100 o wledydd ledled rhwydwaith fyd-eang y British Council.

Dyma ail gyfres y podlediad. Gallwch wrando ar y bennod gyda Derek yma:  https://www.britishcouncil.org/research-insight/our-world-connected-podcast/future-generations-better-tomorrow

Mae podlediad Our World Connected yn parhau gwaith y British Council o feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a thramor drwy'r celfyddydau, addysg ac addysgu'r iaith Saesneg. Cewch fwy o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru ar ein gwefan yma British Council Cymru, neu drwy ein dilyn ar X, Facebook neu Instagram.

Nodiadau i olygyddion

Ar gyfer ymholiadau'r cyfryngau, cysylltwch â: 

Claire McAuley, Uwch Reolwr Cyfryngau ac Ymgyrchoedd, British Council: +44 (0)7542268752     E: Claire.McAuley@britishcouncil.org 

Y British Council

Y British Council yw sefydliad rhyngwladol y Deyrnas Unedig ar gyfer cysylltiadau diwylliannol a chyfleoedd addysgol. Rydym yn meithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd drwy ein gwaith ym meysydd y celfyddydau a diwylliant, addysg a’r iaith Saesneg. Rydym yn gweithio gyda phobl mewn dros 200 o wledydd a thiriogaethau ac mae gyda ni bresennoldeb ar lawr gwlad mewn dros 100 o wledydd. Yn 2022-23 fe wnaethom ni ymgysylltu â 600 miliwn o bobl.

Rhannu’r dudalen hon