- Dirywiad o 60% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn patrwm o ddirywiad parhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 2002.
- Mewn 39% o’r ysgolion eleni, naill ai does dim darpariaeth ITM neu does dim disgyblion Ôl-16 o gwbl wedi dewis astudio ITM.
- Perygl o golli cenhedlaeth gyfan o ddysgwyr ieithoedd wrth i blant sy’n dechrau dysgu ieithoedd yn yr ysgol gynradd ffeindio fod prinder darpariaeth ITM neu ddim darpariaeth o gwbl mewn ysgolion uwchradd.
- Darlun mwy cadarnhaol yn dechrau ymddangos ymysg yr ysgolion cynradd lle ceir tystiolaeth fod diddordeb mewn ITM a gweithgareddau’n ymwneud ag ITM yn cynyddu.
- Cynnydd o 77% dros y pum mlynedd ddiwethaf yn nifer y disgyblion sy’n dewis TGAU Cymraeg Ail Iaith, ochr yn ochr â dirywiad o 28% mewn ITM.
Mae nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU a Lefel A mewn Ieithoedd Tramor Modern yn plymio yng Nghymru yn ôl adroddiad newydd gan British Council Cymru.
Mae’r adroddiad yn dangos fod y dirywiad yn fwy serth yng Nghymru nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda chwymp o 28% yn nifer y cofrestriadau ar gyfer TGAU mewn Ieithoedd Tramor Modern yn ystod y pum mlynedd diwethaf a gostyngiad o 22% ar gyfer Lefel A. Mae gan yr Alban ei system addysg ei hunan.
Mae’r adroddiad yn dangos fod disgyblion mewn 73% o’r ysgolion yn dewis peidio astudio ieithoedd ar gyfer TGAU a Lefel A am fod yr arholiadau’n rhy anodd. Yn ogystal, ystyrir bod ITM yn anaddas ar gyfer disgyblion llai abl ac yn heriol i bawb.
Mae adroddiadau Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru gan British Council Cymru wedi bod yn cynnal arolygon ac olrhain dirywiad addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru ers dros bum mlynedd.
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr, British Council Cymru:
“Os yw Cymru am fod yn effeithiol wrth werthu ei hunan i’r byd, mae angen pobl ifanc sydd â sgiliau iaith da sy’n gallu manteisio ar gyfleoedd busnes a dylanwadu’n gadarnhaol ar weddill y byd. Mae hyn yn bwysicach fyth yng nghyd-destun Brexit gan y bydd mwy o angen nag erioed i Gymru estyn allan i weddill y byd. Gallai dirywiad parhaus ITM yn ein hysgolion niweidio gallu Cymru i wneud hynny yn y tymor hir.
Rydym yn falch i nodi fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu adnewyddu cynllun Dyfodol Byd-eang gan obeithio y bydd hyn hefyd yn cynnwys proses o ymgynghori gydag ysgolion a sefydliadau sy’n gweithio mor galed i wella sefyllfa ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru.
Mae angen i’r gwaith yma gyd-fynd â newid mewn agwedd; mae angen mynd i’r afael â’r argraff fod ieithoedd tramor, rhywsut, yn llai gwerthfawr.”
Mae hynny wedi bod yn gŵyn gyson gan athrawon yn ystod pum mlynedd o adroddiadau Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru. Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru eu bod yn mynd i adolygu manylebau ITM. Mae hynny’n adleisio adolygiad tebyg a gynhaliwyd yn Lloegr i addasu safonnau graddio arholiadau TGAU Ffrangeg ac Almaeneg.
Yn ogystal ag ystyried data arholiadau a holi athrawon mewn 269 o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru, mae’r adroddiad hefyd yn bwrw golau ar sut mae agweddau at werth sgiliau iaith wedi newid a throi’n negyddol dros amser. Er gwaethaf tystiolaeth gadarn fod ieithoedd yn bwysig ar gyfer masnach, busnes ac ymchwil, mae tueddiad cynyddol ymysg disgyblion yng Nghymru i gefni ar sgiliau iaith. Yn gynyddol, ystyrir bod pynciau STEM yn fwy defnyddiol i ddisgyblion a myfyrwyr sy’n graddio mewn marchnad eithriadol o gystadleuol.
Mae arolwg eleni hefyd yn tanlinellu’r cymlethdodau sy’n ein hwynebu wrth hybu ITM yn effeithiol yng Nghymru. Er bod ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn cofleidio dysgu ieithoedd rhyngwladol ynghynt nag ysgolion cyfrwng Saesneg, mae athrawon yn nodi fod ymdrechion i hybu’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd weithiau’n digwydd ar draul ITM. Mae perygl felly ein bod ni’n colli cyfle i fanteisio ar botensial Cymru i ddatblygu’n wlad wirioneddol amlieithog.
Mae darlun mwy cadarnhaol yn dechrau datblygu ymysg ysgolion cynradd lle ceir tystiolaeth fod diddordeb mewn ITM a gweithgareddau’n ymwneud ag ITM yn cynyddu, yn enwedig mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ymatebodd 155 o ysgolion cynradd i arolwg Tueddiadau Ieithoedd yng Nghymru ac fe ddangosodd yr ymatebion hynny fod y ddarpariaeth ar gyfer dysgu ieithoedd yn cynyddu. Dywedodd 39% o’r ysgolion eu bod yn darparu rhyw fath o wers ITM, o’i gymharu â 28% yn 2016. Yn ddiweddar mae’r Gweinidog dros Addysg wedi ailadrodd y neges am bwysigrwydd cynnwys ITM yng ngwricwlwm ein hysgolion cynradd.
Ond, rydym mewn perygl o golli cenhedlaeth gyfan o ddysgwyr ieithoedd wrth i blant sy’n dechrau dysgu ieithoedd yn yr ysgol gynradd ffeindio fod prinder darpariaeth neu ddim darpariaeth o gwbl ar gyfer Ieithoedd Tramor Modern mewn 39% o ysgolion uwchradd.
Casgliad cyffredinol arolwg eleni yw bod angen cymhellion a chefnogaeth tipyn mwy na maint a chwmpas presenol cynllun Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru i ateb her y dirywiad difrifol mewn Ieithoedd Tramor Modern yn ysgolion uwchradd Cymru ac i helpu’r gwaith o ddatblygu’r ddarpariaeth mewn ysgolion cynradd. Fel arall, mae perygl y byddwn ni’n wynebu diffyg ieithoedd yng Nghymru.