Mae Amy Edwards, sy'n artist amlddisgyblaethol o Abertawe wedi ennill Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru 2014.
Cafodd ei gwaith buddugol What a Wonderful World ei ddisgrifio gan un o'r beirniaid fel delwedd sy'n 'hudo ac yn anesmwytho'.
Cyflwynwyd y wobr i Amy gan gyfarwyddwr British Council Cymru, Jenny Scott, mewn seremoni wobrwyo yn y Park House yng Nghaerdydd ar 17 Rhagfyr.
Graddiodd Amy o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), lle y cwblhaodd ei diploma sylfaen mewn celf a dylunio a gradd BA (Anrhydedd) mewn Celfyddyd Gain (Cyfryngau Cyfun).
Mae ei llwyddiant hi yn dilyn llwyddiant y ffotograffydd, Andrew Morris, enillydd y llynedd, sydd hefyd yn raddedig o PCYDDS - lle yr enillodd radd BA (Anrhydedd) Celf mewn Ffotograffiaeth.
Roedd beirniaid y wobr yn arbenigwyr celf blaenllaw: Karen MacKinnon, cyfarwyddwr Artes Mundi; yr artist Cymreig Marc Rees a Hannah Firth, cyfarwyddwr celfyddydau gweledol yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.
Roedd rhaid i ymgeiswyr y wobr eleni, sy'n cael ei threfnu gan British Council Cymru, adlewyrchu, dehongli neu gael eu hysbrydoli gan waith Dylan Thomas. Roedd gwaith Amy yn adlewyrchu geiriau cerdd Dylan, And Death Shall Have No Dominion.
Wrth ddisgrifio datblygiad diddorol What a Wonderful World, dywedodd Amy, sy'n gweithio gyda phynciau 'annifyr' a geir mewn testunau, fideos a delweddau ar y Rhyngrwyd: "Tynnais lun o ddelwedd a gefais ar y rhyngrwyd o ddyn yn hongian o bont ym Mecsico. Roedd y llun wedi dod o wefan graffig iawn. Wrth ddod ar draws y ddelwedd wreiddiol, doeddwn i ddim wedi cael sioc, doeddwn i ddim yn teimlo'n sâl nac yn drist chwaith, ond roedd y llun wedi ennyn fy chwilfrydedd. Gwnaeth i mi feddwl am yr unigolyn a fu farw, gall unrhyw un ei weld yn awr drwy glicio ar fotwm. Fodd bynnag, yn y darn hwn, penderfynais yn benodol i'w sensro gan y byddai ei ddangos ar ei ffurf wreiddiol yn peri gormod o ofid i bobl."
Dywedodd Marc Rees: "Mae'r ddelwedd yn hudo ac yn anesmwytho, a gyda'r gwrthgyferbyniad clyfar o un o gerddi enwocaf Dylan Thomas, And Death Shall Have No Dominion, mae'n rhoi ffocws clir i'r pwnc a'r cynnwys. Creodd pŵer y ddelwedd a'r ffordd y mae'n rhoi geiriau Thomas mewn cyd-destun gwleidyddol cyfoes argraff arnom. Mae'n enillydd haeddiannol ac rwy'n siŵr y bydd Amy'n croesawu'r cyfleoedd newydd a chyffrous a ddaw yn sgil ennill y wobr hon."
Dywedodd Jenny Scott: "Nod British Council Cymru yw mynd â diwylliant Cymru i'r byd ac annog pobl ifanc i ennill profiad rhyngwladol er mwyn eu helpu i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol. Gwyddom fod gan Gymru ddiwylliant celfyddydol ffyniannus ac rydym am weld mwy o dalent greadigol o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol. Byddwn yn gweithio gydag Amy i'w helpu i ddatblygu safbwynt rhyngwladol ar gyfer ei gwaith."
Mae Amy'n ennill £500 a bydd yn magu profiad rhyngwladol gyda thaith i'r Venice Biennale, lle bydd yn gweithio gyda phennaeth celf British Council Cymru.
Mae Gwobr Artist Ifanc Rhyngwladol Cymru yn agored i artistiaid rhwng 17 a 25 oed a gafodd eu geni yng Nghymru neu sy'n byw yn y wlad.