Bydd arddangosfa o 62 o ffotograffau yn dathlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia gan un o brif ffotograffwyr yr Ariannin, Marcos Zimmermann, yn cael eu harddangos i’r cyhoedd yng Nghaerdydd.
Mae’r lluniau’n dangos pobl leol, yn cynnwys disgynyddion yr ymfudwyr cyntaf o Gymru, yn eu cartrefi, yn gweithio ac yn hamddena, ynghyd â golygfeydd trawiadol.
Comisiynwyd yr arddangosfa gan Lysgenhadaeth yr Arianin yn Llundain i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r wladfa Gymreig yn yr Ariannin.
Cyn hyn, bu’r arddangosfa ar ymweliad â’r Senedd am undydd yn unig dros yr haf ac ym Mhalas San Steffan yn Llundain. Mae British Council Cymru wedi dod â’r arddangosfa yn ôl i Gaerdydd fel rhan o’i waith yn cefnogi Patagonia 150, y flwyddyn ddathlu yng Nghymru. Mae’r arddangosfa’n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Neuadd Dewi Sant.
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Pan welodd fy nhîm yr arddangosfa yn y Senedd, roedden nhw’n benderfynol o ddod â hi nôl i Gaerdydd fel y gallai mwy o bobl ei mwynhau. Mae’r ffotograffau hardd yn rhoi cipolwg unigryw ar fywyd y Batagonia Gymreig heddiw. Eleni, rydym wedi cefnogi ymweliadau i Batagonia gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chasgliad y Werin Cymru, a nawr rydym yn falch o gyflwyno darn o ddiwylliant yr Ariannin a Phatagonia i Gymru.”
Mae’r arddangosfa ar agor o 21 Tachwedd tan 30 Ionawr 2016, 10yb -4yp, dydd Llun tan ddydd Sadwrn, hefyd ar nosweithiau ac ar y Suliau (os oes cyngerdd ymlaen), ar Lefel 2, Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd. Mae’r arddangosfa am ddim a croeswir pawb.