Adroddiad yn canfod dirywiad 'sylweddol' yn y niferoedd sy'n dysgu ieithoedd tramor mewn ysgolion yng Nghymru
• Mae ieithoedd tramor modern yn cael eu gwthio i'r cyrion fwyfwy o fewn y cwricwlwm yng Nghymru
• Mae llawer o ddisgyblion ond yn cael y profiad lleiaf posibl neu brofiad tameidiog o ddysgu ieithoedd
• Nid yw manteision posibl dwyieithrwydd yn cael eu gwireddu yng Nghymru pan mae'n dod i ddysgu iaith dramor fodern
• Yn y cyfnod o ddeng mlynedd rhwng 2005 a 2014, mae cofrestriadau lefel Uwch mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg wedi haneru
• Dim ond 22% o ddisgyblion Cymru sy'n astudio TGAU mewn iaith ar wahân i Gymraeg neu Saesneg
Mae'r arolwg cenedlaethol cyntaf ar addysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi canfod bod dysgu ieithoedd tramor yn cael ei wthio i'r cyrion fwyfwy o fewn y cwricwlwm yng Nghymru, gyda nifer y disgyblion sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern yn lleihau.
Mae adroddiad Tueddiadau Iaith Cymru, a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Addysg y CfBT a'r British Council, yn pwysleisio dirywiad dysgu ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru. Mae hyn er gwaethaf y fantais ddwyieithog a ddylai fod gan Gymru wrth ddysgu ieithoedd eraill, gydag arbenigwyr yn cytuno bod cael dwy iaith yn barod yn gwneud dysgu trydydd un yn haws.
Mae Tueddiadau Iaith Cymru yn nodi mai dim ond 22% o ddisgyblion yng Nghymru sy'n astudio iaith arall ar wahân i Saesneg neu Gymraeg yn y byd heddiw sydd wedi globaleiddio. Mae athrawon yn dweud bod llai o amser ar gyfer ieithoedd yng nghwricwlwm Cyfnod Allweddol 3, er gwaethaf canllawiau Estyn ar gyfer y swm o amser a ddylai gael ei roi i ieithoedd tramor modern. Maent hefyd yn dweud nad yw disgyblion yn dewis astudio ieithoedd tramor modern oherwydd eu bod yn ystyried arholiadau iaith yn 'anodd' a bod cystadleuaeth o bynciau eraill y maent yn gallu dewis eu hastudio ar lefel TGAU.
Mae'r darlun cyffredinol o ran ieithoedd tramor mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn un o ddarpariaeth Ffrangeg yn bennaf. Mae Almaeneg yn cael ei dysgu mewn tua chwarter o ysgolion a chaiff Sbaeneg ei dysgu mewn llai na hanner. Nid oes yr un ysgol yng Nghymru yn cynnig Arabeg, Rwseg nac Wrdw a dim ond nifer fach iawn sy'n cynnig ieithoedd a addysgir i raddau llai fel Tsieinëeg neu Eidaleg.
Yn y cyfnod o ddeng mlynedd rhwng 2005 a 2014, mae cofrestriadau lefel Uwch mewn Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg wedi haneru. Mae'r nifer fechan o fyfyrwyr sy'n dewis ieithoedd ar lefel Uwch yn golygu bod cyrsiau yn dod yn anymarferol yn ariannol mewn llawer o achosion. Roedd athrawon a oedd yn ymateb i'r arolwg yn pryderu'n fawr am y sefyllfa lefel Uwch, yn fwy na'r nifer sy'n gostwng ar lefel TGAU.
Y dirywiadau mwyaf yw dysgu Ffrangeg ac Almaeneg, sef; sy'n draddodiadol, y ddwy iaith a ddysgir fwyaf yng Nghymru, gyda'r nifer sy'n ymgeisio yn cwympo 41 y cant a 54 y cant yn y drefn honno, yn ystod y cyfnod o ddeng mlynedd rhwng 2005 a 2014.
Bu ychydig o gynnydd yn y nifer sy'n dysgu Sbaeneg o 2001 ymlaen a chymerodd le Almaeneg fel yr ail iaith a astudir fwyaf ar lefel Uwch yn 2009. Fodd bynnag, bu gostyngiad yn y niferoedd sy'n astudio Sbaeneg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chwymp mawr o 22 y cant rhwng 2013 a 2014.
Roedd y mwyafrif o athrawon ieithoedd tramor modern (89%) yn gadarnhaol ynghylch addysgu Cymraeg mewn ysgolion cynradd, ond mae llawer o'r farn y gellid ond gwneud y mwyaf o fanteision dwyieithrwydd os oes gan ddisgyblion safon uchel o addysgu Cymraeg ar lefel cynradd.
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: "Mae'r nifer fach o ddisgyblion ysgol yng Nghymru sy'n astudio ieithoedd tramor yn destun pryder. Rydym yn byw mewn byd sydd wedi globaleiddio fwyfwy ac mae angen pobl ifanc â sgiliau iaith a rhyngddiwylliannol ar bob gwlad, sy'n hanfodol i lwyddiant busnes rhyngwladol. Rydym yn gwybod bod diffyg mewn sgiliau iaith dramor hefyd yn un o'r ffactorau sy'n atal pobl ifanc rhag cymryd cyfleoedd rhyngwladol, fel y rhai a gynigir gan Erasmus+, sy'n gallu cynyddu cyflawniad academaidd a phroffesiynol."
Ychwanegodd Tony McAleavy, Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu CfBT: "Am y tro cyntaf, mae'r arolwg hwn yn rhoi'r cyfle i ni gael darlun o ddysgu ieithoedd yng Nghymru, sy'n pwysleisio'r llwyddiannau a'r heriau y mae hyn yn ei olygu. Mae'r dyfodol o ran ieithoedd yn ansicr ac nid yw disgyblion yn cael y cyfleoedd na'r anogaeth sydd eu hangen i ddal ati wrth ddysgu iaith."