Mae stiwdio animeiddio Winding Snake Productions wedi teithio i India i godi stiwdios animeiddio gwib yn Delhi a Jaipur, lle bydd y tîm yn gofyn i bobl leol rannu eu sgiliau rangoli yn gyfnewid am sgiliau animeiddio.
Mae hwn yn rhan o brosiect ehangach, Rangoli: art that binds. Rangoli yw enw'r grefft o greu patrymau ar loriau gan ddefnyddio deunyddiau fel tywod lliw, reis a phetalau. Mewn cyfres o weithdai yng Nghymru ac India, mae tîm Winding Snake am ddysgu rhagor am rangoli a dulliau celf cysylltiol, sef mandana a kola, a rhannu ychydig o'u sgiliau animeiddio 2D yn gyfnewid.
Meddai Amy Morris, rheolwr gyfarwyddwr Winding Snake Productions: "Rydw i wastad wedi edmygu rangoli. Ar ôl tyfu lan ym Mhrydain gyda mamgu o India, dw i'n cofio cael fy swyno gan y patrymau a'r dyluniadau oedd yn cael eu creu yn ystod Diwali, ac yn ystod taith flaenorol i India fe wnes i siarad gyda llawer o bobl oedd yn dweud nad celf yw rangoli - dw i'n anghytuno. Dw i'n meddwl y dylen ni fod yn dathlu'r sgiliau a'r creadigrwydd sydd eu hangen i greu rangoli."
Ar ôl dychwelyd o'r trip, bydd y tîm yn cynhyrchu ffilm animeiddiad 2D fer i ddathlu sgiliau a gwybodaeth rangoli. Yn ogystal, byddan nhw'n ymweld ag ysgolion, prifysgolion a grwpiau Geidiau yn India a Chymru i rannu eu profiadau.
Meddai Rebecca Gould, pennaeth celfyddydau British Council Cymru: “Mae Rangoli: art that binds yn brosiect am gyfeillgarwch; rhwng celfyddyd a diwylliant, rhwng artistiaid rhyngwladol a sefydliadau celfyddyd rhyngwladol a chyfeillgarwch rhwng India a Chymru sy'n dod â phobl yn y ddwy wlad ynghyd i rannu rhywbeth hyfryd."
Mae'r tîm hefyd yn casglu straeon o India, Cymru a gweddill y byd am y ffordd mae celf a chreadigrwydd wedi dod â phobl ynghyd a chreu neu gryfhau cysylltiadau. Bydd y straeon i'w gweld ar wefan y prosiect - artthatbinds.org Os hoffech chi rannu eich stori, cysylltwch â Jenny@WindingSnake.com
Mae Rangoli: art that binds yn cael ei ariannu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, British Council Cymru, Campws Cyntaf a Ffilm Cymru fel rhan o India Cymru, sef tymor o gydweithio artistig rhwng y ddwy wlad i nodi Blwyddyn Diwylliant DU-India ac sydd wedi cael ei ddatblygu gan Amy Morris ar ran Winding Snake Productions.